28 Gorffennaf 2022

 

Pan alwyd Jean Gohery, nyrs brofiadol, y tu allan gan ei mab 10 oed trallodus, daeth o hyd i'w gŵr Peter Gohery yn ddisymud ar lawr eu buarth fferm yn Swydd Galway. Yn gorwedd yn agos at ei dractor, gallai weld bod un o’i goesau wedi'i thorri ymaith yn llwyr a'i droed arall bron wedi'i thorri ymaith. Tybiodd Jean fod Peter wedi marw neu'n agos at farwolaeth.  Yn ffodus i'r teulu ffermio hwn o Iwerddon, goroesodd Peter, er bod ei anafiadau ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw yn 2009 wedi newid ei fywyd.

Bob blwyddyn, mae ffermwyr yn colli bywydau ac aelodau’r corff mewn damweiniau a allai fod wedi bod yn bosibl eu hatal. Mae cyfran uchel ohonynt yn cynnwys peiriannau a thractorau ac o'r rhain, mae llawer yn gysylltiedig â siafft yrru PTO (Cychwyniad Pŵerus) neu PTO. Os yw'r rhan hon o'r tractor bob amser wedi'i gorchuddio â gwarchodwr wedi'i ddylunio a'i gynnal a'i gadw'n briodol, gellir lleihau'r risg o anaf neu farwolaeth yn fawr.

Gwnaeth Peter apêl dwymgalon i ymwelwyr a fynychodd ei gyflwyniad diogelwch fferm yn ddiweddar yn nigwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru Cyswllt Ffermio yn Llanelwedd.

“Stopiwch, meddyliwch a chymerwch amser i weithredu arferion gweithio diogel ar eich fferm bob amser.

“Mae'n well colli munud o'ch bywyd na cholli eich bywyd mewn munud.”

Roedd ei gyflwyniad hynod onest i gynulleidfa lawn yn canolbwyntio ar y ddamwain fferm a newidiodd nid yn unig ei fywyd ei hun yn ddiwrthdro ond bywydau ei wraig a'i bedwar o blant hefyd. Gyda natur hynod optimistaidd er gwaethaf ei ddamwain a oedd bron yn angheuol, siaradodd Peter yn wefreiddiol am yr hyn yr oedd yn ei olygu pan oedd ond yn 42 oed, i dreulio misoedd o'i fywyd yn yr ysbyty, yn cael oriau o lawdriniaethau a ffisiotherapi helaeth wrth iddo ddechrau ar ei daith araf i wella.  Naw mis ar ôl y ddamwain, roedd yn llwyddo i fynd o gwmpas mewn cadair olwyn cyn cael ei ffitio â choes brosthetig yn y pen draw.  

Erbyn heddiw mae Peter yn gallu cerdded, ond mae'n dioddef poen wrth sefyll neu gerdded am unrhyw gyfnod o amser ac mae'n cael trafferth gyrru, a chrwydro ar hyd llethrau a thir meddal neu anwastad. Mae ei goes 'dda' yn dal i chwyddo'n aruthrol a chafodd ei hachub yn unig drwy impiadau croen gan dîm meddygol gwych a drawsblannodd gyhyr a meinwe o'i glun er mwyn helpu i ail-atodi'r droed.

Y bore tyngedfennol hwnnw yn ystod Hydref 2009, roedd Peter wedi treulio'r diwrnod yn paratoi lloi sugno’r fferm ar gyfer eu diddyfnu. Roedd yn gwisgo ei oferôls fferm arferol a'i welingtons diogelwch â blaenau dur - ei drefn 'arfer da' synhwyrol wrth weithio gyda da byw.  Fodd bynnag, yn ôl yn y tŷ am ginio, roedd ei ben-glin yn dal i brocio allan trwy dwll llydan agored yn rhan wrth-ddŵr yr oferôls felly penderfynodd ddod o hyd i siswrn a thorri'r ffabrig a oedd ar fai i ffwrdd. Ni sylwodd ar y cerpyn hir o ddeunydd wedi'i rwygo a oedd yn dal i hongian i lawr. Yn ddiweddarach y noson honno penderfynodd Peter edrych ar borthwr diet y fferm yn barod ar gyfer y tymor i ddod.  

“Dechreuais y tractor ond clywais gnoc yng nghefn y peiriant, felly penderfynais adael y tractor yn ticio drosodd - wrth gwrs dylwn fod wedi ymarfer protocolau 'STOP diogelwch' a diffodd yr injan - ond fe wnes i hercian i lawr yn gyflym i ymchwilio i beth oedd yn achosi'r broblem.

“Roeddwn i'n gallu gweld dwy linell hydrolig a oedd yn edrych i fod yn y drefn wrthol, felly fe wnes i eu dal ag un llaw a'u cyfnewid drosodd yn hawdd.”

Ond wrth i Peter gamu'n ôl, gwelodd fod y cerpyn hir o ffabrig a oedd yn dal i hongian o'i oferôls wedi ymglymu yn y siafft bŵer, nad oedd ganddo warchodwr na gorchudd arno. Lapiodd y ffabrig yn gyflym o amgylch y siafft a chafodd un o goesau Peter ei thorri ymaith yn llwyr. Wrth i'r goes arall hefyd gael ei dal yn y trorym, cafodd Peter ei daflu i'r llawr, gyda’i fraich dde yn taro i mewn i'r tractor, gan dorri dau asgwrn arall.

“Nid nes i mi orwedd ar y ddaear a cheisio tynnu fy hun i ffwrdd o'r peiriant y sylweddolais fod fy mraich wedi torri, ond gwelais fy mod wedi colli fy nghoes a bod fy nhroed arall yn hongian i ffwrdd.”

Rhuthrodd Jean i gymorth Peter ac achubodd ei chefndir nyrsio ei fywyd wrth iddi ddefnyddio rhwymynnau tynhau dros dro i atal y gwaedu, tra’u bod nhw’n aros am yr ambiwlans awyr a aeth ag ef i University Hospital Dublin.  

Mae Peter yn gwerthfawrogi ei fod yn lwcus i fod yn fyw ac yn ffodus mae ef a'i fab, sydd bellach yn 23 oed, ill dau yn bositif yn feddyliol yr holl flynyddoedd yn ddiweddarach.

Ar ôl y ddamwain, camodd cymdogion, ffrindiau a theulu i'r adwy i helpu gyda'r gwaith o redeg y fferm o ddydd i ddydd ond ar ôl sylweddoli na allai byth ddychwelyd i'w hen ffordd o fyw, gwerthodd Peter y da byw a hurio’r tir fferm. Gan fod ei wraig a'i deulu ifanc yn rhesymau dros fyw iddo, penderfynodd Peter ddychwelyd i'r coleg lle cafodd radd BSc a oedd yn canolbwyntio'n bennaf ar Iechyd a Diogelwch. Ers dros ddegawd, mae wedi ymroi ei fywyd i fod yn gynghorydd diogelwch fferm, gan gyflwyno sgyrsiau a darlithoedd diogelwch yn seiliedig ar ymddygiad i ffermwyr ledled y DU ac America.

“Mae'n eironig meddwl y gallwch gael gard PTO wedi'i osod am oddeutu £120, ond mae aelod prosthetig, sydd fel arfer yn gorfod cael ei ddisodli bob ychydig flynyddoedd, yn costio mwy na £40,000.

“Peidiwch â gadael i ddamwain fel y cefais i ddigwydd i chi neu aelod o'ch teulu.

“Darganfyddwch pa weithdrefnau diogelwch y mae angen i chi eu rhoi ar waith i wneud eich fferm yn lle diogel i weithio.”

 

Nodiadau ychwanegol

Dylech bob amser ymarfer 'Stop diogelwch' pan fyddwch chi'n gadael cab unrhyw dractor - gallai olygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth - rhowch y brêc llaw ymlaen, rhowch y gêr mewn niwtral, trowch yr injan i ffwrdd a thynnwch yr allwedd allan!

I gael canllaw cam wrth gam ar yrru tractorau yn ddiogel, cliciwch yma.

Mae Cyswllt Ffermio yn darparu mentora diogelwch fferm un-i-un a ariennir yn llawn ynghyd ag ystod o gyrsiau hyfforddi sy'n gysylltiedig â diogelwch fferm.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter