Sicrhau bod Ymwelwyr yn Ddiogel ac yn Iach mewn Digwyddiadau Fferm Agored

Cyn misoedd yr Haf, ac wrth i chi baratoi i agor eich fferm i'r cyhoedd ar gyfer digwyddiadau neu ymweliadau, byddwch yn wyliadwrus ac ystyriwch Iechyd a Diogelwch.

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn atgoffa ffermwyr am bwysigrwydd iechyd a diogelwch wrth groesawu ymwelwyr. Mae digwyddiadau fferm agored yn cynnig cyfle gwych i'r cyhoedd gysylltu â byd amaeth, ond mae'n hanfodol bod ffermwyr yn deall ac yn rhoi'r mesurau angenrheidiol ar waith i sicrhau diogelwch a lles pawb. Mae hyn yn cynnwys rheoli risgiau sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid, peiriannau fferm, a darparu cyfleusterau hylendid digonol. Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn tynnu sylw at ganllawiau sydd ar gael a Chod Ymarfer y diwydiant i helpu ffermwyr i greu profiadau diogel a phleserus i bawb.

Am ragor o wybodaeth:

(Sylwer: Gwybodaeth o wefan yr HSE sef yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch sydd isod ac nid yw ar gael yn y Gymraeg)