Mae cynhyrchu dofednod yn sector amaeth sydd ar gynnydd yn y DU, oherwydd y galw cynyddol am gynnyrch wyau a chig dofednod. Mae tail dofednod yn sgil-gynnyrch y cynhyrchu hwn ac mae'n llawn maethynnau, a all gynnig ffynhonnell sylweddol o nitrogen (N), ffosfforws (P) ac elfennau hybrin ar gyfer cynhyrchu cnydau. Gall y deunydd hwn hefyd wella ffrwythlondeb ffisegol a biolegol y pridd, gan ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer ei daenu ar y tir fel gwrtaith.
Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]