Sector Garddwriaeth

Gwerthuso technegau trin migwyn ar raddfa cae

Bydd y prosiect hwn yn asesu dau wahanol ddull o blannu migwyn – plannu mewn hambwrdd gyda chelloedd unigol a chwistrellu hylif ar fwsogl wedi’i dorri – ar gae heb ei drin yn flaenorol. Bydd hefyd yn gwerthuso effaith gorchuddio gwelyau’r arbrawf yn hytrach na’u gadael yn agored. Y prif nod yw pennu’r amodau gorau posibl ar gyfer twf migwyn trwy fonitro lefelau dŵr a pH y pridd, ac mae’r prif amcanion yn cynnwys cymharu llwyddiant sefydlu’r ddau ddull, gan asesu dylanwad gorchudd ar dwf migwyn, a nodi technegau trin y mae modd eu datblygu ar raddfa fwy. Gan dynnu ar arweiniad gan ymdrechion adfer rhostiroedd yn y DU, nod yr arbrawf hwn yw datblygu cynnyrch amgen yn hytrach na mawn o Gymru at ddefnydd garddwriaethol.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Defnyddio adnoddau’n effeithlon
  • Storio carbon