Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno gwahanol bynciau sy'n hanfodol ar gyfer gwella ffrwythlondeb eich pridd a chynyddu cynhyrchiant eich cnydau. Bydd yn cyflwyno gwybodaeth am hanfodion ffrwythlondeb pridd, y gwahanol rannau o’r pridd, mesur y pridd, ac arferion da ar gyfer rheoli’r pridd. Mae’r modiwl hefyd yn eich cyflwyno i ddulliau ymarferol o sut i reoli’r pridd. Mae'r arferion y byddwch chi'n eu defnyddio’n cynnwys cylchdroi cnydau, gan ddefnyddio tail gwyrdd, compostio, a thrin y tir yn llai aml. Mae'r arferion rheoli pridd yn gynaliadwy yn darparu manteision er mwyn gwella ffrwythlondeb y pridd, atal pla a chlefydau, gwella’r cyflenwad o faetholion i'r planhigyn ac yn y pen draw gynyddu cynhyrchiant cnydau.
Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]