Pori Cadwriaeth: Rheoli mynyddoedd yn gynaliadwy gan ddefnyddio coleri GPS Monil ar gyfer gwartheg brodorol

Bwriad y prosiect yw ailgyflwyno gwartheg yn dilyn absenoldeb o 20 mlynedd i geisio brwydro yn erbyn dominyddiaeth rhedyn a glaswellt y gweunydd, gan nad yw pori defaid wedi llwyddo i’w rheoli ar dir comin. Bydd y prosiect yn defnyddio coleri system leoli fyd-eang Monil i reoli patrymau pori’r glaswellt yn effeithiol ar y tir comin, gan wella ansawdd y porthiant a gwerth y cynefin i fywyd gwyllt. Yn ogystal, bydd y coleri’n cael eu treialu ar gyfer pori byrnau dros y gaeaf ar dir caeëdig. Bydd y prosiect yn gwerthuso sut i gyflwyno gwartheg i aradal benodol o’r tir comin, ac yn monitro effeithiolrwydd pori yn erbyn ardal reoli er mwyn asesu gwelliannau amgylcheddol.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel
  • Storio carbon
  • Tirweddau naturiol gwarchodedig
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Ecosystemau cydnerth
  • Defnyddio adnoddau’n effeithlon