Sion Evans

Mae Sion yn siaradwr Cymraeg o Geredigion, ond mae'n barod i deithio ar draws Cymru i hwyluso cyfarfodydd teuluol ar olyniaeth. Bu Sion yn gweithio i Cyswllt Ffermio am 20 mlynedd yn y gorffennol ac mae ganddo ddigon o brofiad o ddelio â ffermwyr, hwyluso trafodaethau ar amrywiaeth o bynciau a threfnu digwyddiadau. Mae wedi cael ei hyfforddi mewn Dysgu Gweithredol ac yn ddiweddar ymgymerodd â chwrs manwl gyda’r hwylusydd olyniaeth enwog Sian Bushell yn ffocysu ar Olyniaeth Teuluol. Mae Sion hefyd yn ffermwr, sy'n golygu bod ganddo ddyfnder a dealltwriaeth helaeth o'r diwydiant amaethyddol.