Gareth, Edward a Kate Jones

Cefngwilgy Fawr, Llanidloes

 

Meysydd allweddol yr hoffech chi ganolbwyntio arnyn nhw fel ffermwr arddangos?

Sicrhau gwell dealltwriaeth o’n priddoedd a’n silwair: den ni ddim yn ddefnyddwyr mawr ar fwydydd wedi’u prynu ond fe hoffen ni leihau faint sy’n cael ei ddefnyddio hefyd drwy dyfu porfa o safon. 

Cofnodi perfformiad: defnyddio technoleg i ganfod pa anifeiliaid sy’n perfformio orau yn ein system ni a gwneud penderfyniadau ar sail y data yna i godi effeithlonrwydd ein busnes.

Ystyried gwerth tail dofednod fel gwrtaith: gan fod nifer fawr o ffermydd dofednod yn y rhan yma o Gymru fe hoffen ni ystyried sut gallen ni ddefnyddio’r sgil-gynhyrchion i leihau faint o wrtaith wedi'i brynu ryden ni’n ei ddefnyddio.

Ffeithiau Fferm Cefngwilgy Fawr

 

Rydym ni’n awyddus i gadw Cefngwilgy’n fferm bîff a defaid draddodiadol ond er mwyn gwneud hynny mae’n rhaid i ni sicrhau bod y fferm yn perfformio ar ei gorau. Drwy weithio gyda Cyswllt Ffermio fel safle arddangos rydym ni’n barod i roi cynnig ar syniadau newydd i'n helpu i gyrraedd y nod a drwy rannu'r wybodaeth yma gyda ffermwyr eraill fe allai hynny arwain at welliannau yn eu busnesau nhw hefyd."

– Edward a Kate Jones.

 

Farming Connect Technical Officer:
Lisa Roberts
Technical Officer Phone
07985 155 613
/
Technical Officer Email

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Wern
Osian Williams Wern, Y Foel, Y Trallwng, Powys Meysydd allweddol
Pantyderi
Wyn a Eurig Jones Pantyderi, Boncath, Sir Benfro Meysydd
Llysun
Llysun, Llanerfyl, Y Trallwng Prif Amcanion Datblygu