21 Hydref 2022
Mae fferm laeth yng Nghymru yn adennill rheolaeth dros iechyd a pherfformiad ei buches yn y dyfodol drwy fagu ei heffrod cyfnewid ei hun.
Roedd y teulu Jarman wedi bod yn gweithredu polisi buches gyfnewid dros dro ers 12 mlynedd, gan brynu eu holl anifeiliaid cyfnewid ers cynhyrchu llaeth am y tro cyntaf yng Ngwern Hefin, ger y Bala, lle buont yn rhedeg system bîff a defaid draddodiadol yn flaenorol. Roedd y gwartheg hynny i gyd yn cael eu ffrwythloni gan deirw bîff.
Mae'r teulu Jarman bellach yn newid o system lloia drwy'r flwyddyn (AYR) i broffil llaeth yn y gwanwyn, er mwyn symleiddio'r system a gwneud y mwyaf o botensial pori eu fferm.
Er mwyn llywio’r newid hwnnw ac i symud tuag at system o fridio eu hanifeiliaid cyfnewid eu hunain, maent wedi gweithio gyda Cyswllt Ffermio, gyda mewnbwn gan yr ymgynghorydd Andy Dodd, o WhiteAvon Consultancy, fel prosiect safle ffocws.
Er bod y gost o fagu heffrod cyfnewid yn amrywio o weithred i weithred, mae Mr Dodd yn cyfrifo ei fod yn costio £1,141 fel arfer rhwng genedigaeth a lloia ar ôl 24 mis.
Dywedodd wrth ffermwyr a fynychodd ddiwrnod agored diweddar Cyswllt Ffermio yng Ngwern Hefin fod manteision amlwg i fferm laeth drwy fridio ei anifeiliaid cyfnewid ei hun.
“Gall fferm fridio'r math o anifail sydd ei angen arni, nid bodloni ar yr hyn a allai fod yn heffrod eilradd o fuchesi eraill,'' meddai Mr Dodd.
“Yn gyffredinol, nid heffrod dros ben sy'n dod i farchnad fydd anifeiliaid gorau'r gwerthwr, oherwydd byddant am gadw'r rheini ar gyfer eu buches eu hunain.''
Am y rheswm hwnnw, mae'r gyfradd cyfnewid yn nodweddiadol uwch mewn buches gyfnewid dros dro – tua 26-28% yn gyffredinol, ychwanegodd.)
Mae gan ffermwyr llai o reolaeth dros eneteg pan fyddant yn prynu stoc; trwy fridio eu heffrod eu hunain, gallant gynhyrchu buwch sy'n cyd-fynd â'u system, gan ddod ag unffurfiaeth i'r fuches.
Er bod y teulu Jarman wedi cynhyrchu ail incwm da trwy werthu gwartheg bîff o'u buches gyfnewid dros dro, byddai gwerth gwartheg bîff o'u buches wanwyn yn is oherwydd bod ganddynt bellach wartheg llai eu maint.
“Mae gwerthoedd lloi bîff o fridiau pori yn nodweddiadol yn is nag epil buchesi lloia trwy gydol y flwyddyn,” nododd Mr Dodd.
Er mwyn caniatáu ar gyfer trosglwyddo cyflymach i loia bloc, prynodd y teulu Jarman 128 o heffrod mewn dau swp o Iwerddon, a'u paru â semen â’i ryw wedi ei bennu er mwyn lleihau nifer y lloi tarw llaeth; gwartheg Friesian croes Jersey yw’r prif broffil geneteg. O'r 62 a gydamserwyd ac a ffrwythlonwyd eleni, cynhyrchodd 42 heffrod llaeth.
Mae cyfran o’r fuches bresennol hefyd wedi’i gadael ar agor am gyfnod, i symud yn unol â phroffil llaeth y gwanwyn. Yn 2023, bydd semen â’i ryw wedi ei bennu yn cael ei ddefnyddio ar fuchod hefyd.
Dywedodd Gwynfor Jarman, sy’n ffermio gyda’i wraig, Leisa, a’i ferch, Gweno, trwy fridio eu heffrod eu hunain, eu bod yn gallu cynhyrchu anifeiliaid sy’n well yn enetig.
“Mae gennym ni reolaeth ar yr holl nodweddion arferol gan gynnwys gwell traed, coesau a chadeiriau, ond mae hefyd yn caniatáu ar gyfer unffurfiaeth ar draws y fuches.''
Ychwanegodd y gall buches gyfnewid dros dro fod yn fusnes peryglus o ran bioddiogelwch hefyd, hyd yn oed wrth brynu gwartheg sydd â chofnodion iechyd glân ac sydd o ffynonellau dibynadwy.
“Mae prynu gwartheg o ffynonellau allanol bob amser yn peri risg o gyflwyno clefydau i fuches,” meddai Mr Jarman.
25% yw cyfradd gyfnewid y fuches ar hyn o bryd. “Rydyn ni'n gobeithio cael hynny i lawr i 20% trwy fridio anifeiliaid gwell,” ychwanegodd Mr Jarman.
Mae lloia yn dechrau ar 20 Chwefror i gyd-fynd â thwf glaswellt y fferm fynydd ac i leihau’r cosbau tymhorol sy’n gysylltiedig â lloia ynghynt. Caiff yr holl waith magu heffrod ei roi ar gontract allanol i fagwr contract.
Mae rheoli glaswelltir a phori cylchdro wrth galon y system newydd yn Fferm Gwern Hefin. Dywedodd Mr Jarman ei fod wedi'i ysbrydoli i droi'r fferm yn dir pori helaeth ar ôl mynychu cwrs Meistr ar Borfa Cyswllt Ffermio.
“Agorodd y cwrs hwnnw fy llygaid i'r hyn y gallem ei gyflawni,'' meddai.
Yn 2021, tyfodd y llwyfan pori 13t o ddeunydd sych (DM)/ha (5.3t DM/erw) o fewnbwn gwrtaith o 225kgN/ha - mae Gweno yn mesur y glaswellt yn wythnosol yn ystod y tymor tyfu.
“Rydym wedi cael ein priddoedd wedi’u profi drwy Cyswllt Ffermio a does dim angen unrhyw P a K arnom ni, heblaw’r hyn rydyn ni’n ei gynhyrchu ar y fferm,” meddai Mr Jarman.
Mae gan y fferm lwyfan pori o 77ha, ac ar hyn o bryd mae ganddi stoc o 2.85lu yr hectar. Mae buddsoddiad mewn seilwaith i gefnogi'r system newydd yn cynnwys cylchdro 36-pwynt i ddisodli ei barlwr 10/20.
Mae'r fuches yn cynhyrchu 5,700 litr y fuwch ar gyfartaledd bob blwyddyn, gyda chyfartaledd braster menyn treigl 12 mis o 4.72% a chyfartaledd protein o 3.73%.
Trwy ddefnyddio mwy o'r glaswellt a dyfir ynghyd â newid brîd buwch, dywedodd Mr Jarman y gall leihau ei gostau a chynyddu'r gyfradd stocio, tra'n cydymffurfio â'r rheoliadau rheoli llygredd amaethyddol newydd.
“Trwy ddefnyddio glaswellt yn well, nid yn unig mae mwy ohono, ond mae'r ansawdd yn uwch,” meddai.
Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.