23 Medi 2021

 

Mae ffermwyr glaswelltir sy’n ceisio sicrhau’r manteision gorau i dda byw a sefydlogi nitrogen drwy ddefnyddio meillion yn cael eu cynghori i anelu am ffigur cyfartalog blynyddol o o leiaf 20% yn eu porfa. 

“Os nad yw’n 20% o feillion, nid yw’n gwneud ei waith, rhaid bod digon o feillion iddynt wneud gwahaniaeth,” meddai’r arbenigwr glaswelltir annibynnol Chris Duller wrth ffermwyr a oedd mewn diwrnod agored yn fferm Cefngwilgy Fawr, sy’n un o safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio ger Llanidloes.

Bu Mr Duller yn arwain prosiect i gyflwyno meillion gwyn a choch i borfeydd a chaeau silwair ar y fferm.

Mae anifeiliaid cnoi cil yn well am ddefnyddio meillion na glaswelltir gan fod ynddo fwy o brotein o ansawdd gwell, felly mae’r teulu Jones yn awyddus i roi hwb i’r cynnwys meillion yn eu glaswellt.

Cafodd safleoedd y treial eu hail-hadu a chynhwyswyd meillion yn y cymysgedd hadau, ond yn dilyn gwanwyn sych iawn yn 2020, ni wnaeth lawer ohonynt sefydlu felly cafodd y glaswelltir ei dros-hadu â meillion ddiwedd Mehefin.

Dywedodd Mr Duller fod tros-hadu yn methu’n aml iawn os na chaiff ei wneud yn iawn.

“Rwy’n gweld yr un faint o fethiannau ag o lwyddiannau,” cyfaddefodd.

Mae amseru’n bwysig – os ydych chi’n tros-hadu yn yr hydref, ni ddylid byth wneud hynny ar ôl canol Medi. 

Os oes gwellt neu faeswellt rhededog wedi cronni yn y glaswellt, mae Mr Duller yn argymell cael gwared ohono flwyddyn cyn tros-hadu.

Pan gaiff yr hadau eu plannu, dylid bod lleithder yn y pridd a glaw ar ei ffordd.

Dewiswch y dril iawn ar gyfer y gwaith oherwydd fe allai dril trwm hau’r hadau’n rhy ddwfn – ni ddylai meillion gael eu drilio’n ddyfnach nag 1cm.

Gellir hau meillion gwyn ar raddfa o 1-2kg/erw.

“Ceir tua 1.4 miliwn o hadau ym mhob cilogram, felly does arnoch ddim angen llawer i roi hwb i nifer y planhigion,” meddai Mr Duller.

Rhybuddiodd yn erbyn hau mathau o feillion sydd â dail mawr ym mhob man heblaw am mewn systemau gwartheg llaeth gan fod eu cyfraddau goroesi’n salach na meillion dail canolig eu maint.

“Byddwch yn ofalus wrth brynu cymysgeddau tros-hadu gan eu bod yn aml yn cynnwys mathau o feillion dail mawr sy’n gwneud yn dda yn y flwyddyn gyntaf ond yna’n diflannu.”

Dylid bod yn ofalus ynglŷn â sut caiff meillion eu rheoli yn yr wyth wythnos ar ôl eu hau.

Mae Mr Duller yn argymell ei bori am ddiwrnod, ond dim ond digon i dynnu’r fodfedd a hanner uchaf i ffwrdd.

“Porwch ef eto ddwy wythnos wedyn mewn ffordd debyg, dim ond er mwyn atal y glaswellt rhag cysgodi’r meillion ifanc,” meddai.

“Ar ôl hynny, gallwch ei bori ychydig yn galetach.”

Dylech osgoi rhoi gormod o stoc arno dros y gaeaf. “Byddwch yn ofalus wrth ei reoli ym mis Rhagfyr a Ionawr, yn ei aeaf cyntaf, neu fe fydd yn diflannu,” rhybuddiodd Mr Duller.

Mae angen i lefelau pH y pridd fod yn o leiaf 6 er mwyn i’r meillion sefydlogi nitrogen.

“Mae angen i’r P (ffosffad) a’r K (potash) fod yn gywir hefyd,” meddai Mr Duller.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint