Reuben Powell

Llandrindod Wells, Powys

Mae Reuben Powell yn ffermwr ifanc uchelgeisiol a blaengar, a enwebwyd am wobr Ffermwr Ifanc y Flwyddyn y Farmers Weekly yn 2023. Yn bartner yn fferm bîff a defaid 700 erw ei deulu ger Pontnewydd ar Wy, mae Reuben yn canolbwyntio ar lunio dyfodol gwydn ac amrywiol i’r busnes mae’n ei reoli ochr yn ochr â’i dad a’i frawd iau. Yn gyn-gadeirydd ar ei Glwb Ffermwyr Ifanc lleol, mae’n aelod o Genhedlaeth Nesaf NFU Brycheiniog a Maesyfed, ac yn gwirfoddoli ar y cynllun ‘Farmer Time’.

Wedi ei ysbrydoli gan ei brofiad gwaith yn Seland Newydd, yn 2019 cymerodd Reuben y cam dewr o sefydlu uned i 100,000 o frwyliaid, 15 milltir o gartref. Sicrhaodd forgais mawr i ariannu’r fenter, sy’n cael ei gyrru gan ynni adnewyddadwy gan gynnwys gwresogi ffynhonnell daear, paneli solar a batris i’w storio. Arweiniodd ei bwyslais ar gynaliadwyedd ac arloesedd at Wobr Aur Aviagen a chymryd rhan ym Mwrdd Crwn Ffermio Cynaliadwy Tesco.

Yn 2025 cyflawnodd Reuben uchelgais a fu ganddo ers amser o brynu fferm 140 erw ei hen ewythr. Mae’n bwriadu arallgyfeirio i dwristiaeth amaethyddol, gan gynnig profiadau addysgiadol, yn rhoi pwyslais ar yr amgylchedd, i ymwelwyr.

Cael cydbwysedd rhwng proffidioldeb a chynaliadwyedd yw blaenoriaeth Reuben o hyd wrth iddo reoli ymrwymiadau ariannol sylweddol gan ddod o hyd i’w ffordd trwy reoliadau’r diwydiant wrth iddynt newid.

“Bydd yr Academi Amaeth yn fy ngalluogi i rannu syniadau, cael persbectif newydd am yr heriau sy’n wynebu ein diwydiant a chreu cysylltiadau parhaol gyda phobl fusnes flaengar o’r un meddylfryd.”