Prosiect Safle Arddangos - Aberbranddu

Gwerthuso Perfformiad ŵyn

 

Mae Irwel Jones, Aberbranddu, Pumsaint wedi mynd ati i gasglu data’n weithredol ers sawl blwyddyn, ac o ganlyniad, mae wedi darganfod bod cynnydd pwysau byw dyddiol (DLWG) yr ŵyn yn anfoddhaol. O ystyried mai mamogiaid Cymreig math Tregaron sydd yma, byddai’n annheg cymharu DLWG yr ŵyn yma gydag ŵyn sydd wedi’u magu i’w lladd, ond mae’n dal i deimlo y gallai eu cyfraddau twf gyflawni 80g/dydd yn fwy na’r perfformiad presennol.

Nod y prosiect fydd i asesu a gwerthuso perfformiad yr ŵyn. Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn casglu data, dadansoddi ac yn ymgymryd â gweithgareddau samplu amrywiol.

Cyn ŵyna, bydd 20 mamog anffrwythlon yn cael eu hanfon am archwiliad post mortem  lle byddwn yn chwilio am afiechydon sy’n effeithio’n sylweddol ar gynhyrchiant, gan gynnwys Ovine Pulmonary Adenocarcinoma (cancr heintus ar yr ysgyfaint), Maedi Visna, Caseous Lymphadenitis, afiechyd Borders, afiechyd Johne’s. 

Bydd unrhyw abnormaledd a ddaw i’r amlwg yn ystod y post mortem hefyd yn cael ei nodi. h.y. rhesymau dros erthylu, baich llyngyr ayb.

Byddwn hefyd yn cymryd samplau o’r iau i brofi elfennau hybrin gan nad yw’r defaid yn derbyn bolws felly bydd y canlyniadau’n rhoi darlun gywir o statws elfennau hybrin o fewn y ddiadell.

Bydd gwaith proffilio metabolig (BHB, Magnesiwm, Wrea, Albumin a chopr) yn cael ei wneud ar 20 mamog gyda sgor cyflwr corff gwahanol dair wythnos cyn ŵyna i ymchwilio i gyflwr maeth y mamogiaid hynny. O ganlyniad i gasglu’r data hwn, gallwn addasu’r dogn cyn ŵyna os oes angen a gwneud penderfyniadau gwell o ran maeth ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Yn ystod y cyfnod ŵyna, byddwn hefyd yn casglu samplau colostrwm gan y mamogiaid i asesu’r ansawdd a byddwn hefyd yn cymryd samplau gwaed gan ŵyn y mamogiaid yma i asesu crynodiad protein yn y gwaed fel arwydd o faint o imiwnoglobwlin sy’n cael ei amsugno o’r colostrwm. Bydd y data a gesglir o’r profion colostrwm yn amlygu unrhyw broblemau maeth, ac wrth gadw llygad ar yr ŵyn, mae’n bosibl y byddwn yn gallu gweld a oes unrhyw wahaniaeth yn y cynnydd pwysau byw rhwng yr ŵyn sy’n derbyn colostrwm o ansawdd is a’r rhai sy’n derbyn colostrwm o ansawdd uwch.

Mae’n rhaid i ni werthuso ar bob cam os ydym ni am lwyddo gyda’r prosiect hirdymor yma i ganfod gwendidau wrth besgi ŵyn ar fferm Aberbranddu. Ar y cam cyntaf hwn, rydym yn gobeithio canfod a oedd maeth cyn ŵyna yn ddigonol.

 

Diweddariad prosiect:

Gwerthuso Perfformiad ŵyn - Diweddariad prosiect


Pori cylchdro ar 1250tr 

 

Nodau’r Prosiect:

  • Arddangos y broses o drawsnewid o fferm bîff a defaid stoc sefydlog i system pori cylchdro a’r manteision cysylltiedig.
  • Bydd y prosiect hwn yn amlygu’r ystyriaethau ymarferol o rannu’r fferm a gosod yr isadeiledd perthnasol ac yn darparu cynllun ar gyfer trawsnewidiadau o’r fath.

Amcanion Strategol:

  • Gwella defnydd, twf ac ansawdd glaswellt trwy bori cylchdro.

Nodweddion ymarferol y prosiect:

  • Mae bloc 29 erw o dir mynydd wedi’i wella  wedi cael ei neilltuo a bydd yn cael ei rannu’n 9 padog yn cynnwys blociau 6x2.54 erw a blociau 3x4.69 erw
  • Asesu gofynion bwyd y da byw ar y fferm i adnabod yr anifeiliaid mwyaf addas i’w defnyddio yn y system pori cylchdro - yn ystod y tymor pori cyntaf dan y system rheolaeth newydd, defaid fydd yn cael y flaenoriaeth.
  • Cyfrifo cymeriant DM disgwyliedig, cynnal asesiad o’r llafur sydd ar gael.
  • Dyluniad celloedd gan ystyried topograffeg, cyfeiriad mae’n ei wynebu, dŵr, pŵer a symudiad personél/anifeiliaid.
  • Gosod y system a ddyluniwyd
  • Hyfforddiant ynglŷn â’r y defnydd cywir a mwyaf effeithlon o offer ffensio parhaol/dros dro a systemau dŵr.
  • Cefnogaeth barhaus i osod a rheoli’r cylchdro pori. 

Diweddariad y prosiect:

Pori Cylchdro ar 1250 troedfedd(1) - 16/06/2017

Pori Cylchdro 1250tr uwch lefel y môr (2) - 24/07/2017

Pori Cylchdro 1250tr uwch lefel y môr (3) - 18/10/2017


Pum Opsiwn ar gyfer Pesgi Ŵyn

 

Nod y prosiect:

Gwerthuso’r systemau pesgi ŵyn mwyaf cost effeithiol ac effeithlon er mwyn sicrhau'r allbwn a'r elw gorau posib.

Amcanion strategol:

  • Gwella cryfder y busnes
  • Gwella effeithlonrwydd cynhyrchu
  • Cyfleoedd i leihau effaith da byw sy’n cnoi cil trwy leihau amseroedd pesgi
  • Lleihau dibyniaeth ar borthiant a brynir i mewn
  • Gwella cynhyrchiant a rheolaeth costau

Nodweddion ymarferol y prosiect:

  • 310 o ŵyn yn cael eu rhannu’n bum grŵp cyfartal o 62 oen gyda phwysau grŵp cyfartalog o 32kg i'w pesgi ar bum gwahanol system.
  • Opsiwn 1: Pori cymysgedd o rêp porthiant a Rhygwellt Eidalaidd. Bydd cynnyrch yn cael ei fesur a bydd dwysedd stocio'n cael ei gyfrifo. Bydd y cae’n cael ei bori mewn stribedi gyda ffens ddilynol er mwyn gwneud defnydd effeithiol.
  • Opsiwn 2: Pori tir newydd ei ail-hadu - gwndwn tymor hir a blannwyd ym mis Mai 2015. Bydd mesur rheolaidd gan ddefnyddio mesurydd plât yn cyfrifo sawl kg o ddeunydd sych sydd ar gael i bob hectar a'r ardal arweiniol sydd ei angen i gyrraedd cyfraddau twf targed yr ŵyn.
  • Opsiwn 3: Pori hen wndwn sydd o leiaf 10 mlwydd oed yn unig. Bydd deunydd sych hefyd yn cael ei fesur a bydd gofyn dyddiol yr ŵyn yn cael ei gyfrifo.
  • Opsiwn 4: Pori gwndwn hŷn, ynghyd â bwydo dwysfwyd pesgi ŵyn. Bydd dwysfwyd yn cael ei fwydo yn ddibynnol ar dwf glaswellt a nifer yr ŵyn, yn hytrach nag ad-lib.
  • Opsiwn 5: Ŵyn a gedwir dan do'n derbyn dwysfwyd. Bydd grŵp o ŵyn a gedwir dan do yn derbyn dwysfwyd gyda phrotein crai o 14%-16% a gwellt.
  • Ar ôl tair wythnos, bydd yr ŵyn yn cael eu pwyso pob pythefnos nes eu bod wedi'u pesgi erbyn diwedd mis Tachwedd.
  • Cofnodi nifer y dyddiau hyd pesgi, sawl kg o gig oen a werthir i bob hectar, faint o ddwysfwyd a ddefnyddiwyd, unrhyw faterion yn ymwneud ag iechyd a'r elw.

Cyflwyniad Prosiect: 5 dewis i besgi ŵyn

 

Diweddariad y prosiect:

Fideo Safle Arddangos Aberbranddu

Prosiect yn cynorthwyo i werthuso opsiynau proffidiol ac ymarferol ar gyfer pesgi ŵyn

 

Adroddiad Terfynol: Gwerth glaswellt o ansawdd uchel mewn systemau pesgi ŵyn


Cymharu gwahanol ddulliau o drin cobalt mewn profion ar hap ar ŵyn

 

Nodau’r prosiect: Asesu effeithiolrwydd dau ddull o roi cobalt (chwistrell ne folws) i ŵyn trwy edrych ar y cynnydd yn eu pwysau.  
Rhoi tystiolaeth dda i seilio penderfyniadau arni wrth gynghori ffermwyr ar sut i atal diffyg cobalt trwy ei ategu.
Gwella lles tymor hir yr ŵyn a’r twf economaidd trwy atal diffyg cobalt.

Canlyniadau’r prosiect:

Data’r prosiect

Nifer o ŵyn

Cynnydd pwysau byw bolws mewn g

Nifer o ŵyn

Smartshot

Cynnydd Pwysau Byw Dyddiol mewn g

Gwryw

150

180

127

190

Benyw

127

90

155

90

Cyfartaledd

£0.50/ ŵyn

135

£0.75/ ŵyn

140

 

Wrth gynnal profion metabolig ar sampl o ŵyn eleni gwelwyd eu bod yn dioddef o ddiffyg cobalt.   Fel rhan o’u triniaeth roeddem am weld a oedd unrhyw wahaniaeth rhwng triniaeth trwy roi bolws a thrwy chwistrell.  Dangosodd y canlyniadau nad oedd gwahaniaeth rhwng y ddau grŵp gan ddangos bod y bolws a’r brechiad yr un mor effeithiol dros gyfnod o 2 fis.  Y dewis gwahanol i hyn fyddai dos sydd yn ddewis rhatach i’r triniaethau a dreialwyd ond mae’n dibynnu pa sawl gwaith y mae’n rhaid ei ailadrodd ac a yw’r costau llafur ychwanegol yn cael eu cyfrif.


Rheoli niwmonia mewn diadell o ddefaid

 

Mae niwmonia a phliwrisi yn achosi cost negyddol i’r ffermwr o ran gostyngiad yn y gyfradd dyfu a chostau o ran gwrthod carcasau (eu condemnio).

Gall niwmonia mewn defaid gael ei achosi gan nifer o heintiadau ond nid pasteurella bob tro. 

Pasteurellosis yw’r achos marwolaeth mwyaf cyffredin ac mae brechu yn rhan bwysig o’r dull o’i reoli. Ond nid hyn yw’r achos ym mhob dafad sy’n pesychu. 

Achosir pasteurellosis gan nifer o fathau o facteria oedd yn arfer cael eu galw yn Pasteurella ac a elwir yn awr yn Mannheimia neu Bibisternia ond byddaf fi’n defnyddio Pasteurella.

Roedd Irwel wedi cychwyn ei raglen o frechu ŵyn yn gynharach fel bod yr ŵyn wedi eu trin cyn eu diddyfnu (mae straen yn gallu sbarduno Pasteurellosis). Ond er gwaethaf hyn bu rhai ŵyn farw yn 2018. Roeddem am ymchwilio i hyn. Cafwyd un oen yn farw ym Mehefin 2019 ac fe’i hanfonwyd i gael post mortem lawn yn labordy APHA Caerfyrddin. 

Pasteurella oedd wedi achosi marwolaeth yr oen ond cadarnhawyd ei fod wedi ei heintio â Mycoplasma hefyd. Cofnodir niwmonia mycoplasma yn amlach mewn gwartheg ond mae’n debyg ei fod yn fwy cyffredin nag y mae’r cofnodion yn awgrymu mewn defaid. Gall fod yn brif achos niwmonia, ond mae’n lleihau’r imiwnedd lleol gan adael i afiechydon eraill (e.e. Pasteurella) i ymosod. Gall hefyd achosi peswch a thrwyn yn rhedeg.

Roeddem yn bwriadu cymryd swab gan 3 neu 4 o’r ŵyn yr oedd yn effeithio arnynt eleni i’w meithrin am Mycoplasma, ond y newyddion da i Irwel yw na fu unrhyw achosion hyd yn hyn.

Mae mycoplasma yn anodd ei drin ac ni ellir ei ddileu. Mae’n ymateb i wrthfiotig oxytetracycline ond bydd yn dod yn ôl yn aml. Rhaid i famogiaid ddatblygu rhywfaint o imiwnedd iddo felly nid yw triniaeth gyffredinol o grwpiau cyfan o ŵyn sy’n peswch yn helpu, er y dylid trin ŵyn sy’n dioddef yn wael neu’r rhai y mae’n effeithio ar eu twf.

  • Dim ond rhan o reoli’r afiechyd yw brechu
  • Nid yw’r peswch i gyd oherwydd Pasteurella
  • Ymchwiliwch i broblemau, siaradwch â’ch milfeddyg am y profion sydd ar gael ar gyfer problemau gwahanol.
     

Defnydd dyddiol defaid o ddŵr ar 1250troedfedd

 

Nodau’r prosiect: Gall pori cylchdro mewn caeau lle mae’r cyflenwad dŵr yn gyfyngedig fod yn ffactor sy’n cyfyngu.  Nod y prosiect hwn oedd mesur faint o ddŵr oedd yn cael ei ddefnyddio mewn gwirionedd dros gyfnod o 2 wythnos o 22.5.19 hyd 4.6.19.  Ar ôl y cyfnod hwn roedd y defaid/ŵyn yn symud mewn cylchdro i ardal gyda ffynhonnell ddŵr.  Newidiwyd y dŵr ddwywaith rhag ofn iddo fynd yn stel ond ni chafodd hynny effaith ar faint a yfwyd.  Bydd y treial hwn yn cael ei barhau pan fydd y defaid yn dychwelyd i’r caeau sydd heb gyflenwad dŵr.  Teimlir bod angen casglu mwy o ddata cyn y gellir llunio unrhyw gasgliadau cadarn er bod y canlyniadau cychwynnol yn dangos bod llai o ddŵr yn cael ei ddefnyddio yn ymarferol nag y mae ffigyrau’r diwydiant yn awgrymu.

Ffig.2 Graff yn dangos y dŵr a ddefnyddir yn ddyddiol ar 1250troedfedd gan griw o ddefaid/ŵyn o gafn symudol.

 

Ffig.2 Graff yn dangos y tymheredd uchaf ac isaf yng ngorsaf dywydd Trawscoed rhwng Mai a Gorffennaf 2019. 

Y cyfartaledd o ddŵr a yfwyd yn ddyddiol am y cyfnod dan sylw oedd 139L y dydd sydd yn tua 0.6L y dydd i’r mamogiaid (heb gynnwys yr ŵyn) sydd yn llai na safon y diwydiant sef 3.3 - 7.5L y dydd.  Er mai dim ond rhan o’r prosiect llawn yw hyn mae’n dangos bod hwn yn faes y byddai’n werth ymchwilio ymhellach iddo. 

 

Ffig. 3. Ffigyrau’r AHDB yn nodi safon y diwydiant o ran defnydd dŵr i dda byw.


Prosiect Porfa Cymru

Nodau’r prosiect:

Rydym wedi dewis ffermydd traws-sector ar draws Cymru fydd yn mesur a monitro cyfraddau twf eu glaswellt yn wythnosol fel rhan o Brosiect Porfa Cymru newydd Cyswllt Ffermio.

Bydd pob fferm yn defnyddio mesurydd plât i gasglu mesuriadau a byddant hefyd yn casglu samplau misol er mwyn dadansoddi ansawdd.

Bydd y ffermydd i gyd yn mesur tyfiant a chyfaint y Deunydd Sych (DM) sydd ar gael. Rydym wedi gofyn i bob un adnabod a chymharu gwahanol ddulliau o reoli glaswellt – ond mae’r nod yn gyffredin, sef i ganfod y system fydd yn gweddu orau i ofynion cyflenwad a galw da byw. Bydd pob fferm hefyd yn mynd i’r afael â’r defnydd a wneir o ddwysfwyd o ansawdd uchel.

Bydd y prosiect hwn yn eich galluogi i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chynnydd o bob safle trwy glicio ar fap a data Prosiect Porfa Cymru.

Cliciwch yma am y data diweddaraf