Does dim byd yn aros yn ei unfan yn hir ar Stad ddwy fil a hanner o erwau Kingsclere. Mae dulliau ffermio blaengar wrth galon gweledigaeth Tim May ar gyfer Kinsclere, Rheolwr yr Ystad a ffermwr y Bedwaredd Genhedlaeth.
Mae Tim yn ffermio cyfran ag Ollie Chedgey, ffermwr cenhedlaeth gyntaf sy’n rheoli’r fenter laeth symudol, a Ben Ronaldo, sy’n rhedeg y cwmni wyau wedi’u pasteureiddio. Mae holl weithgareddau’r fferm yn cael eu gwneud trwy fabwysiadu dulliau adfywiol. Mae rhoi yn ôl - i nid yn unig y tîr, ond i’r gymuned sydd yn rhan o Ystad Kingsclere yn hanfodol yn y system ffermio hon.
Mae Kingsclere yn gwneud ‘gwahanol’ yn dda ac yn dangos sut y gall cymuned gylchol weithio nid yn unig i fusnes, ond i bawb.Ydym ni newydd rithio at ddyfodol ffermio?