Mae garddwriaethwyr fel arfer yn tyfu cnydau mewn tŷ gwydr neu dwnnel polythen, lle mae modd rheoli’r ffactorau canlynol:
Tymheredd
Lleithder
Golau
Carbon deuocsid
Pan maen nhw’n cael eu rheoli i’r lefel orau posibl, mae’r amodau hyn yn cynyddu’r cnwd fesul uned o ynni a ddefnyddir. Mae creu amodau dymunol yn gofyn am gryn dipyn o ynni. Mae’n bwysig, felly, eich bod yn gweithio tuag at wella effeithlonrwydd ynni er mwyn arbed costau. Bydd y modiwl hwn yn amlinellu sut i wneud y mwyaf o effeithlonrwydd ar draws sawl maes o fewn garddwriaeth, gan gynnwys gwresogi, dyfrio a storio.
Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]