8 Mawrth 2022

 

Bydd angen i nifer o ffermydd llaeth yng Nghymru sicrhau eu bod yn cynhyrchu mewn ffordd fwy effeithlon er mwyn lleihau eu hôl troed carbon a chyflawni targedau allyriadau a ysgogir gan y farchnad a chan bolisi.

Yn ystod gweminar a gynhaliwyd gan Gyswllt Ffermio yn ddiweddar, hysbyswyd ffermwyr gan Diane Spence, ymgynghorydd amaethyddol, bod amaethyddiaeth yn gyfrifol am 14% o'r holl allyriadau yng Nghymru, a bod tua 27% o'r rhain yn dod o'r sector llaeth.

Er bod y ganran hon yn is na'r 29% a gynhyrchir gan y diwydiant cyflenwi ynni, y 22% gan fyd busnes a'r 16% gan drafnidiaeth, cynghorwyd ffermwyr a fu'n cymryd rhan mewn gweminar a gynhaliwyd gan Gyswllt Ffermio yn ddiweddar ei bod yn bwysig cymryd camau i leihau'r ganran hon os yw targedau y cytunwyd arnynt ar gyfer y diwydiant yn mynd i gael eu cyflawni.

Mae ôl troed carbon cynnyrch yn ymwneud â chyfanswm y nwyon tai gwydr y mae'n eu rhyddhau yn ystod ei gylch bywyd llawn; mae'r rhain yn cynnwys methan, ocsid nitrus a charbon deuocsid.

Allyriadau methan enterig yw ffynhonnell unigol fwyaf allyriadau nwy tŷ gwydr (GHG) uniongyrchol ymhlith anifeiliaid cnoi cil - ond mae allyriadau ocsid nitrus (sy'n gysylltiedig â nitrogen mewn tom a gwrteithiau a brynir) yn bwysig hefyd. Yn wahanol i ocsid nitrus a charbon deuocsid, mae methan yn nwy dynamig sy'n aros yn yr atmosffer am 10-12 mlynedd.

Soniodd Diane wrth y weminar mai'r defnydd effeithlon o fewnbynnau mewn perthynas ag allbynnau yw'r peth allweddol er mwyn lleihau'r ôl troed carbon, a bod cysylltiad agos rhwng hyn a pherfformiad technegol cyffredinol menter. 

Ceir pum prif faes sy'n berthnasol i bob math o fferm laeth – o systemau pori helaeth i systemau dan do llawn – o ran lleihau eu hôl troed carbon:

 
Effeithlonrwydd porthiant a phrotein

Ceir ymyriadau, megis offerynnau fformiwleiddio dognau a dadansoddi silwair, er mwyn gwella hyn.

Cynghorodd Diane y dylai ffermwyr ystyried dewisiadau amgen i flawd ffa soia (a gaiff ei fewnforio o wledydd trofannol fel Brasil a'r Ariannin, ac sy'n gysylltiedig â datgoedwigo ac allyriadau nwyon tŷ gwydr uchel), megis blawd had rêp - a hefyd, rôl sgil-gynhyrchion megis grawn bragu a mwydion betys siwgr yn y dogn.

Geneteg ac iechyd anifeiliaid

Mae ffrwythlondeb, oedran yr anifail pan fyddant yn geni eu llo cyntaf a marwoldeb yn bwysig. 

Argymhellodd Diane y dylai ffermwyr ddefnyddio eu cynllun iechyd buches i fonitro perfformiad. Dylai hyn gynnwys nodi cyfradd farwoldeb y fuwch dros y 12 mis diwethaf, pennu tri maes ffocws a phennu nodau realistig er mwyn sicrhau gwelliant. “Mae'n ymwneud â chael gwartheg iach,” dywedodd.

Defnydd effeithlon o faethynnau a gwrteithiau anorganig mewn tom, a nitrogen yn arbennig

Mae allyriadau ocsid nitrus yn deillio o gynhyrchu a defnyddio gwrtaith mwynol, yn ogystal ag o slyri a thom buarth (FYM) yn ystod gweithgarwch storio a defnyddio.

Mae optimeiddio swm y nitrogen a brynir ac a ddefnyddir, a gwella'r trefniant ar gyfer defnyddio, storio a gwasgaru tom yn cael effaith arwyddocaol ar yr ôl troed carbon. Mae'n bwysig cynnal cynllun rheoli maethynnau a phrofi pridd yn rheolaidd er mwyn asesu'r maethynnau a'r galw.

Mae gwasgaru FYM pan fo'r borfa yn tyfu yn ystod y gwanwyn ac ar ddechrau'r haf yn gwella effeithlonrwydd wrth amsugno maethynnau; yn ogystal, mae'n lleihau allyriadau a materion amgylcheddol canlyniadol megis dŵr ffo a thrwytholchi, sy'n broblem benodol pan gaiff ei wasgaru yn ystod amodau gwlyb.

Mae gorchuddio safleoedd storio tom yn lleihau allyriadau ocsid nitrus hefyd, gan helpu i wella cyfraddau defnyddio maethynnau.

Defnydd tir

Mae porthiant yn cynrychioli rhan sylweddol o'r diet ar ffermydd llaeth yng Nghymru; felly, mae'n bwysig optimeiddio cynhyrchiant glaswelltir.

Er mwyn sicrhau porfa o ansawdd da a lleihau ôl troed carbon eu fferm, dylai ffermwyr ystyried osgoi troi'r tir, gan gynnal porfa heb ail-hadu trwy ddefnyddio tros-hau neu'r gweithgarwch trin tir lleiaf, neu geisio cynnal gwyndynnydd hir.

“Dylent annog mwy o gyfraniad gan godlys ac ystyried rhywogaethau sydd â gwreiddiau dyfnion, er enghraifft, llyriad,” dywedodd Diane.

Atafaelu

Mae cloi nwyon tŷ gwydr i ffwrdd yn bwysig hefyd; ceir cyswllt uniongyrchol rhwng hyn ac iechyd y pridd. Bydd pridd nad yw wedi'i gywasgu ac sy’n iach yn atafaelu mwy o garbon.

“Mae hyn oll yn dda ar gyfer perfformiad glaswelltir, hefyd,” nododd Diane.

Mae amaethyddiaeth mewn sefyllfa unigryw i atafaelu carbon, gan fod ganddi'r tir a'r gallu i wneud hyn.

Aeth Diane ymlaen i annog ffermwyr i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael trwy Cyswllt Ffermio er mwyn profi pridd, dadansoddi porthiant a chael cyngor ynghylch rheoli glaswelltir a chreu dognau.

Datblygwyd oddeutu 60 o offerynnau er mwyn cyfrifo ôl troed carbon fferm. Fodd bynnag, ceir tri offeryn am ddim sydd ar gael, a'r rhain yw'r rhai mwyaf cyffredin a ddefnyddir: Farm Carbon Toolkit, Cool Farm Tool ac SAC Agrecalc.

Wrth ddewis pa offeryn i'w ddefnyddio, mae'n bwysig dewis un a chadw ato, wrth fesur yr ôl troed ar ôl gwneud newidiadau.

Ar gyfer grwpiau o ffermwyr sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, mae cyllid o 100% ar gael er mwyn cyfrifo ôl troed carbon eu busnesau.

Darparir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe'i hariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu