Mae'r technolegau a ddefnyddir ar ffermydd yn datblygu'n gyson, yn hynny o beth, i roi cyd-destun, diweddarwyd yr eDdysgu hwn ddiwethaf ym mis Hydref 2024. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu twf sylweddol mewn technolegau manwl gywir, y cyfeirir atynt yn aml fel ffermio manwl gywir neu amaethyddiaeth fanwl gywir. Er bod llawer o wledydd Ewrop ac UDA wedi bod ar flaen y gad o ran mabwysiadu'r technolegau hyn, mae eu defnydd bellach yn tyfu yn y DU.
Felly, pa dechnolegau sydd ar gael?
Sut y gellir eu defnyddio?
Beth yw'r buddion a'r heriau maen nhw'n eu cynnig?
Bydd y modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o'r technolegau sy'n effeithio'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol ar y sector ffermio âr, gan eich helpu i wneud penderfyniadau mwy gwybodus wrth gynllunio ar gyfer dyfodol eich fferm.
Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]