Taith Astudio Cyswllt Ffermio - Grŵp Glaswelltir Uwch Hafren
Grŵp Glaswelltir Uwch Hafren
Sir Benfro
Hydref 2021
1 Cefndir
Mae Grŵp Glaswelltir Uwch Hafren yn ceisio trefnu taith ar gyfer eu haelodau bob blwyddyn; fodd bynnag, yn sgil yr amgylchiadau anodd yn ystod y flwyddyn diwethaf, nid yw’r grŵp wedi gallu teithio ers cryn amser. Serch hynny, mae aelodau’r grŵp bellach yn awyddus i fynd yn ôl allan i ymweld â ffermydd ac yn dilyn trafodaethau grŵp, penderfynodd y grŵp y byddent yn anelu am Sir Benfro ar gyfer ymweliad astudio.
Er nad yw Sir Benfro yn bell iawn o Ganolbarth Cymru, mae’r systemau amaethyddol a geir yno rywfaint yn wahanol i’n systemau ni yma. Roedd tirwedd ac amodau tywydd gwahanol Sir Benfro yn golygu ei fod yn lleoliad da i ni ymweld ag ef fel rhan o ymweliad astudio 2021, er mwyn gweld amrywiaeth eang o fusnesau, gan gynnwys bîff, defaid, llaeth, dofednod a thir âr, yn ogystal â nifer o gyfleoedd arallgyfeirio. Mae nifer o ffermwyr blaengar, arloesol a chreadigol yn Sir Benfro sy’n flaenllaw yn eu meysydd o safbwynt effeithlonrwydd, technoleg ac arloesedd.
Prif amcan ein hymweliad oedd rhoi cyfle i aelodau weld drostyn nhw eu hunain sut mae rhai o ffermydd a busnesau gwledig Sir Benfro yn gweithio, yn ogystal â gweld sut y maen nhw wedi datblygu neu addasu eu busnesau dros y blynyddoedd. Y gobaith yw y byddwn yn ysbrydoli ein haelodau i ddod â syniadau newydd arloesol ac effeithlon yn ôl gyda nhw i’w ffermydd yng Nghanolbarth Cymru.
1.1 Mynychwyr
Huw Thomas
Delyth Thomas
Tom Jerman
Hilda Jerman
Phill Breese
Anne Breese
David Jones
Liz Jones
Tom Michael Harding
Mary Harding
John Williams
Bronwen Williams
Charles Owen
Jane Owen
Roy Wilde
Robert Jenkins
Fiona Jenkins
Hywel Davies
Rachel Davies
Keith Robinson
Eirwen Robinson
David Lloyd
Lynwen Lloyd
Edward Chapman
Mervyn Price
Steven Williams
Les Gethin
Geraint Powell
Anabelle Powell
Daniel Rees
Clare Rees
Cody Barnett
Nicholas Bennett
Roy Gardner
Robbie Thomas
Chris Thomas
2 Amserlen y daith
[Beth ddysgoch chi? Rhowch ddisgrifiad o’ch gweithgareddau bob dydd yn ystod y daith ac amlinellwch eich deilliannau dysgu allweddol a’r wybodaeth a gasglwyd]
2.1 Diwrnod 1
Fe ddechreuon ni ein ffordd o Ganolbarth Cymru wedi casglu pawb, gan aros yn siop fferm a bwyty’r Moody Cow i gael coffi. Prosiect arallgyfeirio fferm diweddar yw hwn, a ddechreuodd o’r dechrau yn ystod y pedair blynedd diwethaf, gan ychwanegu atyniadau newydd ar gyfer ymwelwyr sydd fel arfer yn anelu am y de i leoedd megis Bluestone a.y.b.
Fe deithion ni wedyn i Borth-gain i gael pryd o fwyd yn y Sloop Inn, lle ymunodd Will Pritchard â ni cyn ein croesawu i’w fferm, Esclarwen yn Nhreletert weddill y prynhawn.
Dangosodd Will ei fuches odro a oedd yn pori porfeydd irlas, gan sôn am ei ymdrech i ychwanegu gwerth i’w loi o’r fuches laeth. Dros y blynyddoedd, mae wedi buddsoddi mewn geneteg Wagyu er mwyn cynhyrchu bîff hynod frith sy’n gwerthu am bris sylweddol drwy gyfrwng mân-werthwyr yn Llundain. Will yw cyfarwyddwr ‘Natural Wagyu Beef’ a’r cynllun ffermio ‘Blue’ a osododd yr archwiliad amgylcheddol ar gyfer y bîff hwn sydd o’r safon uchaf. Aethom i ymweld â fferm arall lle’r oedd lloi Wagyu’n cael eu magu ar gyfer y system fîff, yn ogystal â gweld arallgyfeiriad tymhorol arall a oedd yn gweddu i’w system: 8,000 o dwrcïod maes yn cael eu magu i Copestone Meat and Poultry ar gyfer tymor Nadolig Marks and Spencer. Roedd y twrcïod mewn cae cyfagos a math o adeilad twnnel polythen y gellid ei ddefnyddio ar gyfer rhan wartheg y busnes ar ôl y Nadolig.
Pwyntiau allweddol:
- Mae rheolaeth dda o laswelltir yn allweddol er mwyn sicrhau system laeth effeithlon.
- Roedd tymor y gaeaf yn hynod fyr o’i gymharu â Chanolbarth Cymru (deufis mewn cymhariaeth â’n chwe mis ni).
- Roedd Will wedi ystyried sut i ychwanegu gwerth drwy gyflwyno Geneteg Bîff Wagyu a gwerthu bîff drwy fân-werthwyr premiwm.
- Dechreuwyd magu twrcïod ar gontract gyda Copestone, partneriaeth brofiadol gyda Marks and Spencer.
- Gwnaed amlddefnydd da o fuddsoddiad mewn adeiladau drwy gydol y flwyddyn.
2.2 Diwrnod 2
Bore Diwrnod 2
Aethom ymlaen i fferm y teulu Hayman, Norton Farm ger Aberdaugleddau, a ddangosodd eu menter ffermio i ni, a oedd yn seiliedig ar fuddsoddiad mawr mewn tato. Y brif farchnad bremiwm oedd Puffin Produce, gan ddanfon ar ôl storio dan reolaeth y fferm yr haf canlynol ar ôl cynhaeaf y flwyddyn flaenorol. Roedd y teulu Hayman yn tyfu 500 erw’r flwyddyn a chawsom ein synnu o glywed mai dim ond unwaith bob chwe blynedd yr oeddent yn defnyddio’r un cae i dyfu tato. Er mwyn cyflawni hyn, roedd angen iddynt gyfuno cynhyrchu ar eu fferm eu hunain ag ychydig dir rhent hefyd. Roedden nhw’n tyfu sawl math ar gyfer marchnadoedd gwahanol ac yn gallu graddio a gwerthu drwy gydol y flwyddyn i siopau sglodion, siopau groser a.y.b. er mwyn darparu cyflogaeth ac incwm. Oherwydd y buddsoddiad mewn tyfu tato ar dir ffermwr, roedden nhw’n symud tuag at gyfnod rhentu estynedig er mwyn tyfu grawnfwydydd y flwyddyn wedi’r tato, gan adael cyflwr y tir yn fwy gwastad i’w roi’n ôl i’r ffermwr. Mae gan y teulu Hayman stablau ar log hefyd ac maent yn ffermio gwartheg a defaid i’w pesgi. Dyma’r fferm fwyaf taclus i ni ymweld â hi ac roedd y peiriannau oedd yn cael eu defnyddio i ymdrin â’r holl brosesau tyfu tato’n gwneud i’r lle edrych fel neuadd gwerthwyr peiriannau. Awgrymodd y gyrrwr bws y dylen ni sychu ein traed cyn mynd allan o’r bws ar ôl cyrraedd!!!
Pwyntiau allweddol
- Buddsoddiad helaeth mewn storfeydd ar gyfer marchnad bremiwm drwy gyfrwng Puffin.
- Roedd yno dyrbin gwynt a solar i leihau costau ynni wrth storio.
- Perthynas dda gyda ffermwyr i rentu’r tir un flwyddyn o bob chwech ar gyfer tato.
Prynhawn Diwrnod 2
Yn y prynhawn, aethom i ymweld â Puffin Produce. Cawsom gyfle i weld ochr brosesu’r busnes tato a oedd ar raddfa fawr o 65,000 tunnell y flwyddyn. Dechreuodd y busnes tua 1995 ac mae wedi datblygu yn fusnes gwerth 30 miliwn sy’n cyflogi 175 o bobl. Roedd yr ymweliad yn addysgiadol iawn gan ddangos y broses ddosbarthu, storio, dadansoddi, graddio, golchi a bagio ar gyfer y mân-werthwyr. Roedd y cwmni wedi buddsoddi’n helaeth mewn peiriannau i wneud gwaith amhleserus, swnllyd, llafurus a pheryglus er mwyn i’r busnes allu cadw a chynnal staff. Wrth i’r gwaith godro, wyna, tir âr a holl waith y fferm barhau drwy gydol Covid, llwyddodd Puffin Produce i gyflenwi’r gadwyn fwyd yn gymharol ddi-dor.
Mae Puffin yn defnyddio baner Cymru fel pwynt gwerthu allweddol, yn ogystal ag agosrwydd y busnes at y fan lle mae’r tato’n cael eu tyfu. Maen nhw’n buddsoddi llawer o arian mewn datblygu mathau newydd ar gyfer cwsmeriaid penodol a chyda chydweithrediad eraill megis y teulu Hayman, maen nhw’n llwyddo i gyflenwi cynnyrch premiwm da i fân-werthwyr drwy gydol y flwyddyn. Fe ddatblygon nhw daten newydd gynnar gan ennill statws PGI yn 2013 a’i gwerthu fel ‘Jersey Royal without the jet lag’. Maen nhw’n gwerthfawrogi’r heriau sy’n wynebu ffermwyr wrth dyfu tato drwy sychder a llifogydd a.y.b. ond yn sylweddoli fod Sir Benfro’n gymharol rydd o rew ac yn lle delfrydol ar gyfer tyfu tato.
Pwyntiau allweddol
- Cwmni lleol mawr yn ychwanegu gwerth i dato sydd wedi’u tyfu’n lleol. Perthynas dda gyda ffermwyr sy’n golygu cyflenwadau cyson i’w prosesu.
- Gwario llawer ar beiriannau a hyfforddiant. Mae hyn hefyd yn helpu i gadw staff. Darparu llety ar y safle i staff newydd er mwyn eu helpu i setlo.
- Buddsoddi llawer o arian mewn mathau newydd o dato a lluosi hadau ar gyfer treialu ar raddfa fferm er mwyn gwerthuso.
- Storfa fawr ar y safle ar gyfer cynhyrchwyr llai.
- Cynhyrchu llysiau eraill gan obeithio sicrhau cyfradd fwy o’r farchnad honno yn y dyfodol.
- Ystyried dulliau gwahanol o brosesu tato (eu ffrïo’n rhannol, eu coginio a.y.b.) er mwyn ychwanegu gwerth a chyrraedd marchnadoedd gwahanol.
- Gan fod Sir Benfro yn ardal laeth gref, roedd Puffin hefyd yn meddwl am botelu llaeth Cymreig yn lleol a’i werthu yng Nghymru, er mwyn i lai o llaeth gael ei botelu y tu allan i Gymru cyn cael ei gludo’n ôl i fân-werthwyr.
2.3 Diwrnod 3
Bore Diwrnod 3
Fore heddiw, aethom ar ymweliad â Copestone Meat and Poultry mewn cae mewn lleoliad gwledig ger Hwlffordd. Roedd yn hynod ddi-nod ond yn dangos y gwir Copestone. Eglurwyd mai busnes o Sir Benfro ydoedd a oedd bellach wedi tyfu i fod yn gyflenwyr cywion ieir a thwrcïod organig i Marks and Spencer. Maen nhw’n deor eu cywion eu hunain, sy’n cael eu magu nes eu bod yn 30 diwrnod oed; wedyn maen nhw’n cael eu symud i gae i dyfu nes eu bod yn pwyso 3kg pan maent yn 70 diwrnod oed, cyn cael eu prosesu’n lleol yn eu ffatri. Roedd nifer o adeiladau symudol yn y cae ar gyfer 1,700 o adar yr un, gyda chafn bwyd a chyflenwad dŵr. Roedd y cywion yn cael eu bwydo ar fwyd organig ac yn gallu crwydro’n rhydd, yn unol â phrotocol Marks and Spencer. Doedd y system ddim yn gofyn am ormod o waith gan fod yr adar yn cyrraedd yn fis oed ac wedi pasio’r cyfnod eiddil. Roedden nhw’n gallu ymgymryd â 5.5 cylch y flwyddyn ac felly’n gwneud defnydd da o’r isadeiledd.
Pwyntiau allweddol
- Copestone oedd yn deor ac yn rheoli’r cywion bach. Roedd yr adar (ieir a thwrcïod) yn gryf cyn cael eu rhoi mewn lleoliad maes rhydd i’w gorffen.
- Mae gan Copestone arbenigedd mewn bwyd a rheoli, yn ogystal â gwarant prosesu.
- Mae Copestone wrthi’n chwilio am bartneriaid newydd er mwyn ehangu. Maen nhw’n chwilio am ffermwyr i fuddsoddi mewn siediau gorffen adar 6 x 1,700 lai na theirawr mewn car o Hwlffordd.
- Mae Copestone newydd gael eu prynu gan gwmni mawr o Ffrainc – yn amlwg gyda’r bwriad o gael cyflenwr bwyd profiadol a’i ddatblygu ymhellach i’r dyfodol.
- Cred Copestone fod Sir Benfro yn lle da o safbwynt afiechydon gan nad oes llawer o adar mudol yn mynd mor bell i’r de.
Prynhawn Diwrnod 3
Aeth ymweliad prynhawn Diwrnod 3 â ni at fragdy Mark ac Emma Evans, yr Old Farmhouse Brewery ger Tyddewi.
Fe gyrhaeddon ni ar y bws a gweld buches ardderchog o wartheg a lloi Simmental cryf yn cael eu symud i borfa ffres ger y ffermdy. Mark ac Emma oedd yn ffermio’r daliad hwn ac arno fuches dda o wartheg Simmental yn cyflenwi teirw ar gyfer bridio a gwartheg i’w pesgi. Roedd y gwartheg yn cael eu gaeafu mewn siediau a’u bwydo ar silwair byrnau mawr a enillodd wobr gyntaf y Grassland Society yn 2017. Roedd ganddyn nhw ddau fwthyn gwyliau hefyd a ddatblygwyd o hen adeiladau traddodiadol gwag.
Aeth Mark yn ei flaen wedyn i egluro’u menter arallgyfeirio ddiweddaraf, sef meicrofragdy mewn adeilad gwag arall oedd wedi’i adnewyddu ar glos y fferm. Eglurodd y gwaith ymchwil a wnaeth dros gyfnod o sawl blwyddyn i gynhyrchu cwrw ar raddfa fechan, cyn penderfynu bwrw ymlaen ar raddfa fwy. Mae’r busnes yn un ‘o’r pridd i’r peint’ gwirioneddol ar y fferm hon ac yn rhywbeth na all yr un fferm arall yng Nghymru frolio yn ei gylch. Tyfodd Mark 20 erw o farlys bragu haidd heb fewnbynnau ac wedi’i gynaeafu, anfonwyd y grawn i ffwrdd i’w droi’n frag, cyn ei gludo’n ôl i’w droi’n gwrw. Cafodd y rhan fwyaf o’r gwaith adnewyddu a gosod y meicrofragdy ei gyflawni yn ystod cyfnod clo’r Covid a defnyddiwyd grant Menter Fferm Cymru i dalu peth o’r costau. Cafodd Mark gymorth wrth ddechrau bragu am fod y gwaith mesur, cadw tymheredd ac amseru mor fanwl gydol y broses. Mae cyflenwad dŵr y fferm wedi cael ei brofi a’i gymeradwyo, a hwnnw sy’n cael ei ddefnyddio yn y broses fragu. Ar ôl cynhyrchu’r cwrw, caiff ei gludo ychydig filltiroedd i ffwrdd i gael ei botelu mewn meicrofragdy arall a chaiff labeli trawiadol eu rhoi ar y poteli. Yn ystod y broses fragu, caiff llawer o ddŵr ei gynhesu ac mae oeri hefyd yn digwydd fel rhan o broses bellach, felly mae paneli solar yn cynhyrchu trydan ac mae pwmp ffynhonnell aer hefyd wedi’i osod. Eglurodd Mark ei fod yn fwy effeithlon o ran eu hamgylchiadau nhw oherwydd yn hytrach na dim ond cynhyrchu gwres mewn sefyllfa ddomestig, roedd eu system hefyd yn defnyddio effeithiau gwres ac oeri yn ystod y cylch bragu. Roedd adeilad y bragdy wedi cael ei adnewyddu’n chwaethus ar gyfer gwerthu’r cwrw ac roedden nhw hefyd wedi gwerthu cwrw i gynwysyddion y cwsmeriaid fel nad oedd angen potelu. Cawsom gyfle i flasu’r cwrw a oedd yn hyfryd iawn – a chafwyd cyfle i hel atgofion am fragu seidr, cwrw sinsir a gwin ysgaw a pherai a.y.b. a oedd yn arfer digwydd ar ffermydd.
Roedd yn ymweliad diddorol iawn a oedd yn dangos sut y gallai diddordeb ddatblygu i fod yn fusnes cynaliadwy. Diolch i Mark ac Emma.
Pwyntiau allweddol
- Ymchwiliodd Mark ac Emma’n fawl i arallgyfeirio a sefydlu meicrofragdy cyn bwrw ymlaen.
- Llwyddwyd i gael cymorth grant ar gyfer y costau adeiladu.
- Derbyniwyd cyngor ynglŷn â’r gwaith adeiladu a chymorth ymarferol gyda’r gwaith bragu cychwynnol.
- Fe welwyd potensial gwerthu o glos y fferm am ei fod yn agos at y briffodd i Dyddewi a photensial digwyddiadau pop-yp yn Nhyddewi er mwyn gwerthu eu bîff hefyd.
- Maen nhw’n potelu’n lleol, sy’n lledaenu’r costau ar gyfer dau fusnes a chyfuno pŵer prynu poteli a.y.b., yn ogystal â chadw’r milltiroedd bwyd yn isel.
- Mae ganddyn nhw fwy o wellt ar y fferm a gallant gadw gwartheg allan yn hwy drwy eu porthi ar erwau sofl ychwanegol y caeau barlys bragu.
2.4 Diwrnod 4
Bore Diwrnod 4
Fe deithion ni i’r de o Hwlffordd a chyfarfod â Mr Paul Ratcliffe mewn cilfan ar ochr y ffordd, cyn cerdded ychydig bellter i weld cnwd sefydledig o’r gweiryn miscanthus. Roedd y cnwd wedi’i sefydlu ar 65 erw chwe blynedd yn ôl a’i dorri a’i droi’n fyrnau hesston yn ystod mis Mawrth/Ebrill bob blwyddyn. Eglurodd Paul fod y cnwd yn cael ei dyfu heb fewnbynnau ac wedi iddo gael ei fyrnu, fe’i cludir i bwerdy i gael ei losgi er mwyn cynhyrchu trydan. Ar hyn o bryd, mae’n rhaid cludo’r cnwd gryn bellter i gyrraedd y pwerdy ond awgrymwyd y gellid adeiladu un yn lleol ac y gellid defnyddio erwau mwy addas ar gyfer cynhyrchu miscanthus.
Aethom wedyn i fferm Paul, sef Newhouse Farm ger Bluestone, lle y dywedodd wrthym am gyfarfyddiad ar hap â pherchnogion Bluestone a ofynnodd iddo a oedd yn gwybod unrhyw beth am systemau gwresogi biomas. Atebodd y byddai’n ymchwilio. Dechreuodd Paul arallgyfeirio ar drywydd maes systemau gwresogi biomas a dod yn gyflenwr tanwydd sglodion pren a phelenni, yn ogystal â dod yn osodwr systemau cymeradwy, gyda phedwar gwresogydd biomas mawr wedi’u gosod a’u cynnal a’u cadw drws nesaf yn Bluestone. Canlyniad hyn oedd y pump o lorïau cludo sy’n dosbarthu 20,000 tunnell o belenni coed yn ne’r DU, a dod yn werthwr cymeradwy a gosodwr offer biomas, mawr a bach, i nifer fawr o gwsmeriaid yn yr un ardal dan yr enw PBE Fuels.
Mae’r gwasanaeth sglodion pren wedi bod yn un defnyddiol iawn yn lleol gan fod cloddiau mawr sydd wedi tyfu’n wyllt bellach yn werthfawr fel sglodion pren sy’n gallu cael eu sychu yn Newhouse a’u gwerthu fel tanwydd ar gyfer systemau biomas. Mae’r gwaith hefyd wedi bod o gymorth i adfywio hen goetiroedd angof drwy dorri coed sâl, er mwyn ailblannu coed defnyddiol yn y dyfodol ar gyfer tanwydd neu er budd yr amgylchedd, mewn modd sy’n cael ei reoli. Maen nhw nawr yn gweld bod mwy o goed ynn sy’n marw o’r clwy lladdwr yr ynn ar gael i’w troi’n sglodion pren. Diolchwyd i Paul a’i deulu am eu croeso a’r lluniaeth cyn i ni droi’n ôl i gyfeiriad Canolbarth Cymru.
Pwyntiau allweddol
- Dywedodd Paul ei fod wedi ymchwilio i faes biomas ar ôl ymholiad Bluestone ac mai dyna oedd y dechrau.
- Pan oedd angen pelenni pren arno ac yntau’n gallu gweld y galw amdanyn nhw, aeth ati i chwilio am ei gyflenwad ei hun a bellach mae’n cyflenwi 20,000 tunnell y flwyddyn ar lorïau pwrpasol.
- Mae hyn hefyd wedi arwain at gynhyrchu sglodion pren sych o ffynonellau lleol sy’n cael eu gwerthu i gwsmeriaid biomas, gan greu swyddi yn ogystal â rhoi gwerth i goed sydd fel arfer yn cael eu hystyried yn angof neu’n ddiwerth, gan sicrhau ail-fuddsoddi mewn coed ar gyfer y dyfodol.
- Ar ôl gwerthu pelenni pren i gwsmeriaid a chael ymholiadau ynglŷn â rhoi gwasanaeth i foeleri a.y.b., mae gan PBE Fuels beirianwyr cymeradwy bellach sy’n gwerthu ac yn gwasanaethu boeleri hyd at 250kw, gan greu swyddi a rhoi gwasanaeth.
- Mae’r cnwd miscanthus wedi hen sefydlu ac mae posibilrwydd y gellid datblygu adnodd mwy lleol ar gyfer prosesu’r byrnau. Byddai hynny wedyn yn cyfiawnhau plannu ar fwy o’r tir o ansawdd gwael yn yr ardal gyfagos er budd casglu carbon a chynhyrchu ynni.
3 Y Camau Nesaf
[Beth ydych chi’n mynd i’w wneud nesaf? Byddwch wedi casglu gwybodaeth werthfawr yn ystod y daith astudio a ddylai eich galluogi i weithredu rhai o’ch syniadau newydd neu wneud newidiadau i’r modd yr ydych chi’n rhedeg eich busnes. Dewch â’ch adroddiad i ben gyda chrynodeb o’r pwyntiau gweithredu a’r camau nesaf ar gyfer y grŵp, sy’n adeiladu ar y wybodaeth a gasglwyd yn ystod yr ymweliad hwn gan sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol.]
I grynhoi ein hymweliadau, hoffem ddiolch i’r holl ffermwyr am eu croeso a’r lluniaeth ac am fod mor barod i drafod eu busnesau a sut y datblygwyd nhw yn ystod y blynyddoedd diweddar a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Gwnaeth rhinweddau’r pridd a’r hinsawdd gynnar o’i chymharu â Chanolbarth Cymru gryn argraff arnom. Roedden nhw’n manteisio ar hyn, y tymor pori’n hwy a’r gwanwyn yn gynharach hefyd, sy’n ddelfrydol wrth dyfu tato mewn priddoedd da. Roedd y ffermwyr wedi bod yn flaengar wrth ddatblygu systemau i ychwanegu gwerth yn lleol drwy ffurfio Puffin Produce a Copestone. Dangosodd hyn fanteision prosesu’n lleol, gan sicrhau swyddi a helpu’r economi. Dangosodd Will Prichard sut i ymchwilio i gynnyrch bîff premiwm o wartheg godro hefyd, gan fynd yn ei flaen i fuddsoddi mewn geneteg drwy werthiant bîff o’r safon uchaf yn Llundain. Roedd Paul Ratcliffe wedi dechrau busnes newydd ar ddechrau’r cyfnod biomas adnewyddadwy. Roedd hwn wedi tyfu bellach i fod yn hollol integredig, o osod systemau biomas i gyflenwi’r pelenni pren, hyd at gynaeafu ac ailblannu coed addas ar gyfer y dyfodol, a miscanthus ar gyfer ynni.
Roedd Mark ac Emma Evans wedi edrych ar adnoddau eu fferm gan ddilyn trywydd meicrofragdy i gyd-fynd â’u gwartheg Simmental. Roedd ganddyn nhw dir i dyfu barlys bragu, dŵr ffynnon fferm ar gyfer y bragdy ac adeiladau gwag ar gyfer y gweithgynhyrchu – ac yn bwysicach fyth, lleoliad ger ffordd dwristaidd brysur i Dyddewi sy’n ddelfrydol er mwyn gwerthu’r cynnyrch. Roedd hi’n bosib iddyn nhw gyflawni ‘O’r Pridd i’r Peint’ ar y fferm gan ddefnyddio’r enw ‘Old Farmhouse Brewery’.
Sbardunodd yr ymweliadau drafodaethau ynghylch gwneud y mwyaf o rinweddau eich fferm eich hun – a oedd y boblogaeth leol yn fawr er mwyn ychwanegu gwerth at rywbeth yr oeddech chi’n ei gynhyrchu eisoes; rhinweddau’r lleoliad naturiol; ystyried dechrau menter newydd ar ôl ymchwilio i’r costau, grantiau, faint o amser fyddai ei angen, eich sgiliau unigol; neu edrych ar rywbeth hollol newydd – a phwyso a mesur a yw’r hyn yr ydych chi eisoes yn ei wneud yn mynd i ddioddef o’r herwydd. Hefyd, gallai’r rhan fwyaf o fusnesau fferm wella o dderbyn hyfforddiant, cydweithio a dirprwyo. Yn y bôn, roedd y mwyafrif o ffermwyr eisiau ffermio, a nawr, yn sgil y pwysau ar ynni ledled y byd, mae’n debygol fod bwyd yn mynd i fod yn bwysicach nag erioed. Mae ffermwyr sy’n cynhyrchu bwyd yn mynd i fod yn bwysig iawn, ar ôl cael eu hesgeuluso ar hyd y blynyddoedd, ac mae’n rhaid i ni ddefnyddio ein buddiannau naturiol yng Nghymru, gan gynnwys glaw a phriddoedd ar gyfer ffermio tir âr – ond yn bennaf, yr 80% o dir amaethyddol sy’n borfa yn unig i gynhyrchu llaeth, bîff a chig oen drwy ddefnyddio’r dulliau mwyaf cynaliadwy yn y byd. Buom yn trafod sut y gall hyn sicrhau economi leol fwy bywiog gyda’r holl fusnesau yn gweithio ochr yn ochr, fel yn achos Puffin a Copestone.
Taith astudio wirioneddol ysgogol gyda diolch i Paul Campbell o Pedigree Tours am drefnu’r daith a chynllunio’r amserlen, gwesty’r Mariner’s Arms Hotel a’r Premier Inn yn Hwlffordd am y llety a Teleri am y lluniaeth ganol dydd ar y ffermydd.