Rhodri Jones, Rural Advisor Ltd

Mae Rhodri yn siaradwr Cymraeg o Bowys, ac yn gallu teithio ar draws Cymru i hwyluso cyfarfodydd teuluol ar olyniaeth. Mae Rhodri yn gyfreithiwr hyfforddedig a threuliodd dros ddeng mlynedd mewn Cwmni Cyfraith Amaethyddol arbenigol blaenllaw, gan ddatrys anghydfodau cysylltiedig ag amaethyddiaeth a symudodd yn raddol tuag at ddarparu cyngor olyniaeth a strwythuro busnes. Erbyn hyn, mae Rhodri yn gweithio'n bennaf fel Ymgynghorydd Busnes Fferm, gan gynghori cleientiaid ynghyd â gwaith ar y fferm deuluol. Felly, mae gan Rhodri brofiad uniongyrchol o'r ystyriaethau ymarferol, cyfreithiol ac ariannol sy'n gysylltiedig â busnes ffermio. Mae Rhodri yn hyderus wrth hwyluso cyfarfodydd teuluol ar olyniaeth.