Sam Evans, Sam Evans Associated Limited

Mae Sam wedi'i leoli ym Mhowys, ond mae'n gallu teithio ledled Cymru i hwyluso cyfarfodydd teuluol ar olyniaeth. Mae Sam yn hwylusydd profiadol, gyda dros 15 mlynedd o brofiad blaenorol mewn cynllunio a hwyluso olyniaeth. Mae wedi gweithio yn y diwydiant amaethyddol am yr ugain mlynedd diwethaf, gan olygu bod ganddo ddealltwriaeth gref o'r diwydiant a materion cyfredol.