19 Ebrill 2022

 

Mae Cyswllt Ffermio wedi ychwanegu modiwl ychwanegol at ei weithdy hyfforddi Iechyd a Lles Anifeiliaid a ariennir yn llawn.

Bydd ‘Cynyddu cynhyrchiant gwartheg sugno i’r eithaf’ yn cael ei gyflwyno o ddechrau mis Ebrill, gan ddod â chyfanswm y pynciau sydd ar gael ar hyn o bryd i 16.

Datblygwyd holl gynnwys cwrs Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio ar y cyd â NADIS (y Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Glefydau Anifeiliaid) a’i gyflwyno gan bractisau milfeddygol sy’n cymryd rhan ledled Cymru. Bydd y gweithdai rhyngweithiol ar gael naill ai mewn gweithdai grŵp wyneb yn wyneb rhanbarthol (a fydd yn para hyd at dair awr) neu ar-lein.

Mae Guy Tomlinson, o gwmni milfeddygol Daleside yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, yn un o'r milfeddygon a fydd yn darparu'r hyfforddiant. Esboniodd Mr Tomlinson mai nod y modiwl newydd hwn yw helpu ffermwyr i ddeall economeg sylfaenol cynhyrchu gwartheg sugno fel y gallant nodi meysydd lle gellir gwella cynhyrchiant:

“Bydd ffermwyr yn dysgu sut i ddiffinio buwch sugno gynhyrchiol, y ffordd orau i gyflawni neu wella cynhyrchiant, a sut i osod targedau realistig.

“Y nod yw cael buwch sy’n dod yn gyflo’n hawdd, yn lloia’n rhwydd, yn magu llo iach ac yna’n beichiogi eto, gan gadw’n iach ac yn rhydd o afiechyd.

“Bydd pwyslais cryf yn cael ei roi ar ymwybyddiaeth o glefydau a’u hatal, yn ogystal â phwysigrwydd cadw cofnodion ar gyfer data ffrwythlondeb a lloia, fel bod gan ffermwyr y wybodaeth sydd ei hangen arnynt, a fydd yn ei dro yn cynorthwyo gyda phenderfyniadau cynhyrchu a rheoli,” meddai Mr Tomlinson.

Mae llawer o ffactorau’n effeithio ar allu buwch i gynhyrchu llo yn flynyddol. Nod y gweithdy hwn yw sicrhau bod ffermwyr yn deall effaith penderfyniadau bridio o fewn y fuches lawndwf, ac addasrwydd mathau a bridiau anifeiliaid ar gyfer eu system gynhyrchu eu hunain, yn ogystal â ffactorau eraill a all effeithio ar ffrwythlondeb.

Ystyrir pwysigrwydd dewis teirw a’u hiechyd, yn ogystal â chanllawiau ar ddewis heffrod cyfnewid, eu hiechyd cyffredinol a rheoli bridio.

I ddarganfod pa bractisau milfeddygol fydd yn cyflwyno’r modiwlau hyfforddi gwartheg sugno Iechyd a Lles Anifeiliaid hyn, ac am leoliadau a dyddiadau, ewch i’r adran sgiliau a hyfforddiant neu ffoniwch eich swyddog datblygu lleol.

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites