Mae’r diwydiant porc yng Nghymru yn fach, yn enwedig o’i gymharu â defaid a gwartheg, ond mae’n parhau i fod yn sefydlog gydag oddeutu 23,000 o foch. Mae’r diwydiant moch yng Nghymru’n cynnwys nifer uwch o genfeintiau bach sy’n cael eu ffermio’n llai dwys ond yn cynhyrchu cig o ansawdd uchel. O ystyried bod costau porthiant yn gallu cyfrif am 60-75% o gyfanswm costau cynhyrchu porc, gallai cynhyrchwyr fod yn chwilio am ffyrdd o wella effeithlonrwydd porthiant, neu borthiant amgen, yn enwedig cynnyrch gwastraff a fyddai’n cynyddu cynaliadwyedd y fenter.
Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]