Cyflwyniad Prosiect Cefngwilgy Fawr: Gwella iechyd y fuches trwy ddefnyddio technoleg
Safle: Cefngwilgy Fawr
Cyfeiriad: The Gorn, Llanidloes, Powys, SY18 6LA
Swyddog Technegol: Lisa Roberts
Teitl y Prosiect: Gwella iechyd y fuches trwy ddefnyddio technoleg
Cyflwyniad i’r prosiect:
Mae cynnal iechyd y fuches a gostwng lefelau clefydau heintus yn ffactorau allweddol er mwyn gwella effeithlonrwydd a phroffidioldeb buchesi sugno. Mae iechyd lloi yn un maes y mae Edward a Kate Jones, fferm Cefngwilgy Fawr, yn awyddus i’w archwilio yn dilyn achosion o niwmonia yn eu lloi dros y blynyddoedd diwethaf. Mae niwmonia yn cael ei achosi gan ystod o ffactorau gan gynnwys: heintiau (pathogenau), amgylchedd y siediau, dulliau rheoli a statws imiwnedd lloi. Amcangyfrifir fod niwmonia yn gallu costio hyd at £82 y pen fesul llo sugno sydd wedi’i effeithio, gyda chostau’n cynyddu’n sylweddol pan fo angen triniaethau dilynol.
Mae’r fuches sugno yn cynnwys 50 o wartheg Limousin croes a British Blue croes sy’n lloia dan do yn y gwanwyn yn bennaf, ac yna’n cael eu troi allan i’r borfa.
Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar wella dulliau monitro iechyd lloi a sicrhau ymyriadau cynnar i leihau nifer yr achosion o glefydau a’r defnydd o wrthfiotigau ar y fferm. Bydd tagiau clust sy’n mesur gweithgaredd a thymheredd y llo yn cael eu defnyddio ar y lloi sy’n cael eu geni yn y gwanwyn er mwyn monitro eu hiechyd. Mae arbrofion cychwynnol ar y system wedi dangos ei fod yn gallu canfod clefydau oddeutu 2 ddiwrnod cyn i unrhyw arwyddion clinigol ddod i’r amlwg. Mae hyn yn galluogi’r ffermwr i dargedu’r defnydd o wrthfiotigau, ac mae’n bosibl y gallai wella cyfraddau twf a lleihau cyfraddau marwolaeth wrth i glefydau gael eu canfod yn gynnar. Bydd amgylchedd y siediau hefyd yn cael ei fonitro trwy ddefnyddio synwyryddion ar y fferm a thechnoleg LoRaWAN. Dyma amcanion y prosiect:
Amcanion y prosiect:
- Gwella iechyd a pherfformiad lloi
- Canfod clefydau’n gynnar ac ymyrryd pan fo angen
- Lleihau faint o wrthfiotigau a ddefnyddir
Dangosyddion Perfformiad Allweddol a Osodwyd:
- Lleihau cyfanswm nifer yr achosion o niwmonia yn y lloi o 25% i 5%.
- Gallu canfod o leiaf 90% o achosion posibl o glefydau 2 ddiwrnod cyn i’r llo ddechrau dangos arwyddion clinigol o salwch