Prosiect meincnodi perfformiad godro ac iechyd y pwrs/cadair yng Nghymru

Mae mastitis clinigol ac is-glinigol ymhlith y clefydau mwyaf costus mewn ffermio llaeth o ystyried eu heffaith negyddol ar ansawdd llaeth a chynnyrch llaeth, gan effeithio yn y pen draw ar broffidioldeb y fferm laeth.

Mae pedair fferm laeth sy’n rhan o Rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio yn cymryd rhan mewn prosiect Cymru gyfan i feincnodi perfformiad godro ac iechyd y pwrs/cadair. Bydd y ffermydd dan sylw yn darparu eu data fferm eu hunain ar gyfer gwerthuso a meincnodi rhwng y pedair fferm yn ogystal â thargedau ehangach y diwydiant.

Nod y prosiect yw:

  • Gwerthuso perfformiad unigol y grŵp ar y fferm ar hyn o bryd a nodi meysydd i’w gwella o ran:
    • Iechyd y pwrs/cadair
    • Effeithlonrwydd godro
    • Strategaeth reoli fwy cost-effeithiol
    • Gwella ansawdd y llaeth
    • Lleihau achosion o fastitis clinigol ar y fferm
    • Lleihau'r defnydd o wrthfiotigau ar y fferm
  • Caniatáu i bob ffermwr ddatblygu sgiliau a chael gwell dealltwriaeth o’r data, gan alluogi iddynt ddefnyddio’r data i fonitro perfformiad yn y dyfodol
  • Gwella iechyd a lles y fuches i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr trwy reoli da byw yn well

Trwy ysgogi gwelliant pellach mewn effeithlonrwydd yn y meysydd busnes allweddol hyn, bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at y canlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Safonau Iechyd a lles anifeiliaid uchel
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr