21 Mehefin 2022
O atafaelu carbon i dyfu amrywiadau o wenith treftadaeth, ac o ymchwilio i botensial planhigfa de yng Nghymru i iechyd anifeiliaid – dyma rai o’r pynciau amrywiol i’w hymchwilio gan yr 14 ymgeisydd a ddewiswyd ar gyfer rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio eleni.
Mewn proses ddewis a dethol drylwyr ar-lein, gofynnwyd i bob ymgeisydd esbonio’r hyn yr oeddent am ei ddysgu, sut y byddent yn defnyddio eu gwybodaeth newydd a lle roeddent yn bwriadu ymweld, sydd eleni’n cynnwys busnesau a phrifysgolion yn y DU, yr Almaen, Ffrainc, Awstria, yr Iseldiroedd, Sweden, Gwlad Pwyl, Hwngari a Latfia.
Cadeiriwyd y panel beirniaid gan Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sydd ochr yn ochr â Lantra Cymru, yn darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a longyfarchodd yr ymgeiswyr llwyddiannus eleni.
“Mae’r rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth yn annog ffermwyr a choedwigwyr i ddysgu am ffyrdd newydd neu well o weithio, i gael mynediad i ymchwil a gweld drostynt eu hunain rai o’r systemau mwyaf llwyddiannus yn y diwydiannau ffermio, bwyd a thir.”
“Mae’r dysgu a’r canlyniadau sydd eisoes yn cael eu rhoi ar waith gan lawer o ymgeiswyr blaenorol y Gyfnewidfa Rheolaeth yn argoeli’n dda ar gyfer cynaliadwyedd a hyfywedd hirdymor busnesau ffermio yng Nghymru.”
“Yn bwysig iawn, mae’r canlyniadau hefyd yn argoeli’n dda ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, i’r ffermwyr ifanc sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant – ac mae’n rhaid i ni feithrin eu hymrwymiad hirdymor a’u teyrngarwch – yn ogystal â’r rhai sy’n ymuno â’r diwydiant am y tro cyntaf,” meddai Mrs Williams.
Nodau’r rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth yw galluogi cyfranogwyr i ymchwilio i ffyrdd arloesol neu fwy effeithlon o weithio, a fydd yn ehangu eu gwybodaeth, eu gallu technegol a’u harbenigedd o ran rheoli trwy ymweld â busnesau ffermio neu fusnesau coedwigaeth llwyddiannus eraill. Mae’r rhai a ddewisir hefyd yn cael y cyfle i groesawu rheolwr fferm neu goedwigaeth profiadol sydd wedi’i hyfforddi’n briodol i ymweld â’u daliad.
Bydd disgwyl i gyfranogwyr llwyddiannus rannu eu canfyddiadau o’u profiad dysgu trwy sianeli cyfathrebu arferol Cyswllt Ffermio a’r rhaglen ddigwyddiadau, er mwyn sicrhau bod eu gwybodaeth newydd yn cael ei rhannu â’r diwydiant ehangach.
Mae gwybodaeth fanwl am bob un o’r ymgeiswyr eleni, ble maent yn bwriadu ymweld, a beth maent yn gobeithio ei ddysgu ar gael isod:
Emma Duffy
Lleoliad: Caernarfon, Gwynedd
Cyrchfan: Y DU, yr Almaen, yr Iseldiroedd
Pwnc: Pennu rhyw cywion ieir
Enillodd Emma Duffy, a raddiodd o Brifysgol Bangor, radd dosbarth cyntaf mewn Bioleg gyda Biocemeg. Mae’n arbenigwraig ceffylau medrus, yn gyflenwr ffrwythau a llysiau, a bellach yn geidwad dofednod masnachol. Roedd y cyfnod clo yn golygu na allai gynnig hyfforddiant preifat mewn dressage clasurol yn yr ysgol farchogaeth fach ar dyddyn 13 erw ei theulu ger Caernarfon. I wneud iawn, ehangodd Emma ei diddordeb mewn dofednod yn fenter fusnes newydd yn gwerthu wyau a chywennod, sy’n gweithredu ochr yn ochr â ‘Village Veg’, y busnes dosbarthu ffrwythau a llysiau llwyddiannus a ddechreuwyd yn 2009.
“Rwy’n bwriadu ymweld â bridwyr dofednod arbenigol a busnesau sy’n defnyddio technolegau i ddatblygu brechlynnau gan ddefnyddio wyau yn yr Iseldiroedd, yr Almaen a’r DU, i ddysgu sut i gymhwyso technegau pennu rhyw cywion ieir a ddefnyddir yn fasnachol i gadw bridiau prin.”
Marc Harries
Lleoliad: Llandysul, Ceredigion
Cyrchfan: Yr Alban, yr Almaen
Pwnc: Diogelu’r fferm deuluol at y dyfodol heb gymorthdaliadau
Yn 2003, cymerodd y cyn-beiriannydd systemau TG fferm 180 erw yng Ngheredigion drosodd, a oedd wedi bod yn nheulu ei wraig ers dwy genhedlaeth. Erbyn 2011, roedd wedi rhoi’r gorau i’w swydd bob dydd, ac roedd yn ffermwr yn llawn amser. Ei brif ffocws ar y cychwyn oedd gwella’r tir ac ehangu’r ddiadell. Heddiw, mae ymhell ar y ffordd i greu busnes cwbl gynaliadwy ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Megis dechrau yw caffael dau eiddo arall gyda thir, system solar PV newydd, boeler biomas a busnes llety gwyliau sy’n ehangu!
“Rwyf eisiau dysgu sut y gellir storio trydan sydd dros ben gan ddefnyddio pŵer batri; i ddeall mwy am amaeth-foltaig ac i ymchwilio a allai system cynhyrchu ynni a gaiff ei harwain gan y gymuned weithio yng ngorllewin Cymru.”
Naomi Hope
Lleoliad: Nanhyfer, Sir Benfro
Cyrchfan: Ffrainc
Pwnc: Tyfu a phrosesu perlysiau organig ar gyfer te Cymreig
Mae Naomi, sydd â gradd meistr mewn rheoli prosiect, ynghyd â’i phartner Richard, yn newydd-ddyfodiad i’r sector garddwriaeth. Maent yn tyfu ystod amrywiol o lysiau organig o’u tyddyn 10 erw yn Sir Benfro, sy’n cael eu gwerthu trwy gynllun blychau llysiau yn ogystal ag yn uniongyrchol i siopau a bwytai. Ar ôl ymchwilio i’r farchnad, maent yn teimlo’n barod i ehangu eu model busnes trwy dyfu perlysiau organig ffres, gan gynnwys y rhai y gellir eu troi’n de arbenigol.
“Yn wahanol i Ffrainc, ychydig iawn o berlysiau sy’n cael eu tyfu yn y DU yn benodol ar gyfer te. Mae gan Lydaw hinsawdd debyg i’n hinsawdd ni, felly bydd fy nghyfnewidfa yn dysgu pa fathau i ganolbwyntio arnynt, a byddaf yn dysgu am y prosesau torri, sychu, prosesu a phecynnu.”
Ben James
Lleoliad: Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion
Cyrchfan: Lloegr
Pwnc: Hunangynhaliaeth i ffermwyr cenhedlaeth gyntaf
Mae Ben, sy’n ffermwr cenhedlaeth gyntaf, yn rhentu daliad 112 erw ger Llanbedr Pont Steffan, lle mae’n cadw 120 o famogiaid Easycare ar system bori cylchdro yn unig. Yn gyn-bostmon, cafodd brofiad ymarferol o ffermio trwy weithio ar fferm laeth; sicrhau contractau ŵyna ar ffermydd lleol a magu 200 o ŵyn llywaeth a werthodd am elw. Yn ffensiwr wrth ei grefft ar hyn o bryd, mae hefyd yn weithiwr contract ar ffermydd llaeth. Nod Ben yn y pen draw yw ennill ei unig incwm o’i fusnes fferm ei hun.
“Bydd fy ymweliad fel rhan o’r Gyfnewidfa yn fy ngalluogi i gwrdd â rhai o’r ffermwyr cenhedlaeth gyntaf sy’n perfformio orau yn y DU, a dysgu sut a phryd y gwnaethant gyflawni’r ‘nodwedd wahanol allweddol’ honno a’u hysgogodd i fod yn hunangynhaliol.”
Dan Jones
Lleoliad: Y Gogarth, Llandudno
Cyrchfan: Latfia, Ffrainc
Pwnc: Ffermio, cadwraeth ac atafaelu carbon
Mae Dan yn ffermwr tenant yn Parc Farm, Fferm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n ymestyn o 150 erw i 900 erw ac sydd gyda’r hawl i bori ar y Gogarth. Mae Dan yn ffermio’r pentir unigryw hwn, sy’n gartref i fflora a ffawna prin, mewn ffordd natur gyntaf.
Wedi’i fagu ar fferm deuluol ar Ynys Môn, graddiodd Dan mewn amaethyddiaeth a gwyddor anifeiliaid cyn gweithio fel technegydd ymchwil defaid. Aeth ymlaen i sicrhau ei denantiaeth fferm ei hun, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n gweithio fel bugail ar yr Wyddfa ar gyfer prosiect pori cadwraethol, a lle daeth o hyd i’w angerdd.
“Mae’n hanfodol bod ffermio, cadwraeth ac atafaelu carbon yn gweithio gyda’i gilydd. Mae lleihau faint o garbon deuocsid sydd yn yr aer yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd”.
Tom Jones
Lleoliad: Y Trallwng, Powys
Cyrchfan: Yr Alban
Pwnc: Ffactorau sy’n effeithio ar broffidioldeb buchod sugno
Mae Tom yn ysgolhaig Hybu Cig Cymru, yn rhan o sefydliad Ffermwyr y Dyfodol Tesco, yn aelod o fwrdd Cenhedlaeth Nesaf yr NFU ac yn gyn-ffermwr ffocws y Farmers Weekly, sydd am greu dyfodol cynaliadwy i’w deulu ifanc. Yn fab i fferm bîff a gwartheg sugno ucheldirol, mae Tom am ganolbwyntio’n bennaf ar ei ymweliad fel rhan o’r Gyfnewidfa ar gynhyrchu cig coch yn effeithlon, gan ddefnyddio system borthiant cost isel sy’n gwella’r pridd, yn cynnal ansawdd dŵr ac yn gwella’r amgylchedd. Mae am wella proffidioldeb y fenter gwartheg sugno trwy gael gwell dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n effeithio ar hyn, gan gynnwys geneteg, systemau cofnodi/dewis a dethol a rheoli pori.
“Ein nodau yw gwella effeithlonrwydd mamol y fuches sugno er mwyn gwella perfformiad a phroffidioldeb, ac yn y tymor hir, symud yn ôl at wartheg brid brodorol.”
Nicola Lewis
Lleoliad: Pontyclun, Rhondda Cynon Taf
Cyrchfan: Iwerddon, Lloegr
Pwnc: Datblygu system coed-borfeydd a rhaglen fferm
Rhoddodd gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn cynaliadwyedd amgylcheddol gyda daearyddiaeth yr angerdd i Nicola fynd ymlaen i ddiogelu’r amgylchedd gwledig. Am y 15 mlynedd diwethaf, mae wedi gweithio yn y maes adfywio a datblygu gwledig. Ers 2017, mae Nicola a’i gŵr wedi bod yn datblygu’r fferm 165 erw, lle maent yn bridio defaid mynydd Cymreig, Miwl Cymreig a Charollais Cymreig, gan gadw tua 350 o ddefaid ar system bori cylchdro. Mae ganddynt hefyd 15 erw o goetir. Ar ôl cyflawni’r rhan fwyaf o’u nodau busnes cychwynnol, mae Nicola yn barod i ymchwilio i gyfleoedd arallgyfeirio.
“Rwyf yn awyddus i ddysgu oddi wrth ffermydd sydd wedi sefydlu systemau amaeth-amgylcheddol llwyddiannus a chyfleoedd addysgol ar y fferm, a gweld sut mae datblygu system coed-borfeydd yn arwain at ganlyniadau amgylcheddol, economaidd ac addysgol gwell.”
Jamie McCoy
Lleoliad: Castell Newydd Emlyn, Ceredigion
Cyrchfan: Yr Iseldiroedd, Awstria
Pwnc: Cadwyni cyflenwi byr
Prynodd Jamie, sydd â gradd mewn amaethyddiaeth, a’i phartner fferm gymysg deuluol yng Ngheredigion yn 2011. Yn fenter laeth yn bennaf sy’n lloea mewn bloc o 200, mae’r cwpl entrepreneuraidd hwn wedi sefydlu mentrau arallgyfeirio eraill, er bod gan Jamie swydd lawn amser yn y diwydiant. Maent yn pasteureiddio llaeth sy’n cael ei werthu trwy beiriannau gwerthu; mae ganddynt 250 o famogiaid masnachol; menter casglu pwmpenni eich hun, menter Airbnb lwyddiannus a pheiriant sglodi pren ar raddfa goedwigaeth sy’n cyflenwi biomas. Mae Jamie yn benderfynol o wella proffidioldeb y busnes, tra’n gwella ei etifeddiaeth amgylcheddol a chymunedol.
“Mae angen i ni ychwanegu gwerth at laeth, cig, llysiau, ffibr fel pren a gwlân a chyfleoedd twristiaeth, felly rwy’n anelu at ddysgu mwy am gadwyni cyflenwi byr sy’n gweithredu o giât y fferm, i gadw ar y blaen i’r gromlin Ewropeaidd a chwrdd ag anghenion cyfnewidiol ffermwyr a defnyddwyr.”
Gerald Miles
Lleoliad: Tyddewi, Sir Benfro
Cyrchfan: Ffrainc, Awstria, Gwlad Pwyl, Hwngari
Pwnc: Adfywio tyfu gwenith hynafol
Mae Gerald Miles, ffermwr seithfed genhedlaeth, ynghyd â’i fab Gerald, yn rhedeg buches sugno gwartheg Duon Belted Cymreig sy’n cael eu bwydo ar borfa organig yn Sir Benfro. Mae ganddynt hefyd fenter glampio lewyrchus yn eu lleoliad arfordirol ysblennydd. Yn ychwanegol, maent yn tyfu 20 erw o fathau hynafol o wenith, gan gynnwys Ceirch Llwyd, Grawn Emmer, Grawn Einkorn; Ebrill Barfog a Hen Gymro. Helpodd Gerald i sefydlu’r grŵp Amaethyddiaeth â Chymorth Cymunedol cyntaf yng Nghymru, ac mae wedi ymuno â menter newydd, sef ‘Sofraniaeth Hadau’ i ddiogelu’r mathau newydd o wenith yn erbyn deddfwriaeth sy’n eu rhoi mewn perygl.
“Bydd fy nghyfnewidfa yn fy ngalluogi i ddysgu sut mae eraill wedi symud ymlaen o dyfu i brosesu ar y fferm, a chyflenwi i bobwyr crefft. Rwy’n gobeithio y bydd yr wybodaeth y byddaf yn ei chael yn arwain at greu menter gydweithredol i ffermwyr a marchnad hyfyw ar gyfer gwenith Cymreig.”
Sophia Morgan-Swinhoe
Lleoliad: Bow Street, Ceredigion
Cyrchfan: Iwerddon
Pwnc: Datblygu caws sy’n adlewyrchu’r fferm a’r ardal mae’n hanu ohoni
Cwblhaodd Sophia, ffermwr cenhedlaeth gyntaf, brentisiaeth llaeth organig yn Norwy wyth mlynedd yn ôl, cyn symud yn ôl adref i Gymru, lle sefydlodd ei llaethdy ei hun ar dyddyn maen ei rentu. Mae’n cadw geifr godro a gwartheg Jersey ar system bori cylchdro sy’n seiliedig ar borfa. Mae llo a myn gafr wrth droed, yn cael eu godro unwaith y dydd. Mae’r llaeth yn cael ei brosesu ar y fferm mewn sypiau bach sydd wedyn yn cael eu gwerthu’n uniongyrchol. Yn awyddus i ehangu’r fuches a thyfu ei marchnad, ei nod yn y pen draw yw prosesu a marchnata caws aeddfed arbenigol, yn llwyddiannus.
“Trwy ymweld â rhai o wneuthurwyr caws ffermdy mwyaf blaenllaw Iwerddon, byddaf yn dysgu sut y maent yn mynegi hunaniaeth eu ffermydd trwy eu cynnyrch. Fy nod yw datblygu caws Cymreig aeddfed unigryw, sy’n arddangos iechyd y fuches a bioamrywiaeth fy fferm”.
John Savage-Onstwedder
Lleoliad: Llandysul, Ceredigion
Cyrchfan: Sweden
Pwnc: Distyllu nodd bedw i gynhyrchu alcohol
Yn ôl John Savage-Onstwedder, mae miloedd o erwau o goed bedw yng Nghymru, ond hyd y gwyddai, does dim byd yn cael ei wneud â nhw! Mae John yn ffermio fferm organig 60 erw yng Ngheredigion, lle mae’n cadw buches o wartheg sugno. Mae’n fwyaf adnabyddus, fodd bynnag, am fod yn sylfaenydd Caws Teifi Cheese a Distyllfa Dà Mhile – dwy fenter arobryn sy’n cael eu cydnabod yn eang am gynhyrchu cynnyrch blaenllaw o fewn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru. Mae John yn aelod o ‘Grŵp Nodd Bedw’, a sefydlwyd i ymchwilio i’r cyfleoedd ar gyfer cynaeafu a marchnata nodd bedw.
“Mae fy niddordeb mewn ymweld â Sweden yn cynnwys cyfarfod â chwmni sy’n defnyddio nodd bedw yn llwyddiannus i gynhyrchu alcohol.”
Roland Wear
Lleoliad: Llangamarch, Powys
Cyrchfan: Lloegr, yr Alban, Ewrop
Pwnc: Sefydlu prosiect arallgyfeirio fferm ‘lles’
Yn ymgynghorydd gyrfaoedd cymwysedig gyda chefndir yn y diwydiant lletygarwch, mae Roland yn cyfuno ei rôl ran-amser gyda ‘Syniadau Mawr Cymru’, sy’n cefnogi entrepreneuriaid ifanc, gydag arallgyfeirio ei fferm fynydd draddodiadol wythfed genhedlaeth i fod yn fusnes cynaliadwy, gwydn y mae’n gobeithio ei drosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf.
Ar ôl bod yn ymwneud yn agos â’r fferm erioed, yn dilyn profedigaeth deuluol, etifeddodd Roland y ddiadell o fridiau traddodiadol sy’n pori ar ardal hyfforddiant milwrol Epynt a’r comin cyfagos, yn ogystal â thair diadell gaeedig tir isel, i gyd yn cael eu pesgi ar y fferm ac yn cael eu gwerthu fel ŵyn tew.
“Bydd fy nghyfnewidfa yn fy nghyflwyno i ffermwyr eraill sydd wedi arallgyfeirio i ddarparu mentrau ‘llesiant’, gan gynnig llety amgen sy’n canolbwyntio ar therapïau ‘ecogyfeillgar’ a chyfannol sy’n gysylltiedig â ffordd naturiol o fyw.”
Rebecca Williams
Lleoliad: Llandrindod, Powys
Cyrchfan: Y DU
Pwnc: Marchnata cig coch yn uniongyrchol i ddefnyddwyr
Mae’r ffermwr ifanc Rebecca Williams yn bartner busnes ar fferm ucheldir 400 erw ei theulu, lle bu’n gweithio am y pum mlynedd diwethaf. Mae’r teulu’n cadw 24 o wartheg Duon Cymreig, 700 o ddefaid ac 84 o geirw coch. Eleni, mae Rebecca yn anfon ei grŵp cyntaf o geirw ifanc at fanwerthwr mawr. Yn rhan o gynllun Farmers Weekly Apprentice a Sefydliad Ffermwyr y Dyfodol Tesco, mae ganddi’r archwaeth i ddysgu, ac mae’n bwriadu defnyddio ei hymweliad fel rhan o’r Gyfnewidfa i ddysgu popeth o fewn ei gallu am farchnata ac ychwanegu gwerth at gig coch.
“Mae effeithlonrwydd a phroffidioldeb yn ddau yrrwr allweddol i mi, felly rwyf am ddysgu gan ffermwyr sy’n prosesu ac yn marchnata eu cynnyrch yn llwyddiannus ac yn uniongyrchol i ddefnyddwyr.”
Lottie Wilson
Lleoliad: Hwlffordd, Sir Benfro
Cyrchfan: Prifysgol Nottingham, Prifysgol Lerpwl
Pwnc: Canfod, atal a rheoli cloffni ymhlith buchod godro
Mae Lottie yn fyfyriwr amaethyddiaeth blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Nottingham. Ar ôl tyfu i fyny ar fferm laeth 650 erw ei theulu ger Hwlffordd, a thrwy weithio am flwyddyn yn y diwydiant yn ystod ei hastudiaethau sylfaen yng Ngholeg Hartpury, mae ganddi ddigonedd o brofiad ymarferol. Mae gan ei theulu fuches sy’n cynnwys 300 o wartheg Holstein Friesian sy’n lloea drwy gydol y flwyddyn, ac maent yn gweithredu system lled-ddwys sy’n cael ei phori tua chwe mis y flwyddyn.
“Mae iechyd traed gwael yn cyfrannu’n fawr at berfformiad gwartheg a all arwain at leihad mewn ffrwythlondeb, cynnyrch a hirhoedledd. Trwy gysgodi rhai o academyddion mwyaf blaenllaw’r diwydiant yn y maes hwn, rwy’n anelu at ddysgu mwy am faterion, gan gynnwys dermatitis digidol, y defnydd o wrthfiotigau, a thechnegau rheoli i wella cyfraddau cloffni.”