Diweddariad Prosiect (Mai 2020) - Cefngwilgy Fawr - Cynyddu gwerth porthiant a dyfir gartref gan ddefnyddio meillion

Ar 6 Mai 2020, cafodd dau gae eu hail hau; un gyda chymysgedd meillion gwyn a’r llall gyda chymysgedd meillion coch.  

 

Cae 1 (6 erw)

Ar gyfer y gymysgedd meillion gwyn, mae cyfraddau amrywiol yn cael eu treialu ar wahanol rannau o’r cae, h.y. 0 meillion, 1kg/erw, 2kg/erw – gan ddefnyddio cymysgedd sylfaenol ‘century mix’ gan Oliver Seeds.

 

Cae 2 (5 erw)

Ar gyfer y gymysgedd meillion coch, defnyddiwyd ‘fortress mix’ gan Oliver Seeds; sef 1kg/erw o feillion gwyn, a 3kg/erw o feillion coch.

Mae ardal 1 erw o bob un o’r caeau hyn wedi cael ei hau gan ddefnyddio cymysgedd glaswellt nad yw’n cynnwys meillion, fel llain reoli (yn hytrach na defnyddio cae cyfan). 

 

Camau nesaf;

  • Pori’n ysgafn am y tro cyntaf gobeithio yng nghanol i ddiwedd Mehefin.
  • Gosod cewyll glaswellt ym mis Gorffennaf i fonitro a chofnodi cyfraddau twf glaswellt a chyfansoddiad.
  • Monitro perfformiad anifeiliaid (h.y. monitro cyfraddau twf yr ŵyn a fydd yn pori’r caeau sydd wedi cael eu hail hau).
  • Byddwn yn cyfrif y meillion yn ystod y gwanwyn nesaf (i weld beth sy’n goroesi dros y gaeaf).

Mae’r lluniau isod yn dangos y gwaith o ail hau ar y caeau arbrofol;