Cyflenwad Maetholion ar fferm Llysun
Cynhaliwyd profion pridd manwl ar y fferm yn ystod y gwanwyn i ganfod diffygion ac i weithredu fel sylfaen ar gyfer argymhellion. Roedd y profion hyn yn dadansoddi’r prif gatïonau ac amrediad o ficro-faetholion fel y nodir yn y canlyniadau enghreifftiol isod.
Roedd y ddau gae a ddewiswyd ar gyfer yr arbrawf yn rhannu themâu cyffredin, gyda’r ddau ohonynt yn cynnwys lefelau isel o’r micro-faetholion Boron a Sinc. Mae’r elfennau hyn yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o drosglwyddo Calsiwm i’r planhigyn ac felly i ddylanwadu ar strwythur y gell ac iechyd a chynhyrchiant y planhigyn.
Y prif wahaniaethau rhwng y ddau gae oedd bod un yn cynnwys lefelau pH a Chalsiwm is na’r hyn sy’n ddelfrydol. Roedd lefelau magnesiwm ychydig yn uchel yn y ddau gae a fydd yn effeithio ar strwythur y pridd. Gellir ail-gydbwyso hyn fodd bynnag gan ddefnyddio calch a gwrteithiau’n seiliedig ar Galsiwm.
Roedd argymhellion maeth ar gyfer y ddau gae felly’n seiliedig ar gyflenwi Calsiwm, Boron & Sinc. Defnyddiwyd calch gronynnog ynghyd â Boron a Sinc yn y caeau gyda pH isel a defnyddiwyd Calsiwm Sylffad a Boron a Sinc lle nad oedd angen addasu’r lefel pH. Roedd y ddwy gyfradd wwasgaru’n darparu 0.85 kg/ha o Boron a Sinc.
Mae’r amodau tyfu anodd a welwyd yn ystod tymor 2018 wedi ei gwneud yn anodd mesur glaswellt i fonitro cynnyrch. Felly, cymerwyd samplau meinwe i fonitro'r defnydd o’r maetholion a ychwanegwyd.
Roedd lefelau Boron yn y rhan o’r caeau a oedd wedi derbyn Calch yn 10.2 mg/kg, gan newid yr elfen hon o lefel isel/diffygiol i’r hyn y gellir ei ystyried yn lefel arferol. Y canlyniad ar yr ardal rheoli oedd 6.02 mg/kg. Mae’r canlyniadau isod ar gyfer y cae a oedd wedi’i drin yn dangos cydbwysedd o nifer o faetholion ar yr adeg honno o’r tymor. Gwelwyd cynnydd o oddeutu 20% hefyd yn y lefelau Sinc.
Roedd y cae a oedd wedi derbyn triniaeth gyda Chalsiwm Sylffad yn dangos canlyniadau tebyg o’i gymharu â’r cae rheolaeth o ran Boron a Sinc. Roedd yr ymateb i Sylffwr hefyd yn amlwg. Roedd y samplau meinwe yn dangos newid sylweddol yn y gymhareb N:S.
CYNNYDD PWYSAU BYW DYDDIOL YR ŴYN YN CYNYDDU WRTH I’R GYMHAREB N:S YN Y BWYD GYNYDDU
Ffynhonnell: Rendig and Weir, J. Anim. Sci. 16(2)
Mae’r graff uchod yn dangos pa mor bwysig yw’r defnydd o Sylffwr mewn systemau’n seiliedig ar laswellt. Ni ellir anwybyddu ffigyrau DLWG a’r manteision amlwg o fwydo porthiant o ansawdd uwch o ran gwerth D, protein a threuliadwyedd. Mae angen cynnwys yr elfen hon wrth gynllunio gwrtaith ar fferm gan mai dyma sydd ar goll o ran glaswellt a phorthiant wedi’i silweirio o ansawdd uwch.
Crynodeb
Wrth brofi pridd, mae’n dangos pwysigrwydd cynnal dadansoddiad i edrych ar fwy na’r elfennau sylfaenol yn unig, sef pH, P, K, a Mg, gan fod y canlyniadau uchod yn dangos ei bod yn bosibl bod mwy o elfennau’n cyfyngu ar dyfiant na’r 3 phrif facro-faetholyn yn unig.
Dylai dadansoddiad pridd hefyd gynnwys yr elfennau eilaidd pwysig yn ogystal â Chalsiwm a Sodiwm, sef y ddau bwysicaf. Sicrhewch eich bod yn gwybod capasiti trosglwyddo catïonau (CEC) y priddoedd ar y fferm wrth gynnal dadansoddiad gan y bydd hynny’n helpu i ddangos a oes gormodedd neu ddiffygion yn y pridd. Gallai hynny ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol i ganfod pa fathau o wrtaith sydd eu hangen. Gall CEC priddoedd amrywio yn ôl canran y clai, math o glai, pH y pridd a faint o ddeunydd organic sydd ynddo. Yn gyffredinol, mae’r CEC yn isel iawn mewn priddoedd tywodlyd, ac mae’r CEC mewn priddoedd cleiog yn uwch.
Sicrhewch mai’r dadansoddiad a wneir ar y fferm sy’n helpu i ddylanwadu ar benderfyniadau ynglŷn â phrynu gwrtaith, ac nid arian, gan fod posibilrwydd na fyddai’n addas ar gyfer y pridd na’r cnwd. Sicrhewch fod yr elfennau sylfaenol wedi cael eu sefydlogi yn y lle cyntaf – ychwanegwch galch cyn prynu neu wasgaru unrhyw wrtaith.