Mae effeithlonrwydd ynni yn ffordd wych o leihau eich costau gweithredu a gwella proffidioldeb eich busnes. Mae'r modiwl hwn yn gyflwyniad i egwyddorion effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu a defnyddio ynni adnewyddadwy ar y fferm. Mae hefyd yn archwilio rhai opsiynau sydd ar gael i ffermwyr a thyfwyr i wneud eu gweithrediadau yn ynni effeithlon. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae diddordeb mewn arbed ynni ac ynni amgen wedi codi’n aruthrol. Mae hyn o ganlyniad i brisiau tanwydd ansefydlog a'r awydd i symud tuag at ffynonellau ynni adnewyddadwy a chynaliadwy. Mae ffermydd ledled y wlad yn cynhyrchu eu hynni eu hunain fwyfwy trwy dyrbinau gwynt, paneli solar, a systemau treuliad anaerobig, gyda’r trydan dros ben yn aml yn cael ei werthu'n ôl i'r grid. Yn ogystal, mae rhai ffermwyr wedi archwilio biomas tanwydd coed (naill ai wedi’i brynu i mewn neu wedi’i dyfu ar y fferm), gan ragweld datblygiadau mewn technoleg a marchnadoedd biodanwydd cellwlosig. Mae arbed ynni a gwella effeithlonrwydd ynni nid yn unig yn dda i'r amgylchedd - mae'n lleihau dibyniaeth ar danwydd ffosil ac yn atal allyriadau nwyon tŷ gwydr - yn ogystal, mae’n arbed arian i ffermwyr.


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Treth ar Werth
Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno eich rhwymedigaethau mewn perthynas
Mastitis mewn Gwartheg
Achosir mastitis mewn gwartheg llaeth bron bob tro gan haint
Llyngyr Yr Iau Mewn Gwartheg
Mae'r modiwl hwn yn edrych ar achosion, dulliau atal a thriniaeth