Taith Astudio Cyswllt Ffermio - Taith Materion Gwledig Brycheiniog
Ariannwyd trwy raglen Trosglwyddo Gwybodaeth, Arloesi a Gwasanaeth Cynghori fel rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020
Taith Materion Gwledig Brycheiniog
Yr Alban
23 - 26 Mehefin 2022
1 Cefndir
Rydym yn grŵp o aelodau CFfI Brycheiniog sy’n cynnal nosweithiau trafod, yn ymweld â ffermydd, ac yn ymddiddori’n gryf mewn materion gwledig. Mae pawb ohonom ni yn byw yn Ne Powys, ac ar y cyfan, mae ein haelodau rhwng 10 a 28 oed, ond byddwn hefyd yn cynnwys rhai cyn-aelodau yn rhai o’n hymweliadau. Ein nod yw cynyddu’r wybodaeth a drosglwyddir rhwng aelodau yn y sir ynghylch materion sy’n effeithio ar y gymuned ffermio a bywyd gwledig.
Wedi dwy flynedd o arwahanrwydd, fe wnaethom ni drefnu taith addysgiadol i’r Alban ynghylch materion gwledig. Yn ystod ein taith astudio 4 diwrnod, fe wnaethom ymweld â Sioe Frenhinol yr Ucheldir a dwy fferm, a rhoddodd hynny gyfle i’n haelodau gael cipolwg ar ddulliau ffermio gwahanol.
Mae Sioe Frenhinol yr Ucheldir yn enghraifft wych o ran arddangos dulliau a syniadau newydd ym maes ffermio a rhoi technoleg ar waith yn y diwydiant amaethyddol, ac mae’n gyfle i gyfnewid barn a safbwyntiau ag arweinwyr eraill ym myd ffermio a’r diwydiannau gwledig.
Prif nod yr ymweliad oedd darganfod a dysgu am arferion ffermio gwahanol a phrofi’r ystod amrywiol o grefftau ac arddangosion sydd i’w gweld yn Sioe Frenhinol yr Ucheldir.
1.1 Cyfranogwyr
Megan Powell |
Charlie Baldwyn |
Jack Baldwyn |
Ffion Havard |
Nia Havard |
Elin Havard |
Dafydd Havard |
Emma Powell |
Richard Davies |
Ryan Watkins |
Leanne Davies |
Chris Davies |
Emma Rees |
Lewis Davies |
Angharad Jones |
Baden Davies |
Stephen Matthews |
Rhiannon Chamberlain |
Bethan Chamberlain |
Scott Rees |
Hannah Jones |
Gethin Williams |
Josh Morgan |
Tom Phillips |
Dewi Jones |
Elin Meredith |
Chloe Hyde |
Kelsey Pritchard |
Josh Prichard |
Lewis Pritchard |
2 Y Daith
2.1 Diwrnod 1
Treuliwyd y diwrnod cyntaf yn teithio o Aberhonddu i fyny arfordir gorllewinol Lloegr yn bennaf. Ar ôl cael rhybudd gan Meg i beidio cyrraedd yn hwyr, fe wnaethom gychwyn am 8:30 a chawsom siwrne ddidrafferth.
Brades Farm
Y fferm gyntaf y gwnaethom ymweld â hi oedd Brades Farm, fferm laeth yn Swydd Caerhirfryn sy’n cael ei rhedeg ar hyn o bryd gan ddwy o genedlaethau’r teulu Towers. Maent wedi datblygu llaeth barista arbenigol, gan ddefnyddio cyfuniad o laeth buchod Friesian a buchod Jersey. Maent yn cynhyrchu llaeth barista ar gyfer rhai o siopau coffi gorau’r wlad, ac maent wedi creu cynnyrch sy’n diwallu anghenion defnyddwyr. Diben ein hymweliad oedd deall sut oedd Brades Farm yn gallu creu cynnyrch sy’n diwallu anghenion cwsmeriaid, gan ysgogi arloesedd ac arferion ffermio cynaliadwy hefyd. Mae Ed yn Brades Farm wedi creu unedau magu lloi symudol gan ddefnyddio hen gatiau ac mae wedi cychwyn defnyddio Segway yn y parlwr godro i leihau’r straen ar y corff wrth odro, felly roedd hi’n amlwg ei fod yn arloeswr greddfol. Roedd Brades Farm hefyd yn deall galwadau newidiol defnyddwyr, ac roeddent wrthi’n addasu eu harferion i adlewyrchu hyn, gan roi sylw penodol i’r effaith ar yr hinsawdd. Un enghraifft o hyn yw cynnwys Mootral yn nietau’r buchod. Mae Mootral yn ychwanegyn bwyd sy’n cynnwys alisin sy’n deillio o arlleg, ac un o sgil-gynhyrchion prosesu orennau, a elwir yn rhin sitrws. Defnyddir y cynnyrch i ladd neu rwystro’r bacteria ‘drwg’ sy’n cystadlu â’r buchod am fwyd trwy barhau yn eu perfedd. Nod dysgu allweddol yr ymweliad hwn oedd bod yn barod i roi cynnig ar rywbeth newydd bob amser a pheidio ag ofni methu. Fe wnaethom adael Fferm Brades a pharhau ar ein taith. Cawsom saib byr yng Ngwasanaethau Tebay a daeth ein taith i ben yng Nghaerliwelydd y diwrnod hwnnw.
2.2 Diwrnod 2
Y Wee Farm Distillery
Lleolir y Wee Farm Distillery ar fferm da byw fechan yn Ne Swydd Lanark. Sefydlwyd y busnes gan Jenny McKerr yn 2018. Roedd agwedd gadarnhaol Jenny yn amlwg iawn, ac roedd hyn yn allweddol o ran sicrhau llwyddiant y busnes. Mae’r Wee Farm Distillery yn cynnig mwy na 30 math o wirodlynnau jin, a gwerthir y mwyafrif o’u cynnyrch yn uniongyrchol i gwsmeriaid. Mae cynnyrch Jenny yn pwysleisio diwylliant yr Alban. Un enghraifft o hynny yw ‘Drovers’, jin a ysbrydolwyd gan ysbryd a gwytnwch y dynion a’r menywod sy’n cyfrannu at sector amaethyddol ffyniannus yr Alban. Mae Jenny hefyd wedi gwneud rhagor o arallgyfeirio trwy greu bwthyn gwyliau moethus ar y fferm, a siop fferm sy’n gwerthu cynnyrch lleol.
Caeredin
Gyda’r hwyr, cafodd y cyfranogwyr gyfle i ddod yn gyfarwydd â rhannau trefol yr Alban trwy dreulio gweddill y diwrnod yn mwynhau atyniadau a golygfeydd Caeredin, a chawsant gyfle i drafod beth oeddent wedi’i weld a’i ddysgu yn gynharach yn ystod yr ymweliad.
2.3 Diwrnod 3
Sioe Frenhinol yr Ucheldir
Dyma oedd uchafbwynt ein hymweliad. Rhannodd y criw yn grwpiau llai, a chafodd pob grŵp ganlyniadau dysgu amrywiol i’w cyflawni y diwrnod hwnnw. Roedd hyn yn cynnwys siarad am bwysigrwydd ansawdd dŵr a’r defnydd ohono, ymgysylltu ag adwerthwyr ynghylch cyfleoedd amrywiol yn y gadwyn gyflenwi ar gyfer ffermwyr ifanc, a chael cipolwg ar yr arloeseddau a’r dechnoleg oedd i’w gweld yn y sioe. Yn goron ar y cyfan, fe wnaeth Dewi Jones, un o aelodau Ffederasiwn Brycheiniog a oedd yn cyfranogi yn yr ymweliad, ennill yr ail wobr yn y Gystadleuaeth Gneifio Ganolradd.
2.4 Diwrnod 4
Y daith adref!
3 Y Camau Nesaf
Mae’r adborth gan yr aelodau wedi bod yn hynod o gadarnhaol. Mae llwyddiant y grŵp hwn wedi cynorthwyo’r grŵp i ddatblygu’n uned gydlynol, yn cefnogi ei gilydd. Cafodd y cyfranogwyr eu hysbrydoli’n arw gan y busnesau a’r mentrau y gwnaethom ymweld â hwy. Roedd gwytnwch a hyblygrwydd yn ddwy thema fynych yn achos y ffermwyr a’r perchnogion busnes a siaradodd â ni, ac mae’r cyfranogwyr yn bwriadu ceisio efelychu’r ddwy rinwedd yn eu busnesau yn eu hunain at y dyfodol.
Mae’r Pwyllgor Materion Gwledig eisoes yn trafod yr ymweliad nesaf a chyfleoedd i ddatblygu rhwydwaith materion gwledig ehangach ar y cyd â ffederasiynau eraill. Hefyd, mae’r Pwyllgor Materion Gwledig yn cynnig cymorth i gyfranogwyr wrth iddynt droedio ar hyd llwybrau datblygu gwahanol o ganlyniad i’r daith, ac yn darparu cyfleoedd i ddatblygu eu gwybodaeth ymhellach trwy ragor o grwpiau trafod lleol ac ymweliadau â ffermydd.