Gyfylchau, Llanerfyl, Y Trallwng 

Prosiect Safle Ffocws: Gwella iechyd y ddiadell i sicrhau gwell elw

Cyflwyniad i’r Prosiect:

Bydd monitro iechyd anifeiliaid a datblygu cynllun iechyd effeithiol yn sicrhau bod camau’n cael eu cymryd yn brydlon, lleihau costau rheoli, atal a rheoli clefydau, ac felly’n gwella iechyd a lles da byw ac elw’r fferm. Bydd cynllunio ymlaen llaw yn caniatáu ffermwyr i roi triniaethau ar yr adeg fwyaf priodol ac i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio cyn lleied â phosibl, ond cymaint ag sydd angen. Gyda mwy a mwy o bwyslais ar ymwrthedd i driniaethau gwrthfiotig ac anthelminitgau, mae pwysigrwydd y pwnc ar gynnydd. Gellir hefyd gosod targedau a monitro perfformiad y ddiadell yn barhaus i allu sicrhau rhybudd cynnar o unrhyw broblemau. Os na fydd y targedau’n cael eu cyrraedd, gellir ymchwilio a thrafod y rheswm gyda’r milfeddyg, ac adolygu’r cynllun iechyd i fynd i’r afael â’r broblem. Gan ddefnyddio tystiolaeth megis creu proffil metabolig, cynnydd pwysau byw, sgorio cyflwr y corff a chyfrif wyau ysgarthol yn werthfawr er mwyn datblygu cynlluniau effeithiol i reoli porfeydd, maeth a strategaethau trin llyngyr. Gall ffermwyr dreulio llawer iawn o amser ac arian ar roi triniaethau llyngyr fel mater o arfer, a thrwy hynny, maent yn cynyddu’r posibilrwydd o gael ymwrthedd anthelminitig.

Nod y prosiect:

Mae gan y ffermwr werth tair blynedd o ddata cynhyrchiant gan gynnwys manylion sganio, diddyfnu a dyddiau hyd gwerthu.

Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae samplu ar gyfer elfennau hybrin, llyngyr yr iau a chyfrif wyau ysgarthol wedi cael ei wneud gan ddangos amrywiaeth o lefelau baich. Gwnaed profion i ganfod wyau llyngyr yr iau a choproantigen ar ysgarthion, ac roedd y ddau’n dangos canlyniadau positif ar gyfer llyngyr yr iau a llyngyr y rwmen yn ystod gaeaf 2018/19. Gwelwyd baich sylweddol o lyngyr mewn mamogiaid yn ystod gaeaf 2018/19.

Prif nod y prosiect yw monitro baich llyngyr yn rheolaidd drwy gyfrif wyau ysgarthol gan ddefnyddio’r llwyfan FECPAKG2, profi ar gyfer ymwrthedd/effeithiolrwydd anthelminitigau, BCS  gwella perfformiad stoc drwy reoli baich parasitiaid ac ymwrthedd yn fwy effeithiol.

Y prif amcanion yw:

  1. Gwella cyflwr y famog - ymyrryd wrth ddiddyfnu a sganio yn ôl BCS ac archwiliad pellach drwy brofion yn ôl yr angen
  2. Gwella’r canran sganio - bydd hyn yn digwydd drwy reoli parasitiaid yn well a gwella cyflwr y famog.
  3. Cynhyrchu ŵyn oddi ar y borfa gan fwydo ychydig iawn o ddwysfwyd neu ddim dwysfwyd o gwbl.

Bydd y prosiect hefyd yn cefnogi’r camau gweithredol strategol ar gyfer y diwydiant cig coch yng Nghymru hyd at 2020 trwy ‘ddatblygu ac annog cynllunio iechyd y ddiadell, atal clefydau ac arferion cwarantîn effeithiol i wella bioddiogelwch a lleihau effaith y clefyd’, ac i ‘wella dealltwriaeth y diwydiant o fuddion economaidd gwella iechyd anifeiliaid a gwella effeithlonrwydd drwy hwsmonaeth effeithiol’ (Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer y Diwydiant Cig Coch, HCC).


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Fferm Pentre
Hugh Jones Fferm Pentre, Pentrecelyn, Rhuthun, Sir Ddinbych
Glanmynys
Carine Kidd a Peredur Owen Glanmynys, LlanymddyfrI Meysydd
Aberbranddu
Irwel Jones Aberbranddu, Cwrt y Cadno, Pumsaint, Llanwrda Prif