Siaradwr: Richard Evans, Llywodraeth Cymru
Mae’r Cynllun Troi’n Organig yn gynllun cymorth yn seiliedig ar ardal, sydd ar gael i gynhyrchwyr amaethyddol presennol ledled Cymru sy’n dymuno trosi o gynhyrchu’n gonfensiynol i gynhyrchu’n organig.
Ymunwch â Cyswllt Ffermio i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi drwy’r Cynllun Troi’n Organig. Trwy gefnogi ffermwyr yn ystod y cyfnod trosi dwy flynedd, nod y cynllun yw darparu cymorth i sicrhau manteision rheoli tir amgylcheddol cadarnhaol.