Prosiect Safle Arddangos - Llysun
Ymgyfarwyddo gyda ffrwythlondeb pridd
Er mwyn sicrhau cynhyrchiant pridd, mae’n bwysig deall ei nodweddion cemegol, ffisegol a biolegol. Dadansoddiad pridd yw’r man cychwyn a’r sylfaen ar gyfer sicrhau’r cydbwysedd cywir o brif faetholion a maetholion llai eraill.
Bydd prif ffocws y prosiect yn ymwneud â darparu Calsiwm ar ffurf Calsiwm Carbonad (Calch) a Chalsiwm Sylffad. O ddadansoddiadau pridd blaenorol, gwyddwn fod y fferm yn brin o Boron a Sinc. Bydd y ddwy elfen yma hefyd yn cael eu cynnwys yn y prosiect, ac mae’r rhain yn gysylltiedig â throsglwyddiad Calsiwm i’r planhigyn, ac yn y pen draw, gyda chryfder ac ansawdd cnydau a glaswellt.
Nodau’r prosiect:
Nod y prosiect yw dangos pwysigrwydd dadansoddiad pridd mwy cyfan a thargedu maetholion i wella ansawdd a chynhyrchiant glaswelltir.
Nodweddion ymarferol y prosiect:
Camau’r prosiect
- Nodi’r caeau sy’n addas ar gyfer y prosiect
- Anfon samplau pridd i gael eu dadansoddi’n fanwl
- Dewis cynhyrchion addas a gwasgaru ar y cyfraddau a argymhellir
- Monitro datblygiad y pridd a’r gwreiddiau
- Mesur cynhyrchiant glaswellt
- Cynnal profion meinwe ar bob un o’r 4 bloc ddwywaith y dydd yn ystod y tymor pori
- Creu adroddiad yn dangos costau a manteision triniaethau
- Cynnal digwyddiad ar y fferm i gyflwyno canlyniadau a hyrwyddo pwysigrwydd maeth y pridd
Mae 4 triniaeth wedi’u cynllunio.
- Calch Gronynnol
- Calch Gronynnol gyda Boron a Sinc
- Calsiwm Sylffad
- Calsiwm Sylffad gyda Boron a Sinc
Diweddariad ar y prosiect:
O ganlyniad i’r haf anarferol o sych, mae cynnyrch glaswellt wedi bod yn isel yn gyffredinol ac mae’r caeau wedi bod yn araf iawn yn ymateb i’r maetholion a gafodd eu hychwanegu. Byddwn felly yn parhau i fonitro perfformiad y lleiniau wrth fynd ymlaen i’r flwyddyn nesaf.
Diweddariad ar y prosiect:
Cyhoeddiad Technegol (Rhifyn 18, tudalen 2-3): Cyflwyniad
Cyflenwad Maetholion ar fferm Llysun
Mynd i’r afael â ffrwythlondeb pridd
Lleihau’r defnydd o driniaeth wrthfiotig yn ystod y cyfnod ŵyna
Prif nod y prosiect yw lleihau’r defnydd o wrthfiotigau ac annog defnydd cyfrifol o feddyginiaeth. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy sicrhau fod mamogiaid yn y cyflwr gorau ar gyfer cynhyrchu digon o golostrwm o ansawdd er mwyn lleihau’r defnydd o wrthfiotigau rhag ofn dros gyfnod ŵyna.
Nodau’r Prosiect:
- Sicrhau bod mamogiaid yn y cyflwr gorau posibl er mwyn cynhyrchu digon o golostrwm o asnawdd digonol i leihau’r defnydd o wrthfiotigau fel mesur ‘rhag ofn’ dros gyfnod ŵyna.
- Edrych ar rôl colostrwm ym mherfformiad ŵyn.
- Amcanion strategol:
- Lleihau’r defnydd o wrthfiotigau ac annog ffermwyr i ddefnyddio meddyginiaethau mewn modd mwy cyfrifol
- Gwella perfformiad ŵyn
Nodweddion ymarferol y prosiect:
- Tair wythnos cyn ŵyna, byddwn yn sgorio cyflwr corff y mamogiaid a bydd samplau gwaed yn cael eu dadansoddi er mwyn creu proffil metabolig. Mae'r proffil metabolig yn mesur lefelau egni, protein, mwynau ac elfennau hybrin ac yn caniatáu amser i addasu'r diet cyn ŵyna er mwyn lleihau peryglon iechyd.
- Bydd samplau gwaed yn cael eu casglu gan yr ŵyn – cymysgedd o ŵyn sengl, gefeilliaid a thripledi yn 2-5 diwrnod oed a byddant yn cael eu profi ar gyfer lefel imiwnoglobwlin, sy'n rhoi syniad o ansawdd a faint o golostrwm sydd wedi cael ei amsugno.
- Bydd yr ŵyn hefyd yn cael eu pwyso ar y diwrnod samplu ac yn derbyn tag adnabod ar gyfer y dyfodol i fonitro cyfradd twf a baich llyngyr. Yn ystod y tymor, bydd samplau cyfrif wyau ysgarthol (FEC) yn cael eu cymryd gan yr ŵyn hyn er mwyn monitro eu baich llyngyr.
- Bydd lefelau imiwnoglobwlin yn cael eu sgrinio gan ddefnyddio mesurydd refractometer a bydd hyd at 10 oen sâl yn cael eu samplu i asesu lefelau amsugno colostrwm.
- Bydd ŵyn yn cael eu pwyso ar enedigaeth, yn wyth wythnos oed ac wrth fynd i’w lladd i werthuso cyfraddau twf. Bydd unrhyw broblemau iechyd eraill hefyd yn cael eu cofnodi.
Diweddariad prosiect:
Mae’r prosiect eisoes wedi amlygu pwysigrwydd cynnal bioddiogelwch da wrth chwilio am anifeiliaid cyfnewid ac i sicrhau bod anifeiliaid sy’n cael eu prynu i mewn mor iach â phosibl. Trwy gymryd sampl gwaed gan nifer fechan ŵyn, mae’r prosiect eisoes wedi codi ymwybyddiaeth a thechnegau rheoli ar gyfer yr heriau iechyd anifeiliaid canlynol:
- Ymwrthedd anthelminitig
- Llyngyr yr iau
- Maedi Visna
- Caeseuous Lymohadinitis
- OPA
- Johne’s
Mae’r diwydiant yn gweithio tuag at wella’r modd y mae gwrthfiotigau’n cael eu defnyddio ar ffermydd trwy annog mwy o ddulliau cynaliadwy i reoli afiechydon. Y prif feysydd i ffermwyr defaid allu lleihau, disodli a gwella’r defnydd o driniaeth wrthfiotig o fewn eu diadelloedd yw; rheoli cloffni, atal erthylu lle bo triniaeth wrthfiotig ar gyfer y ddiadell gyfan yn cael ei ddefnyddio’n aml, a thriniaeth ataliol i ddiogelu ŵyn rhag heintiau bacteria yn syth ar ôl geni. Gellir trechu pob un o’r rhain gan ddefnyddio brechlynnau, gwella hylendid, bioddiogelwch, a strategaethau penodol eraill i reoli afiechydon.
Gosododd Ruma (Responsible Use of Medicines in Agriculture) dargedau ar gyfer y diwydiant y llynedd a oedd yn cynnwys sicrhau lleihad o 10% yn y gwrthfiotigau proffylactig a oedd yn cael eu gwerthu ar gyfer ŵyn newydd-anedig rhwng 2017 a 2021 a sicrhau cynnydd o 5% yn nifer y brechlynnau erthylu a chlwy’r traed sy’n cael eu gwerthu.
Yn 2018, bu’r fferm arddangos, Llysun, yn cynnal prosiect i leihau’r defnydd o driniaeth wrthfiotig yn ystod y cyfnod ŵyna. Yn dilyn achosion blaenorol o haint y cymalau o fewn y ddiadell, roedd defnyddio gwrthfiotigau yn ystod y cyfnod ŵyna wedi dod yn fwy cyffredin ac roedd yn cyfrannu at gostau meddyginiaeth a milfeddygon cyffredinol y fferm.
Roedd y mamogiaid Texel croes a’r mamogiaid miwl Cymreig yn ŵyna dan do o ganol mis Mawrth. Cyn ŵyna, dadansoddwyd y porthiant a chafodd y mamogiaid eu rhoi mewn grwpiau yn ôl cyflwr a nifer yr ŵyn yr oeddent yn eu cario er mwyn penderfynu ar y dogn priodol. Tair wythnos cyn i’r mamogiaid ddod ag ŵyn, cymerwyd sampl gwaed er mwyn creu proffil metabolig, sy’n mesur lefelau egni, protein a mwynau i ganiatáu ar gyfer addasu’r diet cyn ŵyna os oedd angen. Roedd gan fwyafrif y mamogiaid ar fferm Llysun lefelau digonol, felly nid oedd angen gwneud addasiadau sylweddol.
Yn ystod y cyfnod ŵyna, roedd glendid yn y sied ŵyna yn hollbwysig, o’r corlannau ŵyna i’r offer bwydo ac wrth roi cymorth i eni ŵyn. Cafodd yr ŵyn eu monitro i sicrhau eu bod yn derbyn digon o golostrwm - gan anelu at dderbyn 50ml/kg cyn gynted â phosibl ar ôl geni gyda chyfanswm o 200ml/kg o fewn y 24 awr gyntaf. Cafodd y bogail ei drin yn brydlon ar ôl genedigaeth ac unwaith eto ychydig oriau’n ddiweddarach wedi i’r mamogiaid lyfu’r ŵyn.
Er mwyn monitro amsugniad colostrwm, cymerwyd samplau gwaed gan yr ŵyn rhwng 2 a 5 diwrnod oed. Cafodd lefelau imiwnoglobwlin eu profi, sy’n arwydd o ansawdd a chyfanswm y colostrwm a gafodd ei amsugno. Roedd mwyafrif yr ŵyn yn dangos lefelau da o imiwnoglobwlin, ac roedd y rhai gyda lefelau is yn ŵyn o famogiaid gyda sgôr cyflwr corff is. Roedd hyn yn amlygu pwysigrwydd maeth y famog a chyflwr y corff er mwyn sicrhau’r perfformiad gorau posibl gan yr ŵyn.
Sgor cyflwr corff (BCS) |
Lefelau imiwnoglobwlin (ZST) |
2 |
8.8 |
2.5 |
10.0 |
3 |
22.6 |
3.5 |
25.2 |
4 |
32.0 |
Unedau ZST >14 = amsugniad colostrwm digonol |
|
5-14 = diffyg mewn amsugniad colostrwm |
|
<5 = methiant llwyr mewn amsugniad colostrwm |
Derbyniodd yr ŵyn gyda’r risg uchaf driniaeth wrthfiotig. Roedd hyn yn cynnwys ŵyn tripled, ŵyn gwan/bychain a gefeilliaid o famogiaid iau. Oherwydd hyn, defnyddiodd Llysun o leiaf 50% yn llai o driniaeth wrthfiotig dros y cyfnod ŵyna o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol.
Bydd cyfraddau twf mamogiaid bellach yn cael eu monitro i werthuso effaith ansawdd colostrwm ar berfformiad ŵyn yn y dyfodol.
Mae’r prosiect wedi amlygu pwysigrwydd cyflwr corff mamogiaid a’i effaith ar ansawdd colostrwm. Mae’r mamogiaid wedi cael tymor heriol eleni, a gyda’r glaswellt yn araf yn tyfu, mae’n hanfodol sicrhau bod mamogiaid yn cyrraedd sgôr cyflwr corff o 2 o leiaf (mamogiaid mynydd) neu 2.5 o leiaf (mamogiaid llawr gwlad) wrth ddiddyfnu, gan godi i 2.5 (mamogiaid mynydd) neu 3.5 (mamogiaid llawr gwlad) cyn troi at yr hwrdd i osgoi cael effaith ar dymor ŵyna’r flwyddyn ganlynol.
Potensial Meillion Balansa yng Nghymru
Nod y prosiect yw gwerthuso addasrwydd meillion balansa i hinsawdd Cymru a’r amodau ar gyfer porthi a phori o’u cymharu â chnwd porthi eraill.
Nodau’r prosiect:
- Gwerthuso addasrwydd meillion Balansa i hinsawdd a thywydd Cymru fel porthiant a phorfa o'i gymharu â chnydau porthiant eraill.
Amcanion strategol:
- Archwilio cnydau sy’n gallu sicrhau’r allbynnau gorau o systemau seiliedig ar laswellt a lleihau dibyniaeth ar borthiant a brynir i mewn
Nodweddion ymarferol y prosiect:
- Gall meillion Balansa FIXatioN oddef amrywiaeth o briddoedd ac mae’n gallu cynhyrchu llawer iawn o fiomas. Mae’r patrwm tyfu ar siâp rhoset yn ei alluogi i ddyfalbarhau ar gyfer torri neu bori'n ddwys. Mae meillion Balansa hefyd yn gallu gwrthsefyll amodau oer a sych. O ran gwerth fel porthiant, gall meillion Balansa gynhyrchu hyd at 5,882 kg/ha DM a 28% protein crai ar sail deunydd sych.
- Bydd bloc 20 erw’n cael ei rannu’n lleiniau o Feillion Balansa (2 erw); Cymysgedd 50% Meillion Balansa a 50% Rhygwellt diploid Westerwold (6 erw); Rhygwellt yn unig (6 erw); Cymysgedd 50% meillion gwaetgoch a 50% Rhygwellt diploid Westerwold
- Bydd cynnyrch yn cael eu gwerthuso ar gyfer pob llaid a bydd samplau ffres yn cael eu cymryd er mwyn canfod y cyfnod mwyaf addas ar gyfer torri. Bydd pob llain yn cael ei roi mewn byrnau gan gontractwr lleol a bydd byrnau'n cael eu marcio er mwyn gwahaniaethu rhwng gwahanol leiniau. Bydd nifer y toriadau silwair yn ddibynnol ar dwf y cnwd a bydd dadansoddiad cemeg gwlyb yn cael ei gynnal er mwyn canfod ansawdd y porthiant.
- Bydd ŵyn wedyn yn pori'r lleiniau ddiwedd yr haf/hydref a bydd data'n ymwneud â chynnyrch y cnwd, cyfraddau twf ŵyn a kg/ha a gynhyrchir yn cael eu cofnodi. Bydd dwysedd stocio’n ddibynnol ar gynnyrch y cnwd. Bydd ŵyn yn cael eu pwyso pob dwy i dair wythnos a bydd dadansoddiad FEC hefyd yn cael ei fonitro pob pedair wythnos.
Diweddariad y prosiect:
Mae’r meillion Balansa wedi cynhyrchu llawer o gynnyrch yn y cynhaeaf cyntaf, ond ers torri silwair, nid oes ail-dyfiant i'w weld. Serch hynny, dyma oedd canlyniad dadansoddi’r cnwd silwair:
|
Meillion Balansa |
Meillion gwaetgoch a Rhygwellt Westerwold |
Deunydd sych |
49.7 |
59.7 |
Protein Crai |
19 |
18.1 |
Gwerth D |
67.9 |
62.5 |
ME |
10.9 |
10 |
Key messages:
- Gallai diffyg dycnwch y meillion Balansa fod o ganlyniad i’r adeg yn y flwyddyn y cafodd y cnwd ei hau. Mae’n bosib bydd hau yn yr hydref yn cael ei ystyried.
- Roedd y meillion yn perfformio’n dda gydag ŵyn yn pori’n ysgafn nes yr hydref.
Diweddariad ar y prosiect:
Diddyfnu dau gam
Mae system ddiddyfnu dau gam ar fferm un cynhyrchwr gwartheg bîff sugno ar yr ucheldir yn arwain at lai o straen ar y llo.
Gosododd Richard Tudor blatiau atal sugno QuietWean ar drwynau hanner ei loi Charolais croes a Simmental croes wythnos cyn diddyfnu. Nod yr astudiaeth oedd gweld a fyddai modd lleihau straen ar y llo wrth ddiddyfnu trwy atal sugno cyn gwahanu'r lloi oddi wrth eu mamau.
Mae’r platiau, a ddaw yn wreiddiol o Ganada, yn atal y llo rhag sugno gan eu bod yn hongian dros drwyn y llo. Er mwyn profi effeithiolrwydd y dull hwn, gadawodd Mr Tudor i’r 50 llo sy’n weddill i barhau sugno.
Roedd gan y ddau grŵp fynediad at ddogn 2-3kg o rawn, betys siwgr a chymysgedd soia bob dydd.
Dylid cynnig bwyd ychwanegol i’r llo o leiaf 4 wythnos cyn diddyfnu er mwyn lleihau atalfa wrth ddiddyfnu. Mae’r rhaid i’r bwyd fod yn ddymunol, heb lwch a dylai gynnwys lefelau uchel o ffibr treuliadwy.
Dangosodd yr arbrawf wahaniaeth sylweddol yn ymddygiad y ddau grŵp wrth ddiddyfnu. “Roedd y lloi gyda phlatiau trwyn yn llawer tawelach. Roedd modd eu hadnabod yn rhwydd, nid oeddent yn gweiddi ac roeddent yn addasu'n sydyn iawn i fod i ffwrdd oddi wrth eu mamau," meddai Mr Tudor, sy'n ffermio ar fferm 291.6ha (700 erw) Llysun, Fferm Arddangos Cyswllt Ffermio ger Llanerfyl, Sir Drefaldwyn.
“Roedd y gwartheg hefyd yn llawer llai ansicr gyda’r broses ddiddyfnu dau gam, roeddent yn llawer tawelach na’r grŵp arall wrth gael eu gwahanu oddi wrth eu lloi.”
Dywed bod y lloi yma yn fwy cysurus yn y sied a gan eu bod eisoes yn gyfarwydd â diet nad oedd yn cynnwys llaeth, roeddent wedi addasu’n dda i’r dogn bwyd. “Mae'n rhaid bod hyn wedi cael effaith bositif ar berfformiad gan fod straen wrth ddiddyfnu yn gallu effeithio’n eithaf sylweddol ar gynhyrchiant, gall llo golli hyd at 10kg yn ystod y broses ddiddyfnu.”
Mae Mr Tudor yn cadw buches o 140 o wartheg sugno ar fatiau rwber mewn system ciwbiclau, gyda llawr delltog ar gyfer gwaredu tail i sianel llif.
Mae lloi yn cael eu gwerthu'n 10 mis oed fel gwartheg stôr ym marchnad da byw y Trallwng. Mae'r elw tynn mewn systemau cynhyrchu gwartheg sugno yn golygu bod angen croesawu unrhyw welliannau i berfformiad gwartheg, meddai Mr Tudor.
“Rwy’n credu’n gryf mewn enillion ymylol trwy dalu sylw i fanylder, ac mae’r pethau bychain hynny y mae modd eu gwneud er mwyn ennill ychydig gilogramau cyn gwerthu’n bendant yn ychwanegu gwerth ac yn cynyddu elw. Nid oedd y platiau trwyn yn ddrud am £2 yr un - ac mae modd eu hail-ddefnyddio. Maent yn adnodd rheolaeth da ac maent yn ddigon hawdd i’w gosod.”
Gadawodd Mr Tudor y plateau trwyn ar y lloi am gyfnod o chwe diwrnod. Diddyfnodd yr holl loi mewn swp ar yr un diwrnod. “O’r 50 gyda phlatiau, daeth chwech allan yn ystod diddyfnu, ond roeddent yn gweithio'n dda gyda'r gweddill."
“Roedd y lloi’n gallu ail-addasu’n raddol i gael eu gwahanu oddi wrth eu mamau gan nad oeddent wedi bod yn sugno.”
Pan gafodd y platiau Quietwean eu tynnu allan, cadwyd y lloi o’r grwpiau gwreiddiol gyda’i gilydd am gyfnod i sicrhau rhywfaint o gysondeb. Unwaith iddynt setlo, cawsant eu rhoi mewn grwpiau'n unol â'r brid a'r maint.
Mae buches Mr Tudor yn lloia mewn bloc naw wythnos o hyd o Ebrill 15fed, ac mae’n bwriadu defnyddio'r platiau trwyn ar ei loi unwaith eto.
Mae’r lloi’n cael eu diddyfnu ym mis Ionawr gyda’r bustych a’r heffrod Charolais cryfaf yn cael eu gwerthu'n 10 mis a’r 25 heffer Simmental x Saler yn cael eu cadw fel anifeiliaid cyfnewid. Mae’r fferm yn ymestyn o 160m i 375m (550tr i 1250tr) uwch lefel y môr ond rhoddir pwyslais sylweddol ar gynhyrchu cig o laswellt fel y dewis bwydo mwyaf cost effeithiol. Mae’r tir yn cynnwys 167ha (400 erw) o dir mynydd, gyda llawer ohono wedi cael ei wella.
Er mwyn cadw costau’n isel, gellir diddyfnu lloi’r gwanwyn o 6 mis oed, gan ddibynnu ar y sgôr cyflwr corff. Byddai hyn yn galluogi’r cyflwr a enillir ar laswellt i gael ei ddefnyddio’n hwyrach yn ystod misoedd y gaeaf pan fo dwysfwyd yn mynd yn ddrytach. I loi’r gaeaf, gall osgoi diddyfnu nes 10 mis oed atal gwartheg rhag ennill gormod o bwysau ar laswellt ar ganol neu ddiwedd beichiogrwydd.
Dywed Lisa Roberts, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio, sydd wedi bod yn rhan o’r arbrawf diddyfnu ar fferm Llysun, bod manteision y broses diddyfnu dau gam yn debygol o gael eu hymestyn ymhellach mewn systemau diddyfnu lle nad yw lloi'n cael eu cadw dan do. “Mae gwaith ymchwil yn dangos bod lloi yn cerdded o gwmpas llai pan fo'r broses diddyfnu'n digwydd yn raddol, felly os mae'r lloi mewn ardal lai cyfyng, maent yn dueddol o dreulio mwy o amser yn cerdded o gwmpas a llai o amser yn bwyta," meddai.