Rhyd Y Gofaint Diweddariad ar y prosiect – Gorffennaf 2024

Oherwydd y gwanwyn gwlyb, roedd caeau Rhyd y Gofaint yn rhy araf i sychu digon er mwyn mynd â pheiriannau iddynt, felly cafodd y caeau eu hau ychydig yn hwyrach na'r disgwyl. Fodd bynnag, bydd hyn yn ein galluogi i weld a fydd dyddiad hau diweddarach yn effeithio ar sefydliad y borfa.

Cymerwyd y toriad cyntaf o ddau gae ddiwedd mis Mai cyn eu tros-hadu; roedd un ohonynt yn badog pori oedd wedi datblygu gormod i’w bori, a’r ail yn gae a gymerwyd fel toriad cyntaf cyn ei ychwanegu at y platfform pori.

Mae manylion y ddau badog a gafodd eu tros-hadu i’w gweld isod:

 

 

Ffigur 3. Dril ‘Agriseeder’ Erth ar waith

 

Unwaith y bydd yr hadau wedi egino ac yn ddigon cryf i oroesi ychydig o droedio, ond gyda dim mwy na 2400kg o orchudd glaswellt, bydd y caeau'n cael eu pori i leihau'r gystadleuaeth rhwng y glaswellt a’r meillion.

Bydd Chris Duller, yr arbenigwr pori ar y prosiect, yn monitro eginiad y meillion, cyn cwblhau asesiadau glaswellt yn yr Hydref ar bob llain i gofnodi’r deunydd sych, ansawdd y borfa a gwahaniad y glaswellt.

Y Camau Nesaf? 

Y trydydd cae ar gyfer y prosiect fydd cae silwair wedi’i chwistrellu, ei aredig a’i ailhadu ar ôl ail doriad ddiwedd mis Gorffennaf, os bydd y tywydd yn caniatáu.

 

Darganfyddwch ragor ar y pwnc hwn: 

Pwyso a mesur manteision ac anfanteision tros-hadu â meillion ar fferm yng Nghymru | Cyswllt Ffermio