Mae’r pryder cynyddol ynghylch newid hinsawdd wedi arwain at fwy o angen i leihau faint o allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) a gaiff eu cynhyrchu gan amaethyddiaeth. Mae nwyon tŷ gwydr yn amsugno ymbelydredd solar ac, wrth wneud hynny, yn cynhesu’r atmosffer. Fe gaiff y termau ‘Ôl Troed Carbon’ ac ‘Allyriadau Carbon’ yn aml eu defnyddio i ddisgrifio nwyon tŷ gwydr. Mae’r rhain yn dermau ymbarél sydd nid yn unig yn cyfeirio at y nwyon tŷ gwydr hynny sy’n cynnwys carbon, fel carbon deuocsid (CO2) a methan (CH4), ond hefyd rai eraill fel ocsid nitrus (N2O).
Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]