Enw

Ben Barnes

Lleoliad

Malvern

Prif Arbenigedd

Llysiau Cae

Sector

  • Llysiau Cae

Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?

  • Rwy’n cynnig llu o wybodaeth a phrofiad ymarferol, o safbwynt ymchwil a datblygu a thyfu ymarferol
    Rwy’n tynnu ar ystod o dechnegau a ddefnyddir gan un o’r cynhyrchwyr llysiau mwyaf yn y DU (G’s), ynghyd ag awgrymiadau ymarferol ar raddfa fach a ddatblygwyd o ganlyniad i’m gwaith arbrofi fy hun wrth dyfu ar raddfa fach
  • Rwy’n dod o gefndir amaeth ac rwy’n deall y prif broblemau sy’n wynebu ffermwyr, ac yn gallu ymdeimlo â’r rhain ar lefel bersonol drwy brofiadau cyffredin
  • Mae gen i brofiad o amaethyddiaeth mewn amgylchedd dan reolaeth drwy ffermio fertigol, tai gwydr a thwneli plastig, a gallaf ddarparu cyngor ar sawl agwedd, gan gynnwys dyluniad a chynlluniau busnes
  • Rwyf wedi cefnogi gwaith ymchwil mewnol i helpu i ddatrys heriau agronomeg gan gynnwys plâu, clefydau, chwyn a phroblemau ffisioleg
  • Gallaf ddarparu cyngor ar gynhyrchu llysiau drwy’r flwyddyn, trwy lunio rhaglen a gwneud y defnydd gorau o leoedd dan do ac yn yr awyr agored
  • Gallaf ddarparu cyngor ar strategaethau rheoli plâu integredig gan gynnwys rheoli chwyn 
     

Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad

  • Agronomegydd gyda chymhwyster BASIS mewn llysiau cae
  • Dros 10 mlynedd o brofiad ffermio ymarferol mewn ystod o wahanol systemau 
  • Dros 4 blynedd o waith ymchwil (lluosogi, ffermio fertigol a monitro plâu), fel rhan o dîm arloesi G’s
  • Dros dair blynedd o brofiad o gynhyrchu llysiau ar raddfa fach
  • Bron i flwyddyn o brofiad yn darparu gwasanaethau ymgynghorol i ffermwyr
     

Awgrym /Dyfyniad

“Mae’n bosibl i unrhyw un yn y DU lwyddo i dyfu llysiau drwy gydol y flwyddyn.”