Richard Rees
Enw a lleoliad y fferm: Penmaen Bach, Pennal, Machynlleth
Sector: Cig Coch (Defaid)
Gan nad ydyn ni wedi’n stocio’n drwm, rydyn ni wedi bod yn ffodus dros y misoedd diwethaf; rydyn ni wedi llwyddo i gadw gorchudd cyfartalog y fferm yn weddol gyson, sef oddeutu 2200kgDM/ha, gyda chyfradd twf glaswellt o oddeutu 20kgDM/ha, a oedd yn cyfateb â’n galw.
Cynnal ansawdd fu’r brif her i ni, yn enwedig gyda’r planhigion yn hedeg oherwydd pwysau gwres. Er mwyn rheoli’r bwyd sydd gennym ar y fferm, rydym wedi blaenoriaethu porfa well i famogiaid sych â Sgôr Cyflwr Corff (BCS) isel, ac wedi anfon mamogiaid â BCS uchel i fyny’r mynydd i leihau’r galw ar y llwyfan pori.
Rydyn ni wedi llwyddo i anfon tri chwarter o’n hŵyn sydd wedi’u pesgi ar laswellt hyd yn hyn, sy’n 37kgLW ar gyfartaledd; mae’r gwyndonnydd llysieuol wedi ein galluogi i gadw'r ŵyn yma i dyfu, gyda’r ysgellog a’r llyriaid yn perfformio’n dda iawn. Byddwn yn anelu at gael yr ŵyn i gyd oddi ar y llwyfan pori erbyn 1 Hydref i ryddhau porfa ar gyfer hwrdda.
Cyn ac yn ystod y cyfnod sych, ein nod oedd pori tir â gorchudd uwch a gadael gweddillion uwch, heb bori yn is na 1800kgDM/ha. Roedd hyn yn helpu trwy amddiffyn y pridd rhag y tymheredd uchel, ac felly'n cadw lleithder, ond hefyd yn gadael porfa o ansawdd isel yr oedden ni’n gallu ei phori wedyn â mamogiaid sych. Roedd hyn yn ein helpu i gario digon o fwyd i mewn i'r sychder, er mwyn peidio â bod angen bwydo unrhyw fwyd ychwanegol y tu allan.
Ar gyfer porthiant y gaeaf, plannwyd cnwd o swêj ar ddechrau mis Mehefin, ac rydyn ni’n bwriadu eu pori gyda mamogiaid o ddechrau mis Rhagfyr nes y bydd mamogiaid yn cael eu rhoi dan do ar gyfer ŵyna ym mis Mawrth. Bydd hyn yn darparu o leiaf 90 diwrnod o orffwys i'r holl gaeau ar y fferm dros y gaeaf. Cyn pori, byddwn ni’n defnyddio'r dull torri a phwyso i amcangyfrif faint o borthiant sydd gennym wrth law (tDM/ha), ac yna’n cyfrifo faint o silwair sydd ei angen arnon ni i fwydo ochr yn ochr â'r cnwd i gyflawni'r 90 diwrnod a ddymunir.
Er mwyn rheoli’r gwaith o bori a hyrdda ac annog cyfradd beichiogi uchel yr hydref hwn, rydyn ni’n bwriadu symud i gylchdro cyflymach (20-25 diwrnod), gan anelu at bori’r glaswellt yn ysgafn, i roi cymaint o fwyd o ansawdd uchel â phosib i’r mamogiaid, gan ddechrau 10 diwrnod cyn cyflwyno’r hyrddod. Er hwylustod, bydd pob un o'r 300 o famogiaid mewn un grŵp hyrdda.
Erbyn hyn, rydyn ni wedi cyrraedd pwynt ar y fferm lle mae pob cae wedi'i rannu'n padogau o oddeutu 1.5ha eu maint. Mae hyn yn caniatáu i famogiaid fod ar symudiadau deuddydd, gan wneud rheolaeth yn haws a’n galluogi i ddefnyddio a thyfu llawer mwy o laswellt.
Yna, ar ôl hyrdda, byddwn ni’n ei bori’n dynn i lawr i 1500kgDM/ha o weddillion, i sicrhau ein bod ni’n gadael sylfaen lân i dyfu glaswellt o ansawdd uchel tua diwedd yr hydref i barhau tan y gwanwyn. Byddwn ni’n anelu at gau’r fferm â gorchudd o 2000kgDM/ha. Rydyn ni’n gwybod y bydd modd i ni dyfu rhywfaint o borfa dros y gaeaf, felly bydd y targed gorchudd hwn yn sicrhau nad yw ein gorchuddion cyn pori’n rhy uchel pan fydd y gwanwyn yn cyrraedd.
Y tymor nesaf, ein prif flaenoriaeth yw cynyddu nifer y stoc ac arwynebedd y gwyndonnydd llysieuol ar y fferm. Ar hyn o bryd, mae gennym 7ha o wyndonnydd llysieuol; profwyd eu bod nhw’n hanfodol ar gyfer cadw ŵyn yn tyfu drwy gydol y tymor a chyflawni cyfartaledd is o ran nifer y dyddiau hyd lladd oddi ar borfa yn unig.
Peter Storrow
Enw a lleoliad y fferm: Rogeston Farm, Portfield Gate, Hwlffordd
Sector: Cig Coch (Bîff)
 ninnau wedi’n lleoli yn Sir Benfro, rydyn ni wedi cael tymor pori caled eleni, gydag o oddeutu 10kgDM/ha yn tyfu ar gyfartaledd dros y misoedd diwethaf, gyda’r gorchudd cyfartalog yn gostwng i 1850kgDM/ha ar y llwyfan pori.
Un peth a'n hachubodd ni drwy'r cyfnod sych oedd cael cnwd gorchudd amrywiol iawn, a blannwyd gennym ym mis Mai yn wreiddiol, i’w bori dros y gaeaf gyda'r gwartheg sych. Fodd bynnag, gyda diffyg bwyd mawr ar y fferm, gwnaethon ni’r penderfyniad i ddechrau pori hynny ym mis Awst, gyda 49 o wartheg a 35 llo. Roedd hyn yn ein galluogi i leihau'r galw ar y llwyfan pori. Mae gennym 39 o heffrod o hyd yn pori'r cnwd gorchudd heddiw.
Ein gweithred nesaf i ymdrin â’r sychder oedd diddyfnu 22 o wartheg a’u gwerthu nhw’n gynnar fel gwartheg i’w difa. Mae hyn wedi lleihau’r galw am fwyd, ac mae wedi ein galluogi ni i fanteisio ar y cyfle i ddatblygu geneteg y fuches drwy baru mwy o heffrod. Un peth rydyn ni’n falch iawn ohono yw ein bod ni wedi llwyddo i gynnal cyflwr gwartheg da, ac mae'r lloi wedi tyfu'n dda iawn - felly, er gwaethaf cael tymor pori caled, gobeithio ein bod ni’n barod o hyd i gael un da'r flwyddyn nesaf.
Rydyn ni wedi bod yn bwydo silwair allan am chwe wythnos; am bythefnos i dair wythnos, roedden ni ar ddogn llawn y gaeaf, gyda gwartheg yn pori'r cnwd gorchudd gaeaf a fwriadwyd gyda silwair ychwanegol. Mae hyn wedi gadael bwlch yng nghyflenwad y porthiant ar gyfer y gaeaf hwn, ac roedd hi’n golygu bod yn rhaid i ni roi cynnig ar ambell beth newydd i geisio adeiladu ein stociau porthiant i fyny eto.
Eleni, mae gennym 160 tunnell o silwair, nad yw’n ddigon i fynd â ni drwy'r gaeaf. Llwyddon ni i sicrhau 100 o fyrnau o silwair o ansawdd isel, ac rydyn ni newydd blannu 30 erw o gnwd gorchudd aml-rywogaethau gyda rêp porthiant wedi’i blannu bob 3m ar gyfer pori yn y gaeaf. Gwnaethon ni blannu 65 erw o rygwellt Eidalaidd Westerwolds ar ôl tatws, hefyd; cafodd gwrtaith cychwynnol ei roi yn y tir ochr yn ochr â’r hadau, sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr, gan annog i’r planhigion sefydlu’n gyflym. I ni, mae’n hanfodol bod gennym ddigon o gnydau porthiant i allu gaeafu’r buchod y tu allan, gan fod hyn yn gallu gwneud arbediadau cost enfawr i’n busnes. Arbedwyd swm sylweddol y llynedd drwy leihau’r angen am wellt drwy gadw’r buchod y tu allan – a hynny cyn i ni edrych ar gostau ychwanegol cadw gwartheg dan do, o ran llafur a pheiriannau.
Eleni, ychydig iawn o wrtaith a ddefnyddiwyd gennym, gyda rhywfaint o nitrogen yn cael ei fwydo drwy’r dail yn gynnar yn y tymor pori. Gwnaethon ni roi'r gorau i ddefnyddio gwrtaith yn ystod y cyfnod sych, ac roedd gan y rhan fwyaf o'r llwyfan pori 27-30 (kgN/ha) ychydig wythnosau yn ôl, gan nad oedd digon o orchudd ar gyfer bwydo nitrogen drwy’r dail.
Ar hyn o bryd, mae gennym orchudd porfa is nag yr hoffem am yr adeg hon o'r flwyddyn. Y cynllun nawr yw diddyfnu’r gwartheg i gyd a'u cadw dan do am gyfnod byr i sychu a chaniatáu i orchuddion porfa gynyddu. Byddwn ni’n cadw’r holl wartheg ar symudiadau dyddiol i leihau eu hamser pori a gwneud y gorau o aildyfu potensial y borfa, cyn i hyd y diwrnodau a'r tymheredd ostwng gormod. Ym mis Tachwedd, ein nod yw rhoi'r gorau i bori a darparu 120 diwrnod o orffwys i bob cae, cyn pori eto yn y gwanwyn.
Andrew Rees
Enw a lleoliad y fferm: Moor Farm, Castell Gwalchmai, Hwlffordd
Sector: Llaeth
Dechreuodd pethau’n dda yn y gwanwyn, ond maen nhw wedi dirywio ers hynny. Rydyn ni wedi gweld twf porfa gwael o ganol mis Mehefin, gyda dim ond un wythnos â thwf o dros 30kgDMn ni wedi bod mewn diffyg dros y misoedd diwethaf.
Ein penderfyniad cyntaf oedd ymestyn hyd y cylchdro i 40-50 diwrnod, gan ddyrannu ardal benodol bob dydd a llenwi'r bwlch gyda porthiant. Er enghraifft, pe bai llwyfan pori 100ha gennym ar gylchdro 50 diwrnod, byddem yn dyrannu 2ha y dydd.
I ddechrau, nid oedden ni am gynyddu'r defnydd o ddwysfwyd, oherwydd y gost. Gwnaethon ni lenwi cyllideb fwydo ar gyfer y gaeaf, felly roedden ni’n gwybod faint o silwair oedd ei angen arnon ni dros y gaeaf, a gwnaethon ni osod terfyn i'n hunain o ran faint y gallem ei ddefnyddio yn ystod y cyfnod sych. Ar ôl i ni redeg allan o hyn, prynon ni silwair i mewn am bum wythnos, ac rydyn ni wedi prynu silwair cnwd cyfan a gwair i mewn, hefyd.
Y penderfyniad nesaf a wnaethon ni oedd lleihau amlder godro i 11 sesiwn godro, yn lle 14, mewn saith diwrnod. Gwnaeth hyn ein helpu i leihau'r galw gan y gwartheg a'i gwneud yn haws cynnal cyflwr y corff. Rwy'n ystyried symud i odro unwaith y dydd pan fyddwn ni’n agosáu at laetha hwyr; y prif reswm am hyn yw helpu cynyddu cyflwr y gwartheg ar ôl y cyfnod sych i sicrhau ein bod yn cael tymor da’r flwyddyn nesaf.
Mae'r fferm yn gwella erbyn hyn, ac rydyn ni bellach ar gylchdro 40 diwrnod. Ar hyn o bryd, mae gennym orchudd o 2130kgDM/ha, tra'n dal i fwydo 10kgDM/ha o silwair, 5.5 kgDM/ha o bryd a dim ond 2.5kgDM/ha porfa i helpu'r fferm i wella wrth i ni ddechrau’r hydref, a manteisio ar dyfiant da, gobeithio, dros yr wythnosau nesaf, cyn i hyd y diwrnodau fyrhau.
Gwnaethon ni stopio defnyddio gwrtaith yn ystod y cyfnod sych, gan fod gwrtaith yn cael ei ddefnyddio i gyflymu tyfu – heb unrhyw dyfiant yn bresennol, doedd dim pwynt ei ddefnyddio. Doedden ni ddim ychwaith eisiau cronni nitradau yn y pridd ar gyfer adeg cyrraedd y glaw a chawson nhw eu hamsugno gan y planhigion, gan fod hyn yn gallu achosi problemau gydag iechyd gwartheg.
Mae cyfanswm y defnydd o wrtaith ar gyfer y flwyddyn yn debygol o fod tua 50-60kgN/ha ar y llwyfan pori, wedi'i ollwng o tua 85kgN/ha y llynedd.
Mae cyfaint y borfa rydyn ni'n ei thyfu ar y fferm yn amrywio'n sylweddol fesul blwyddyn; o fis Mai i fis Awst eleni, rydym wedi tyfu 5tDM/ha; yn 2021, tyfon ni 6.6tDM/ha, ac yn 2020, tyfon ni 8tDM/ha.
Drwy gydol y sychder, mae'r planhigion sydd wedi aros yn wyrddach am fwy o amser yn cynnwys ysgellog, meillion coch a byswellt. Roedd hi’n ymddangos bod popeth arall wedi diflannu. Rydym yn defnyddio peiriant llusgo a gwrteithio ar y fferm sydd wedi ein galluogi i ail-hadu meillion, ysgellog a llyriaid i badogau a gafodd eu pori'n ddiweddar.
O ran perfformiad, mae’r gwartheg yn perfformio eto eleni; ym mis Awst, roedd cynhyrchiant wedi gollwng 10%, gyda llai o solidau llaeth, oherwydd y bwyd o ansawdd is a oedd ar gael.
Rydym yn canolbwyntio nawr ar ddiogelu a chynyddu cyflwr y gwartheg. Mae gennym ddigon o silwair o ansawdd i odro drwy weddill y flwyddyn, ond rydym am weld gwartheg mewn cyflwr digon da i ddal gwartheg sych ar wair a gorchudd porfa da yn y gwanwyn. Mae eleni wedi bod yn anodd, ond os ydyn ni'n ceisio gwasgu gormod ohoni, fe fyddwn ni'n talu amdano’r flwyddyn nesaf.
Fel arfer, rydym yn anelu at gael 2600-2700kgDM/ha o orchudd ym mis Medi, i'n galluogi i ymestyn ein tymor pori a chau ar 2200-2100kgDM/ha ar ddiwedd y cyfnod pori. Ar hyn o bryd, rydyn ni'n ceisio adeiladu cymaint o orchudd â phosib, a byddwn yn hapus os cawn dros 2400kgDM/ha.
Caiff gwartheg R1 eu gaeafu y tu allan ar floc 7ha ar gyfer stoc ifanc, y gwnaethom ei gau ar 7 Gorffennaf i ganiatáu i orchuddion y borfa dyfu ar gyfer pori gohiriedig dros y gaeaf. Rydym wedi gosod tua 200 o fyrnau o silwair, a ddylai bara am ddau fis a hanner o bori, gan ddibynnu ar y twf a gawn dros y misoedd nesaf. Bydd hyn yn rhoi cyfnod o orffwys i'r bloc pori sy'n weddill.