Diweddariad Prosiect (Rhagfyr 2019) - Cefngwilgy Fawr: Cynyddu gwerth porthiant a dyfir gartref gan ddefnyddio meillion
Mae Chris Duller yn ymgynghorydd arbenigol sy’n arbenigo mewn darparu cyngor ar reoli pridd a glaswelltir ar gyfer pob sector da byw, a Chris yw’r prif ymgynghorydd sy’n gweithio ar y prosiect hwn ar fferm Cefngwilgy Fawr.
Cynhaliwyd ymweliad safle gan Chris Duller ac Elan Davies (Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio) ym mis Rhagfyr 2019 er mwyn cadarnhau manylion y prosiect a dynodi’r caeau ar gyfer treialu.
Mae’r lluniau isod yn dangos y caeau arbrofol posibl, gan edrych ar y math o bridd a gweld a oedd unrhyw broblemau cywasgiad. Mae cymysgedd o fathau o briddoedd ar y fferm, ond y prif fathau a welir yw cleibridd (Manod) a’r cleibridd silt sy’n draenio’n llai rhwydd (o gyfres Cegin); mae’r rhain yn bresennol ar ardaloedd mwy gwastad y fferm yn bennaf, a gall y rhain fod yn fwy agored i botsio a difrod dros y gaeaf.