Enw

Gillian Preece

Lleoliad

Swydd Amwythig

Prif Arbenigedd

Rheoli Maetholion

Sector

Da Byw

Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?

Pam fyddech chi’n gynghorydd effeithiol?    Mae Gillian Preece yn Uwch Ymgynghorydd Amaethyddol yn gweithio i ADAS yng Nghymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Mae gan Gillian gymwysterau proffesiynol perthnasol ynghyd â phrofiad eang o’r diwydiannau tir a’r problemau sy’n eu hwynebu. Mae ganddi 25 mlynedd o brofiad o ddarparu cyngor ar draws ystod o feysydd gan gynnwys rheoli busnes, a phynciau amgylcheddol a thechnegol.

Yn ystod ei gyrfa hyd yma, mae Gillian wedi gweithio ar amrywiaeth o brosiectau’n canolbwyntio ar ddiogelu’r amgylchedd. Roedd hi’n rhan bwysig o’r tîm a fu’n darparu cyngor ar y Parthau Perygl Nitradau (NVZ) ar ffurf ymweliadau un i un a gweithdai/cyfarfodydd yn ystod dau gyfnod o ehangu’r ardal NVZ yn Lloegr. Mae wedi cyflawni 50 o Gynlluniau Rheoli Maetholion drwy Cyswllt Ffermio gan ddarparu cyngor am faetholion i fwy na 170 o fusnesau unigol. Mae’n darparu cyngor ar isadeiledd fferm fel rhan o Ffermio mewn Dalgylchoedd Sensitif, ac yn cynorthwyo ffermwyr gyda Cheisiadau Stiwardiaeth Cefn Gwlad a Chymhelliant Ffermio Cynaliadwy ynghyd â gwaith ymgynghori arall ar sail un i un.
Mae cyngor busnes fferm strategol a rheoli risg yn nodwedd ganolog o’i gwaith ymgynghori masnachol. Mae hyn yn cynnwys adolygu perfformiad busnes ei chleientiaid yn rheolaidd (gan gynnwys meincnodi), asesu eu hamcanion, gwerthuso cryfderau a gwendidau presennol, llunio cyllidebau a llif arian parod i asesu effaith unrhyw newidiadau arfaethedig, a monitro perfformiad y busnes. Yn ddiweddar, mae wedi bod yn darparu adolygiadau busnes a chyngor busnesau fferm arall drwy Gronfa Cydnerthedd Ffermio’r Dyfodol DEFRA.

Ynghyd â gweithio i ADAS, dechreuodd Gillian ffermio gyda’i gŵr 21 mlynedd yn ôl ar dir rhent. Fe wnaethon nhw adeiladu eu busnes, gan lwyddo i brynu eu fferm eu hunain yn 2017. Ar hyn o bryd maent yn ffermio 3000 o ddefaid Romney Seland Newydd ar gontract, ac mae ganddynt fuches o wartheg Luing.
 

Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad

  • Ymgynghorydd gyda chymhwyster FACTS (Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau) 
  • Tystysgrif BASIS (Cynllun Arolygu Safonau Agrocemegol Prydain) Pridd a Dŵr
  • HNC Technoleg Bwyd
  • BSc Anrh. mewn Gwyddor Anifeiliaid (2:1)
  • 25 mlynedd o brofiad o ddarparu gwasanaeth ymgynghori 
     

Awgrym /Dyfyniad

“Peidiwch â gwastraffu eich arian yn ychwanegu Nitrogen os mae eich pridd yn rhy asidig neu’n brin iawn o faetholion eraill – mae profi’r pridd yn gyson yn hanfodol”