Gwern Hefin, Llanycil, Y Bala

Prosiect safle ffocws: Cost a budd magu eich heffrod llaeth eich hunain

Nodau’r prosiect

  • Cyfrif cost a budd posibl o gydamseru heffrod er mwyn sicrhau bloc lloia tynn yn ystod y gwanwyn wrth symud o fuches sy’n lloia trwy gydol y flwyddyn – a fydd yn sicrhau defnydd gwell ac yn golygu y bydd rhagor o laeth yn cael ei gynhyrchu o borthiant yn ystod cyfnodau o dyfiant glaswellt uwch.
  • Cyfrif cost a budd posibl gwahanol raglenni bridio sy’n cynnwys defnyddio semen â’i ryw wedi’i bennu ar heffrod gwasod sy’n cynnwys, heffrod sy’n gofyn tarw yn naturiol, defnyddio dyfeisiau yn y groth sy'n rhyddhau progesteron (CIDR) (PRID) ar gyfer cydamseru pan fydd heffrod yn gofyn tarw, a phan fydd heffrod yn cael eu troi at y tarw.
  • Gyda’r rheoliadau dŵr newydd ar waith yng Nghymru a therfyn ar ddefnydd nitrogen fesul hectar ar y ffordd, mae’n rhaid i gynhyrchwyr feddwl yn ddwys am sut y maent yn rheoli cyfraddau stocio dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Bydd y prosiect hefyd yn asesu effaith heffrod a fagwyd adref ar gyfanswm kgN/ha y fferm. Gan y bydd heffrod yn cael eu magu ar y fferm yn hytrach na chael eu prynu i mewn yn agos at loia neu ar ôl lloia, bydd rhaid cynnwys faint o kgN sy’n cael ei gynhyrchu o dail organig yng nghyfanswm y fferm gyfan.

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Bryn
Huw a Meinir Jones Bryn, Ferwig, Aberteifi Meysydd allweddol yr
Marian Mawr
Aled Morris Marian Mawr, Dyserth, Rhyl Prif Amcanion Gwella
Birchfield
Nant Glas, Llandrindod Prosiect Safle Ffocws: Manteision pwyso