27 Ionawr 2022

 

Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi’r dyddiad ar gyfer digwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru eleni, sydd yn ôl am y tro cyntaf ers y pandemig. 

Os ydych chi eisiau arddangos cynnyrch neu wasanaeth, neu hyrwyddo eich sefydliad yn sioe Arloesi ac Arallgyfeirio Cyswllt Ffermio 2022, sy’n digwydd ar Faes Sioe Frenhinol Cymru ddydd Mercher 15 Mehefin, mae angen i chi gyflwyno eich ffurflen ‘mynegi diddordeb’ ar-lein er mwyn sicrhau eich bod yn archebu eich lle fel arddangoswr cyn gynted â phosib. 

Caiff Cyswllt Ffermio ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, a chaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Cynhaliwyd y digwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru cyntaf ar Faes Sioe Frenhinol Cymru ym mis Medi 2019, a denodd dros 1,000 o ymwelwyr a 90 o arddangoswyr. 

“Am lwyddiant ysgubol”, ac “a gawn ni fwy o ddigwyddiadau fel hyn os gwelwch yn dda?” oedd yr ymateb mewn arolwg a gynhaliwyd ar ôl y digwyddiad gan Menter a Busnes, a gyflwynodd y digwyddiad ochr yn ochr â Lantra Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Nod digwyddiad eleni yw adeiladu ar y momentwm hwnnw, gan annog hyd yn oed mwy o fusnesau fferm a choedwigaeth i fanteisio ar y cymorth, gwybodaeth, syniadau arallgyfeirio a thechnolegau newydd a fydd yn eu helpu i lwyddo yn y farchnad hynod gystadleuol sydd ohoni heddiw. 

Dywed Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, fod y cloc eisoes yn tician ar gyfer arddangoswyr sydd eisiau archebu lle ar gyfer y digwyddiad eleni. Mae’n dweud bod y tîm cynllunio eisoes yn gweithio ar fformat a fydd ‘hyd yn oed yn fwy’ ac ‘yn well’ nag o’r blaen.  

“Cawsom ymateb hynod gadarnhaol i’r digwyddiad cyntaf, gan ymwelwyr ac arddangoswyr, ac rydym eisiau adeiladu ar y llwyddiant hwnnw. Mae wedi helpu llawer o’r rhai a gymerodd ran i wneud cysylltiadau newydd a gwerthfawr, datblygu neu sefydlu mentrau arallgyfeirio newydd a gweithredu ffyrdd arloesol a mwy effeithlon o weithio.” 

Fe ddenodd sioe 2019 ystod amrywiol o siaradwyr enwog ysbrydoledig, megis The Black Farmer a The Red Shepherdess. Roedd y sioe hefyd yn cynnwys cyfres o weithdai sector-benodol, gydag arddangoswyr yn arddangos technolegau newydd ac arloesol ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth. Cadwch lygad ar wefan Cyswllt Ffermio i weld pwy sydd wedi’i drefnu ar gyfer 2022. 

Ac yntau wedi’i ddisgrifio fel digwyddiad i ysbrydoli, ysgogi a chylchredeg syniadau, gyda rhwydweithio a gwneud cysylltiadau newydd yn cael ei nodi fel un o’r manteision allweddol, ac mae’r digwyddiad eleni yn argoeli i fod yr un mor llwyddiannus â digwyddiad 2019.  

“I unrhyw arddangoswyr sydd eisiau cymryd rhan, mae’n bryd i chi ddatgan eich diddordeb drwy archebu stondin,” meddai Mrs Williams.  

Ar gyfer gwybodaeth bellach, cliciwch yma. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites