13 Rhagfyr 2022
Mae cynhyrchu silwair protein uchel a’i fwydo cyn wyna ar y cyd â soia protein uchel wedi helpu fferm ddefaid yn Sir y Fflint i leihau ei chostau porthiant o £2.57 y famog.
Mae’r tad a’r mab David a Mathew Roberts yn rhedeg 1,400 o famogiaid ar Fferm Tŷ Draw yn Llanasa ger Treffynnon, diadell sydd wedi cynyddu o 1,200 ers 2019.
Mae’r pâr wedi bod yn rhagweithiol iawn yn ceisio cyngor technegol arbenigol trwy Cyswllt Ffermio i wella perfformiad busnes ac i wneud y fferm yn fwy effeithlon - mae eu fferm yn safle ffocws Cyswllt Ffermio.
Mae’r dull hwnnw, sydd wedi cynnwys gwella glaswelltir a gwneud newidiadau i faethiad mamogiaid, wedi arwain at rai canlyniadau cadarnhaol iawn, yn enwedig yn y drefn fwydo yn ystod y cyfnod wyna.
Mae ffigurau a gasglwyd gan Cyswllt Ffermio yn ystod prosiect ymchwil i fesur effaith cyngor technegol yn dangos bod y defnydd o borthiant yn ystod cyfnod wyna 2020 wedi gostwng gyda 10.74kg/mamog o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol - arbediad cost o £2.57/mamog.
Cyflawnwyd yr arbedion ar borthiant a brynwyd trwy gynhyrchu silwair o ansawdd uchel iawn o gnydau wedi’u hailhadu sy'n cynnwys mathau uchel o siwgr a meillion coch a gyda chyngor maeth gan yr ymgynghorydd defaid annibynnol, Kate Phillips.
Cafodd y silwair byrnau mawr ei ddadansoddi ar 11.2 MJ/kgDM, 14.9% o brotein crai, 41.4% o ddeunydd sych ac egni eplesadwy o 9.0 MJ/kgDM a'i fwydo yn ad-lib.
Yn draddodiadol, roedd mamogiaid wedi cael dwysfwyd cyn wyna ond yn dilyn cyngor, newidiodd y teulu Roberts i soia protein uchel yn 2020; yn 2021 gwnaethant newid pellach, i belenni betys siwgr a blawd hadau rêp wedi'i ddiogelu.
Dywed Mrs Phillips fod gan wneud silwair o ansawdd uchel y potensial i leihau costau porthiant a brynir yn ddramatig ar gyfer mamogiaid beichiog, cyn belled ag y cymerir gofal i gydbwyso'r silwair ag atchwanegiadau sy'n ategu'r dadansoddiad.
Gallai hynny olygu egni eplesadwy ychwanegol, protein sy’n ddiraddiadwy yn y rwmen neu brotein anniraddiadwy treuliadwy.
“Gall silwair o ansawdd uchel fynd â mamogiaid yn agos at ŵyna heb unrhyw atchwanegiadau o gwbl heblaw am fwynau, ac yn aml ddim ond am y tair wythnos diwethaf y mae angen dwysfwydydd ychwanegol,’’ meddai Mrs Phillips.
Ar Fferm Tŷ Draw, gwnaed toriad sylweddol hefyd i nifer yr wythnosau y cafodd mamogiaid y porthiant atodol - roedd wedi bod yn cael ei wneud am saith wythnos cyn wyna ond yn 2021 roedd mamogiaid oedd yn cario efeilliaid yn cael eu bwydo am dair wythnos a mamogiaid sengl am wythnos yn unig.
Roedd hyn yn bosibl oherwydd y gwelliannau a wnaed i ansawdd silwair, yn arbennig cynhyrchu porthiant gyda chynnwys uchel o egni a phrotein.
I gyflawni’r ansawdd honno a gyda chyngor gan yr agronomegydd ProCam Rhys Owen, mae nifer o gaeau wedi’u hailhadu dros y pum mlynedd diwethaf gyda chymysgeddau hadau wedi’u torri a’u pori o bum mlynedd i chwe blynedd sy’n ymgorffori mathau uchel o siwgr a meillion coch.
Trwy Cyswllt Ffermio y cafodd David a Mathew eu hysbrydoli i wneud y newidiadau.
Roeddent wedi mynychu digwyddiad Cyswllt Ffermio lle’r oedd yr ymgynghorydd defaid annibynnol, John Vipond, yn siaradwr; rhoddodd gyngor ar wella ansawdd silwair a'i fwydo â soia cyn ŵyna.
Mae eu busnes, sydd hefyd yn cynhyrchu bîff, bellach yn defnyddio llai o wrtaith ac eto yn tyfu mwy o laswellt o ansawdd gwell, ar gyfer silwair ac ar gyfer pori.
Mae'r gwyndwn yn cael ei bori'n galed ac yn cynhyrchu dau doriad o silwair.
Cafodd silwair ei fwydo yn ad lib yn nhymor wyna 2022 gan amrywio mewn maint o 3.5-6.5kg y dydd yn ddibynnol ar ansawdd.
Mae silwair o dymor torri 2021 wedi cael canlyniadau dadansoddi da iawn, yn amrywio o 10.7 i 11.7MJ/kgDM gyda phroteinau o hyd at 18% ar y samplau meillion coch.
I ategu hynny, mae gefeilliaid yn cael 0.15 - 0.35kg o borthiant atodol ar ffurf cymysgedd o belenni betys siwgr a rêp wedi’i ddiogelu, a dim ond tair wythnos cyn wyna y cafodd yr mamogiaid sengl eu cadw dan do. Pan ddaethant i mewn dan do rhoddwyd digon o wasarn iddynt ac roedd eu cymeriant silwair yn gyfyngedig i'w hatal rhag mynd yn rhy dew.
Bydd dogn y flwyddyn nesaf yn cynnwys silwair wedi'i wneud o wyndwn torri dwy i dair blynedd a heuwyd ym Medi 2021, gan gynnwys mathau parhaus o feillion coch ar gyfer cynnwys protein ychwanegol; y nod yw gwella ansawdd ymhellach a sicrhau gostyngiad hyd yn oed yn fwy mewn dibyniaeth ar wrtaith artiffisial.
Mae David a Mathew hefyd yn gweld betys porthiant fel ateb posibl i leihau gofynion porthiant gaeaf eu diadell ymhellach; bu iddynt dyfu cnydau eithriadol yn 2020 a 2021 ond bu tywydd gwael yn her cyn cyfnod wyna 2021.
Arweiniodd hyn at yr angen i brynu porthiant ychwanegol cyn wyna yn y flwyddyn honno i wneud yn iawn am fethu â phori’r betys porthiant.
Mae wedi bod yn gyfnod o welliant parhaus i’r pâr gyda newidiadau rheoli wedi’u cadarnhau gan fewnbwn gwasanaethau Cyswllt Ffermio.
Mae Mathew yn rhan o grŵp trafod Cyswllt Ffermio ac mae wedi mynychu digwyddiadau Cyswllt Ffermio. Mae’r fferm wedi derbyn cyllid drwy’r Gwasanaeth Cynghori ac mae bellach yn cael ei chefnogi yn ei rôl fel safle ffocws.
Dywedodd Non Williams, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio ar gyfer Gogledd Cymru, mai’r camau nesaf ar Fferm Tŷ Draw fydd cyfrifo faint o borthiant a brynwyd yn 2022.
“Byddwn hefyd yn monitro perfformiad gwyndwn torri Medi-2021 ac yn mesur y defnydd o wrtaith a’r arbedion gwirioneddol a wnaed,” ychwanegodd.