Sector Dofednod
Defnyddio diheintydd niwl thermol mewn siediau ieir cyn stocio i leihau nifer yr achosion o gloffni enterococws
Nod y prosiect yw gwella iechyd, lles a pherfformiad brwyliaid yn sylweddol drwy roi protocol diheintio niwl thermol newydd ar waith cyn lleoli’r adar gan ddefnyddio Halamid yn y ddwy sied frwyliaid. Y nod yw darparu’r dechrau glanaf posibl i’r cywion, gan leihau’r defnydd o wrthfiotigau a lliniaru problemau megis cloffni entercocws. Bydd effeithiolrwydd y newid hwn ar draws y fferm gyfan yn cael ei werthuso’n fanwl drwy gymharu dangosyddion perfformiad allweddol megis defnydd o wrthfiotigau, cyfraddau marwolaeth, a chymarebau trosi porthiant o 4-5 cnwd dilynol yn erbyn pedair blynedd o ddata hanesyddol, gan bennu yn y pen draw a all y dull hwn o ddiheintio hybu perfformiad adar a lleihau cloffni.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:
- Safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel
- Defnyddio adnoddau’n effeithlo