Ffeithiau Fferm Cefngwilgy Fawr

Mae Safle Arddangos Cefngwilgy Fawr yn ddaliad mynydd 200-hectar (ha) sy’n cael ei ffermio gan Edward a Kate Jones a thad Edward, Gareth.

Mae’r fferm yn cael ei phori gan fuches o 50 o wartheg sugno, a diadell o 1000 o ddefaid. Mae’r fferm yn codi o 700 troedfedd i 1100 o droedfeddi yn ei man uchaf.

Diadell fasnachol o famogiaid Texel croes, Aberfield croes a Miwl yw’r rhan fwyaf o’r ddiadell, a’r rheiny’n cael eu troi at hwrdd Abervale.

Mae yna 300 o famogiaid Penfrith hefyd, sy’n cael eu troi at hwrdd Aberfield, hwrdd Cymreig neu groesfrid i fridio anifeiliaid cadw; mae 200 o ŵyn o'r rhain yn cael eu cadw ac mae hesbinod Miwl Cymreig yn cael eu prynu i mewn hefyd.

Mae’r ddiadell fasnachol yn ŵyna dan do o 1 Mawrth gyda'r ŵyn yn cael eu gwerthu i Waitrose drwy eu cynllun Abervale ar darged o 20kg o bwysau ar y bach. 

Mae’r ddiadell galed o famogiaid Penfrith a Chymreig yn ŵyna y tu allan o 20 Mawrth ymlaen.

Mae’r ŵyn i gyd yn cael eu bwydo ar borthiant; bydd nifer fach yn cael dwysfwydydd ar ddiwedd y tymor i’w pesgi cyn y Nadolig. 

Mae’r rhan fwyaf o’r fuches sugno yn lloia yn y gwanwyn er bod un rhan o bump o’r fuches yn lloia yn yr hydref. Defnyddir tarw Limousin ar y buchod Limousin croes a’r buchod British Blue croes.

Nod y busnes yw gwerthu’r epil fel gwartheg stôr cyn eu bod yn 12 mis oed a hynny ym marchnad Bishop’s Castle.

 

Arallgyfeirio

Mae bwyler biomas 60kW yn rhoi gwres i’r ffermdy a’r gweithdy ac mae yna system ynni haul 4kW hefyd.