Ty Draw, Llanasa, Treffynnon, Sir y Fflint

Prosiect Safle Ffocws: Meintioli effaith cyngor technegol: adolygiad o berfformiad y busnes yn dilyn newidiadau rheoli o flwyddyn i flwyddyn

Amcanion y prosiect:

Nod y prosiect hwn fydd adolygu'r newidiadau a wnaed drwy feintioli'r arbedion economaidd, yn ogystal â'u heffaith ar berfformiad anifeiliaid ac ansawdd porthiant. Bydd hyn yn rhoi ffigurau pendant ar oblygiadau’r newidiadau i broffidioldeb a chynaliadwyedd y busnes.

Amcanion y prosiect yw: 

  • Pennu goblygiadau gwella glaswelltir ar draws y fferm drwy wasgaru calch a gwrtaith yn fanwl gywir, ac ail-hadu gyda chymysgedd o dorri a phori am bump i chwe blynedd (ar gyfnod pori ac ansawdd silwair).
  • Mesur y manteision o ran cost o fwydo diet cyflawn i'r mamogiaid cyn ŵyna (o safbwynt ariannol a pherfformiad).
  • Asesu effaith gwneud mân addasiadau i'r siediau gwartheg ar eu hiechyd a'u perfformiad (DLWG).

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Fferm Goldsland
Wenvoe, Caerdydd Prosiect Safle Ffocws: Prosiect ymwybyddiaeth o
Lan Farm
Cynwyl Elfed, Caerfyrddin Prosiect Safle Ffocws: Gwella
New Dairy Farm
New Dairy Farm, Casnewydd, Sir Fynwy Prosiect Safle Ffocws: Torri