Prosiect Safle Arddangos - Marian Mawr

Arweinyddiaeth a Rheolaeth

 

Nodau’r Prosiect:

Ar fferm Marian Mawr, mae Aled  yn rheoli 3 aelod o staff llawn amser a 4 aelod o staff rhan amser. Er mwyn sicrhau bod y staff yn aros a’u bod yn cael eu cymell, mae Aled yn awyddus i weithredu prosiect rheolaeth i gefnogi ac i wella ei sgiliau arweinyddiaeth a rheolaeth a hefyd i gynyddu ymrwymiad ei staff i’r busnes.

 

Amcanion strategol:

  • Bydd y prosiect yn cefnogi’r nodau strategol yma drwy hyfforddi rheolwyr fferm
  • Darparu’r adnoddau i reoli eu tîm yn fwy effeithiol er mwyn cyflawni nodau busnes
  • Bydd y prosiect hefyd yn anelu at ddatblygu unigolion o fewn y tîm i ddod yn arweinwyr yn y busnes
  • Mae’r prosiect yn anelu at ddatgloi eu potensial drwy gynyddu hyder.

Nodweddion ymarferol y prosiect:

  • Ar ddechrau’r prosiect, cynhelir trosolwg 360̊ o’r tîm yn ei gyfanrwydd er mwyn canfod bodlonrwydd.
  • Bydd yr adolygiad yn cael ei ailadrodd ymhen 12 mis er mwyn canfod unrhyw welliannau (neu beidio) yn dilyn gweithredu strwythurau rheolaeth.
  • Cynhelir cyfarfodydd gyda holl aelodau’r tîm, ac os bydd angen, cynhelir cyfarfodydd unigol er mwyn sicrhau cyfrinachedd i drafod unrhyw faterion sensitif.
  • Darperir cefnogaeth barhaus i Aled a phob aelod staff  yn ystod y flwyddyn er mwyn sicrhau gwelliant parhaus ac awgrymiadau ynglŷn â sut i drechu materion sy’n codi.

Diweddariad y Prosiect:

Cyhoeddiad Technegol (Rhifyn 8, tudalen 8): Prosiect Arweinyddiaeth a rheolaeth staff Cyswllt Ffermio

Erthygl: Rheolaeth staff - denu a chadw pobl da


Defnyddio Detholiad Genomeg i Wella Effeithlonrwydd Magu Lloi

 

Nodau'r Prosiect:

Defnyddio profion genomig i ddewis yr anifeiliaid mwyaf cynhyrchiol a phroffidiol o’r fuches er mwyn magu. Yna gellir gwerthu anifeiliaid llai cynhyrchiol gan waredu’r costau diangen ar gyfer magu, a gwella geneteg a pherfformiad y fuches laeth yn ei dro.

 

Amcanion strategol:

  • Gwella cynhyrchiant a rheolaeth costau
  • Gwella cynhyrchiant anifail trwy gydol ei hoes
  • Atgyfnerthu’r busnes
  • Diogelu enw da’r diwydiant llaeth
  • Annog arloesedd a gwella cynhyrchiant cynradd ar fferm ac o fewn y gadwyn gyflenwi

Y prosiect ar waith:

  • Unwaith y byddant wedi’u cofrestru, bydd 70 llo Holstein benyw pur yn cael prawf genomig. Bydd rhic maint nodwydd yn cael ei dynnu o’r glust a bydd samplau genomig yn cael eu cymryd a’u hanfon at labordy genoteipio.
  • Unwaith y bydd y genoteip wedi cael ei gynhyrchu, bydd yn cael ei anfon at y Ganolfan Werthuso Geneteg i edrych ar nodweddion cynhyrchiant, iechyd, ffitrwydd a ffrwythlondeb.
  • Bydd yr adnodd cyfrifo costau magu heffrod yn cofnodi costau manwl ar gyfer dwysfwyd, meddyginiaeth, gwellt, deunydd sych, costau milfeddygol, pwysau lloi a chynnydd pwysau byw. Bydd yn cael ei ddefnyddio’n flynyddol er mwyn cymharu ac adnabod costau magu ar gyfer y stoc ifanc.

Diweddariad ar y prosiect:

  • Mae data GEBV ar gyfer y lloi cyntaf bellach wedi cael eu creu. Mae’r gyfres nesaf o loi yn cael eu profi a’u pwyso ym mis Medi a Hydref.
  • Unwaith y bydd y profion wedi bod ar waith am chwe mis, bydd penderfyniad rheolaeth yn cael ei wneud ynglŷn â pha anifeiliaid i’w cadw fel anifeiliaid cyfnewid. Mae’n bosib y bydd lloi gyda chanlyniadau genomig gwael yn cael eu gwerthu.

Gall cynhyrchwyr llaeth sydd wedi cynnal profion genomig ar eu heffrod bellach ddefnyddio 3 mynegai gwahanol i helpu i wneud penderfyniadau deallus ynglŷn â chenhedlu i fridio anifeiliaid cyfnewid. Yn unol â systemau strategol gorau posibl AHDB, mae mynegai Lloia’r Hydref £ACI) wedi cael ei gyflwyno yn ystod y mis Awst hwn ynghyd a’r Mynegai Proffidioldeb Oes (£PLI) presennol a’r Mynegai Lloia’r Gwanwyn (£SCI). Mae bellach yn bosibl dewis teirw a bridio gwartheg sy’n fwy addas ar gyfer cytundeb llaeth, patrwm lloia neu drefn fwydo presennol. Mae Marian Mawr, un o Ffermydd Arddangos Cyswllt Ffermio, yn cynhyrchu llaeth drwy gydol y flwyddyn, ac maen nhw wedi bod yn cynnal profion genomig ar heffrod gan ddefnyddio’r £PLI fel sylfaen dros y ddwy flynedd diwethaf ac yn dewis teirw yn seiliedig ar £PLI. Gall cynhyrchwyr tymhorol yng Nghymru sy’n dymuno symud i system lloia mewn bloc wneud defnydd o’u Hadroddiad Genetig unigol am ddim ar wefan AHDB fydd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â’r gwartheg benyw ar bob un o’r 3 mynegai.

Siart 1. Pwysoliad y Mynegai Lloia’r Hydref (£ACI) newydd

 

                                            

(ffynhonnell: AHDB Llaeth)

 

Siart 2: Pwysoliad Mynegai Proffidioldeb Oes (£PLI)

 

                                                

 

(ffynhonnell: AHDB Llaeth)

 

Diweddariad y Prosiect

Cyhoeddiad Technegol (Rhifyn 20, tudalen 4-5): Cysylltiad rhwng Mynegai Oes Broffidiol Genomig (g£PLI) a ffenoteip

Fideo: Profion genomeg ar heffrod

Blog: Profion genomig ar deirw stoc du a gwyn

Cyhoeddiad Technegol (Rhifyn 8, tudalen 9): Profi genomig yn Marian Mawr

Adroddiad: Defnyddio canlyniadau genomig heffrod i ddewis teirw