13 Chwefror 2023

 

Mae protocolau ffrwythloni artiffisial (AI) da yn helpu fferm laeth yn Sir Gaerfyrddin i gael cyfradd gyflo chwe wythnos o fwy nag 80%.

Mae Iwan Francis yn rhedeg buches sy'n lloia mewn dau floc o 200 o wartheg croes Friesian yn Nantglas, Talog, lle mae'n gwneud ei AI ei hun.

Trwy waith y fferm fel safle arddangos Cyswllt Ffermio, mae Mr Francis wedi bod yn gweithio gyda'r milfeddyg, Kate Burnby i wella ffrwythlondeb y fuches.

Mae wedi cyflawni hyn - gan ostwng y gyfradd gwartheg gwag 12 wythnos o 14% i 5% o fewn dwy flynedd a hanner a chynyddu cyfraddau cyflo chwe wythnos o 71% i fwy nag 80%.

Yn ystod diwrnod agored Cyswllt Ffermio yn Nantglas yn ddiweddar, dywedodd Ms Burnby er bod llawer o ffactorau sy'n cyfrannu at ffrwythlondeb buches da - gyda Mr Francis yn canolbwyntio ar gofnodion lloia, statws clefydau, protocolau AI a chanfod pryd mae buwch yn gofyn tarw, ffactorau eraill sy'n cael eu hystyried yw maeth, cyfforddusrwydd a systemau trin buchod.

Rhoddodd Ms Burnby gyngor i ffermwyr a oedd yn bresennol yn y digwyddiad ar arferion AI gorau, gan gynnwys paratoi'r gwelltyn AI, rheoli fflasg a chyfleusterau da i drin stoc.

Mae storio, trin a dadmer semen tarw yn ofalus yn ystyriaeth bwysig ac mae gan Mr Francis ardal benodol ar gyfer paratoadau a rheoli AI, sy'n cael ei gadw'n lân ac yn daclus bob amser. Mae'r safle'n cynnwys y fflasg, bwrdd gwyn gyda map lleoliadau tarw o fewn y fflasg a digon o le i drin y semen.

Mae argymhellion pellach ar drin semen yn cynnwys:

  • Gwirio bod y tanc semen yn llawn nitrogen hylifol pan gaiff ei gludo a gwirio lefelau ddwywaith yr wythnos
  • Gwirio’r tanc am rewi ar wddf allanol y tanc ddwywaith yr wythnos gan fod hyn yn dangos ymddatodiad o ddeunydd inswleiddio
  • Adnabod gwellt gan ddefnyddio rhodenni marcio lliw yn y gobledi, neu system debyg
  • Gwybod lleoliad semen pob tarw cyn adfer y gwellt gan y bydd y cynnwys yn dechrau dadmer o fewn dwy eiliad o gael ei dynnu allan o'r fflasg
  • Dim ond dadmer nifer y gwellt y gellir eu defnyddio o fewn 10 munud
  • Monitro tymheredd y dŵr yn barhaus 
  • Dylai dŵr orchuddio popeth ond am 1cm uchaf y gwellt

Mae coleri canfod pryd mae buwch yn gofyn tarw wedi bod yn gaffaeliad mawr i Iwan, gan eu bod yn ddibynadwy ac yn effeithiol, sydd wedi helpu i gynnal cyfraddau cymryd tarw uchel gyda llai o ymdrech nag o'r blaen.

Mae Mr Francis yn cofnodi'r holl ddata lloia, p'un a oes problemau ai peidio. Mae'r data yn cynnwys cyflwr y fuwch wrth loia, manylion y llo, unrhyw anhawsterau wrth loia, glanhau, achosion twymyn llaeth ac unrhyw wartheg sy’n hwyr yn lloia. Mae adolygu'r cofnodion hyn wedi helpu i haneru nifer a difrifoldeb anhwylderau metabolig yn y fuches.

Mae system drin nad yw'n cynyddu straen ar y fuwch adeg AI yn bwysig. “Y ffordd orau o wneud y mwyaf o feichiogi yw cael amgylchedd tawel a chyfleusterau trin da,” cynghorodd Ms Burnby.

Mae Mr Francis wedi creu system ddrafftio sy'n darparu amgylchedd straen isel gan fod gan y fuwch a ddrafftiwyd i'w ffrwythloni fynediad at silwair a dŵr ac yn gallu gweld gweddill y fuches pan fydd hi'n cael ei dal yn ôl ar gyfer AI.

“Nid oes angen Iwan fel arfer i ieuo’r gwartheg gan eu bod fel arfer yn sefyll yn dawel yn y rhedfa,” esboniodd Ms Burnby. 

Mae'r hyn sy'n gyfystyr â system trin da yn wahanol i bob fferm, meddai Ms Burnby. “Gallai fod yn ieuau pen, rhedfa, craets, bydd pob un yn gweithio'n dda cyhyd â'u bod wedi'u sefydlu'n dda a bod y gwartheg yn gyfarwydd â nhw.”

Ar gyfer heffrod, mae'n argymell eu rhedeg drwy'r system drin cyn AI i'w hymgyfarwyddo nhw ag ef.

Mae Ms Burnby yn argymell adolygu data bridio yn rheolaidd — gan gymharu canlyniadau ac ystyried ffactorau fel y technegydd AI a'r teirw a ddefnyddir ar ddiwrnodau penodol, i weld a oes lle i wella.

“Ystyriwch gwrs gloywi ar gyfer technegwyr bob dwy flynedd neu bryd bynnag y mae pryderon am ganlyniadau,” meddai.

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites