Bydd y cwrs hwn yn edrych ar ffactorau sy'n ymwneud ag allyriadau fferm a gwneud y mwyaf o atafaelu carbon o fewn arferion ffermio cynaliadwy a rheoli tir. Bydd strategaethau effeithlonrwydd ynni yn cael eu trafod yn ogystal â chynhyrchu ynni drwy dechnolegau adnewyddadwy fel ffordd o leihau costau a’r allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n gysylltiedig â busnesau fferm. Mae iechyd da byw ac allyriadau hefyd yn ffocws gan mai da byw sy’n cyfrannu’r gyfran fwyaf o’r holl allyriadau amaethyddol.
Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]