11 Ebrill 2022

 

Mae Cyswllt Ffermio wedi ychwanegu modiwl arall i’w ddarpariaeth o weithdai hyfforddiant Iechyd a Lles Anifeiliaid (AH&W) sydd wedi’u hariannu’n llawn. 

Bydd ‘Gwella perfformiad ŵyn ar ôl diddyfnu’ yn cael ei gyflwyno o ddechrau mis Ebrill, gan ddod â chyfanswm y pynciau rydym yn eu cynnig ar hyn o bryd i 16. 

Mae holl gynnwys y cwrs AH&W Cyswllt Ffermio wedi’i ddatblygu ar y cyd gyda NADIS (Gwasanaeth Gwybodaeth Genedlaethol ar gyfer Clefyd mewn Anifeiliaid) a’i gyflwyno gan bractisau milfeddygol sy’n cymryd rhan ledled Cymru. Bydd y gweithdai rhyngweithiol ar gael naill ai ar ffurf gweithdai grŵp wyneb yn wyneb rhanbarthol (a fydd yn para hyd at dair awr), neu ar-lein.

Esbonia Matthew Evans o Fenton Vets yn Sir Benfro, un o’r practisau a fydd yn darparu’r hyfforddiant, mai nod y modiwl newydd hwn yw helpu pob ffermwr defaid i wella a chynnal perfformiad a chynhyrchiant anifeiliaid. 

“Bydd pwyslais cryf yn cael ei roi ar atal clefydau ac ymwybyddiaeth ohonynt, yn ogystal â phwysigrwydd cadw cofnodion, er mwyn asesu perfformiad ŵyn a helpu penderfyniadau cynhyrchu a rheoli,” dywedodd Mr Evans.

Bydd y gweithdy’n canolbwyntio’n bennaf ar reoli’r broses o ddiddyfnu, adnabod a rheoli clefydau heintus, rheoli parasitiaid a maetheg – ond bydd cynllunio iechyd, bioddiogelwch a’r defnydd cyfrifol o wrthfiotigau a meddyginiaethau gwrthlyngyr hefyd yn ffurfio rhan annatod o bob gweithdy. 

"Mae arnom angen i bob ffermwr ddeall prif egwyddorion economeg magu ŵyn ar gyfer pesgi neu fridio a’r pwysigrwydd o bwyso ŵyn a sgorio cyflwr corff mamogiaid er mwyn helpu penderfyniadau diddyfnu. 

“Bydd yr hyfforddiant hwn yn cwmpasu’r holl ffactorau allweddol a ddylai gael effaith ar unrhyw benderfyniadau a wneir ynglŷn â rheoli’r broses ddiddyfnu, er weithiau y bydd angen i’r rhain amrywio bob blwyddyn yn ôl cyflwr corff mamogiaid, argaeledd porthiant a chyfraddau twf ŵyn, gan helpu’r ffermwyr i osod targedau realistig.” 

I ddarganfod pa bractisau milfeddygol fydd yn darparu’r modiwlau hyfforddiant AH&W hyn ac ar gyfer lleoliadau a dyddiadau, ewch i adran sgiliau a hyfforddiant neu ffoniwch eich swyddog datblygu lleol. 

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr arobryn, Ynyr Pugh o Ganolbarth Cymru, yn trafod ei lwyddiant o ganlyniad i Ffermio Cyfran
16 Chwefror 2026 Mae Ynyr Pugh yn ffermwr ymroddedig, llawn
Sut mae cofnodi perfformiad yn llunio gwelliannau gwerthfawr mewn diadell fynydd yng Nghymru
10 Chwefror 2026 Mae enillion mamol a gyflawnwyd trwy gofnodi
Bwydo glaswellt trwy'r dail yn rhoi hwb i borthiant india-corn mewn cyfnod o sychder, yn ôl arbrawf fferm
Bu i ddefnyddio’r dull bwydo drwy’r dail ar india-corn a oedd yn