Prosiect Safle Arddangos - Moor Farm

Prosiect Porfa Cymru

Nodau’r prosiect:

Rydym wedi dewis ffermydd traws-sector ar draws Cymru fydd yn mesur a monitro cyfraddau twf eu glaswellt yn wythnosol fel rhan o Brosiect Porfa Cymru newydd Cyswllt Ffermio.

Bydd pob fferm yn defnyddio mesurydd plât i gasglu mesuriadau a byddant hefyd yn casglu samplau misol er mwyn dadansoddi ansawdd.

Bydd y ffermydd i gyd yn mesur tyfiant a chyfaint y Deunydd Sych (DM) sydd ar gael. Rydym wedi gofyn i bob un adnabod a chymharu gwahanol ddulliau o reoli glaswellt – ond mae’r nod yn gyffredin, sef i ganfod y system fydd yn gweddu orau i ofynion cyflenwad a galw da byw. Bydd pob fferm hefyd yn mynd i’r afael â’r defnydd a wneir o ddwysfwyd o ansawdd uchel.

Bydd y prosiect hwn yn eich galluogi i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chynnydd o bob safle trwy glicio ar fap a data Prosiect Porfa Cymru.

Cliciwch yma am y data diweddaraf 


Gwella Iechyd y Fuches

 

Nodau’r prosiect:

  • Gwella statws iechyd y fuches ac edrych ar fanteision ariannol posib cyflawni ardystiad statws iechyd uchel ar gyfer y fuches o ran cynnydd mewn gwerth a chynhyrchiant.
  • Datblygu meini dethol manwl ar gyfer stoc ifanc a mesur a chofnodi penodol er mwyn cynorthwyo gyda dewis heffrod cyfnewid i wella statws iechyd at y dyfodol.
  • Gwella perfformiad stoc ifanc a defnyddio cyfraddau twf fel dangosyddion cynnar o berfformiad da byw.
  • Archwilio protocolau ‘safon aur’ ar gyfer magu stoc ifanc gyda’r bwriad o wella statws iechyd y fuches gyda gwell colostrwm a rheolaeth ar ddechrau bywyd.

Amcanion strategol:

  • Gwella hyfywedd y busnes a rheolaeth costau
  • Gwella cynhyrchiant anifail drwy gydol ei oes
  • Gwella'r effaith ar yr amgylchedd a lleihau ôl troed carbon
  • Gwella delwedd ffermio llaeth

Nodweddion ymarferol y prosiect:

  • Bydd statws iechyd y fuches yn cael ei fesur a’i feincnodi gan samplu gwaed a samplu llaeth er mwyn canfod faint o BVD, Johnes, ac o bosib IBR a Leptosbirosis sydd yn y fuches.
  • Bydd polisi presennol y fferm yn cael ei adolygu i gynnwys brechu a phrotocolau bioddiogelwch a bydd arfer dda yn cael ei arddangos.
  • Datblygu rhaglen fonitro Clefyd Johnes, gan archwilio llinach y fuches er mwyn canfod unrhyw berthynas i wartheg sy’n profi’n bositif er mwyn galluogi gwell monitro a rheolaeth o ‘wartheg sydd mewn perygl’.
  • Bydd lloeau sy’n cael eu geni i wartheg sydd wedi’u hamlygu i fod mewn perygl o gael Johnes yn cael eu harwahanu yn ystod eu dyddiau cyntaf er mwyn sicrhau nad oes unrhyw halogiad rhwng y stoc ‘glân’ a’r lloeau a allai fod wedi cael ei cyflwyno i Johnes ac i atal unrhyw ledaeniad.
  • Mae cyfraddau twf stoc ifanc (bîff a anwyd yn y gwanwyn a stoc llaeth) yn cael eu monitro trwy gydol y prosiect a'u cysylltu â'r fam a'r tad. Wrth eni lloeau, bydd protocolau magu lloeau’n cael eu haddasu i sicrhau’r arfer orau, gan gynnwys defnyddio colostromedrau/spectomedrau i brofi ansawdd colostrwm cyn i’r llo fywdo am y tro cyntaf. 

    Isadeiledd Pori

Nodau’r prosiect:

  • Gwella isadeiledd pori ac arddangos pwysigrwydd cynllunio ar gyfer llwyddiant, cynyddu’r tymor pori a lleihau niwed i’r gwndwn. Targedu cynnydd mewn cynnyrch a defnydd o laswellt, a mwy o laeth o borthiant, gan leihau cloffni yn y fuches ar yr un pryd.

Amcanion strategol:

  • Gwella’r defnydd o laswellt
  • Lleihau cloffni
  • Gwella effeithlonrwydd llafur a thanwydd
  • Gwella’r effaith amgylcheddol a lleihau ôl troed carbon

Nodweddion ymarferol y prosiect:

  • Bydd yr ardal bori’n cael ei fapio gan ddefnyddio technoleg GPS a bydd cynllun yn cael ei lunio i ddangos lle’n union y dylid lleoli llwybrau a darpariaeth dŵr ar gyfer y system bori.
  • Bydd dyluniad llwybrau gwartheg yn cael ei ystyried er mwyn cynnwys deunydd y llwybr, draeniad a siap er mwyn lleihau nifer yr achosion o gloffni yn y fuches a chynyddu hirhoedledd yr isadeiledd. Bydd lleoliad y llwybrau’n cael eu llunio i sicrhau padogau cyfartal o ran maint er mwyn gallu cyllidebu glaswellt yn llwyddiannus.
  • Bydd sawl dyluniad ar gyfer mynedfeydd ac allanfeydd yn cael eu hymgorffori i alluogi gwell mynediad at ardaloedd pori gyda’r bwriad i leihau niwed i'r gwndwn a’r pridd a thymor pori estynedig.
  • Bydd clicied awtomatig yn cael eu gosod ar glwydi, yn eu hagor gydag amserydd, gan alluogi’r gwartheg i ddychwelyd i’r parlwr yn annibynnol.
  • Bydd amser cerdded y gwartheg yn cael ei ddadansoddi, ynghyd â nifer yr oriau llafur gofynnol gydag a heb y clwydi, a nifer yr achosion cloffni. Bydd cofnodion tanwydd yn cael eu dadansoddi.

Diweddariad prosiect:

  • Mae'r ffermwr Andrew Rees wedi adrodd bod gwartheg wedi symud draw at drefn clwydi awtomatig Battlatch yn rhwydd iawn, gan ddychwelyd i'r parlwr yn annibynnol yn y boreau. Mae hyn wedi arbed 20 munud y dydd o amser y godrwr yn dilyn gwartheg o'r cae i'r parlwr.

Diweddariad y Prosiect:

Erthygl: Annog cynhyrchwyr llaeth i ddefnyddio mwy o borfa i dorri costau

Erthygl: Annog ffermwyr i asesu strwythur y gwreiddiau cyn ail-hadu

Blog: Cyfle i arbed amser ar ffermydd llaeth sy’n seiliedig ar borfa

Cyhoeddiad Technegol (Rhifyn 4, tudalen 3): Fferm Arddangos Moor Farm – Seilwaith Pori