Enw

Charles Bentley

Lleoliad

Gorllewin Sir Gâr

Prif Arbenigedd

Isadeiledd fferm

Sector

  • Pob sector

Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?

  • Dros 30 mlynedd o gadw ffermydd llaeth ar y trywydd iawn o safbwynt Asiantaeth yr Amgylchedd a CNC. Helpu ffermwyr i ddod o hyd i atebion sy’n addas ar eu cyfer nhw a'r fferm.
  • Profiad ymarferol uniongyrchol o systemau tir âr a rheoli glaswelltir. Ar hyn o bryd, mae’n rhedeg menter bîff, glaswelltir a choetir gartref yn Sir Gaerfyrddin.
  • Mae’n cymryd amser i ddod i ddeall systemau presennol, sefyllfa’r busnes a natur y broblem, i sicrhau bod y dull mwyaf addas yn cael ei nodi.
  • Profiadol iawn wrth ddatrys problemau, ac mae’n deall heriau trin, storio a gwasgaru slyri, gan ddarparu datrysiadau ymarferol i reoli tail (gan gynnwys slyri ar wely tywod) ar y fferm.
  • Dealltwriaeth gynhwysfawr o’r ddeddfwriaeth berthnasol a’r gallu i ganfod y dull mwyaf addas a chost effeithiol.
  • Mae’n deall gofynion gweithredol ac ymarferol ar gyfer storio porthiant, cadw a thrin da byw dan do, ac agweddau economaidd buddsoddiad hirdymor mewn cyfleusterau.
  • Yn gyfarwydd ag ystod o systemau trin anifeiliaid cnoi cil a moch a systemau trin gwrtaith a’u goblygiadau ar gyfer ffermydd, ynghyd â materion rheoli ammonia, nitradau a ffosffadau.

Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad

  • BSc Anrh. Amaeth (Bangor) 
  • MSc Peirianneg Amaethyddol (Silsoe)
  • CEnv, MIAgrE
  • Tystysgrig FACTS rhif FE926
  • BASIS Garddwriaeth Amwynder
  • BASIS Cadwraeth a Phridd a Dŵr
  • Awdur cyfrannol / golygydd Canllaw CIRIA 759F Livestock manure and silage storage infrastructure.  
  • Arweinydd technegol ADAS ar gyfer isadeiledd.
  • 31 mlynedd o asesu a dylunio storfeydd slyri, tail a silwair, storfeydd grawn, ardaloedd llenwi chwistrellwyr, creu gwlypdiroedd ac ati ar ran ffermwyr, perchnogion tir, cwmnïau dŵr a’r llywodraeth.
     

Awgrym /Dyfyniad

“Peidiwch â phoeni. Cymerwch eich amser i ddeall eich opsiynau’n iawn, cynlluniwch y ffordd ymlaen i sicrhau eich bod ar y trywydd iawn.”