Y bennod hon fydd y gyntaf mewn cyfres a gyflwynir gan gyflwynwyr gwadd ar amrywiaeth o bynciau amaeth yng Nghymru a thu hwnt. Bydd y cyflwynydd gwadd cyntaf yn llais cyfarwydd ir podlediad, Rhys Williams, ffermwr defaid a gwartheg ac ymgynghorydd busnes fferm i Precision Grazing Ltd. Cafodd Rhys y fraint o sgwrsio gyda Ffermwr Cig Eidion y Flwyddyn Farmers Weekly, Aled Evans fferm Rest ger Hendy-gwyn ar Daf. Yn y bennod hon byddant yn trafod taith Aled i ddatblygu system ffermio da byw cynaliadwy.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Rhifyn 109- Mae rheoli llyngyr yr iau yn llwyddiannus yn bwysig ar gyfer cynhyrchu defaid yn gynaliadwy
Yn y bennod fer hon byddwn eto yn ymweld â fferm Lower House
Rhifyn 108 - Gweithio tuag at hunangynhaliaeth o ran protein
Mae’r bennod hon wedi’i recordio yn ystod un o 15 digwyddiad
Rhifyn 107 -Cloffni mewn Gwartheg Llaeth: Pennod 2
Mae Sara Pedersen yn ymweld â Fferm Maenhir, Hendy-gwyn ar Daf